´óÏó´«Ã½

Taith yr actores Rhian Morgan i fod yn offeiriad yn yr eglwys

  • Cyhoeddwyd
Rhianm Morgan
Disgrifiad o’r llun,

"Wrth feddwl yn ôl dwi'n meddwl mod i wedi bod ar ryw lwybr o geisio canfod ffordd ymlaen yn ysbrydol ers amser," meddai'r actores Rhian Morgan sy'n hyfforddi i fod yn offeiriad

Mae'r actores Rhian Morgan wedi bod yn siarad am ei llwybr newydd mewn bywyd wrth iddi hyfforddi i fod yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru.

Mae'r enillydd BAFTA yn adnabyddus ers degawdau ar lwyfan a theledu yng Nghymru am actio rhannau difri a digri - gan gynnwys yn Pobol y Cwm, Licyris Olsorts, Gwaith Cartref ac Un Bore Mercher.

Mae hi bellach nôl yn y coleg yn astudio yn athrofa'r Eglwys yng Nghymru yn Llandaf - tipyn o newid o'i dyddiau yn astudio Drama yn Aberystwyth fel myfyriwr ifanc.

Wrth drafod ei phrofiad ar raglen Beti a'i Phobol dywedodd ei bod ar ganol ffilmio pennod o Casualty pan glywodd ei bod wedi ei derbyn i astudio ar gyfer y swydd newydd yn yr eglwys.

Mae'r 'alwad' i fynd i'r offeiriadaeth wedi bod yn annisgwyl ac wedi digwydd yn sgil "y peth mwyaf rhyfedd ddigwyddodd i mi tra'n arwain addoliad yn eglwys Llandeilo," meddai Rhian Morgan.

Ceisio canfod llwybr ysbrydol

"Wrth feddwl yn ôl dwi meddwl mod i wedi bod ar ryw lwybr o geisio canfod ffordd ymlaen yn ysbrydol ers amser mawr ac yn sgil digwyddiad hollol ddisymwth dwi wedi ffendio fy hun nawr yn fyfyriwr yng ngholeg San Padarn yn Llandaf."

Wedi ei magu yn y capel fel bedyddwraig yng Nghwm Rhyd y Ceirw ger Treforys fe drodd at y Crynwyr yn ddiweddarach pan roedd yn byw yng Nghaerdydd.

"Chi'n derbyn pethe da gan eich rhieni a'ch tylwyth ond oedd na rywbeth yn fy meddwl i oedd ddim yn gallu gorffwys yn esmwyth ac oni'n gwybod mod i'n gorfod ceisio dilyn fy nhrywydd fy hunan ac ymgodymu â'r ffydd a cheisio ffeindio rhywle lle o'n i'n gallu teimlo'n gartrefol.

"...roedd yr angen yna i chwilio am rhywbeth oedd yn mynd a fi yn ddyfnach yn amlwg yn cyniwair."

Ac fe gafodd hyd i'r lle hwnnw un noson pan welodd olau ymlaen yn yr eglwys yn Llandeilio a chael ei thynnu i mewn.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhian Morgan yn actio Carol Gwyther, gwraig Dic Deryn, ar opera sebon Pobol y Cwm

Mae Rhian dan deimlad wrth sôn am y noson pan "ddigwyddodd rhywbeth" bron i bum mlynedd yn ôl

Roedd erbyn hynny wedi cael rhywfaint o hyfforddiant fel arweinydd addoliad ac yn helpu i arwain rhai o'r gwasanaethau gweddi

"Y bore dydd Sul yma dyma fi'n mynd... ryw lond dwrn o bobl oedd yn y gynulleidfa ...

"O'n i wedi paratoi i siarad ar bennod 10 o lyfr yr Actau lle mae Pedr yn dod i dÅ· y Canwriad Corneliws..."

Yn y darn, cyn i Pedr orffen siarad "mae'r ysbryd glân yn disgyn a mae Corneliws yn derbyn gair Duw..." ebonia.

Ond wrth iddi hi gyrraedd y darn yma fe gafodd brofiad rhyfedd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Radio Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Radio Cymru

"...fel o'n i'n siarad fe ddigwyddodd rhywbeth ac o'n i ddim yn gallu cario mlaen. Roedd y dagrau yn llifo i lawr fy wyneb ac o'n i ddim yn gallu mynd ymlaen na nôl - o'n i'n teimlo yn hollol suspended ..

"O'dd y grym mwyaf rhyfeddol yn fy stopio i rhag cario mlaen a fues i'n sefyll fan'na yn teimlo fel twpsyn am tua deg eiliad mae'n siŵr. A teimlo os na garia'i mlaen mi fydd yn embarysing i bawb felly dyma fi gyda'n holl nerth yn ceisio mynd nôl i be ro'n i wedi sgrifennu."

Llwyddodd i orffen y darn cyn ymddiheuro a dweud nad oedd yn gwybod beth oedd wedi digwydd.

"Fe wedodd fy ffrind 'Paid a besco' medde fe, 'fe deimlon ni bresenoldeb yr ysbryd glân yma hefyd'.

'Rhyfeddol ac annisgwyl'

"Dydi pethe fel hyn ddim yn digwydd i'n teulu ni. Mae hwn yn rywbeth hollol rhyfeddol ac annisgwyl," meddai.

Ffynhonnell y llun, PAUL ANDREW

Pan aeth adref fe deimlodd hapusrwydd mawr.

Fe ddywedodd wrth ei gŵr, y darlledwr Aled Samuel, ond penderfynodd nad oedd eisiau gwneud dim mwy am y peth ar y pryd.

Doedd hi ddim eisiau labelu'r profiad fel 'troedigaeth' meddai gan y byddai hynny'n "sarnu" neu "fychanu" profiad oedd wedi teimlo yn bur iddi hi.

"O'n i mewn dryswch llwyr, o'n i methu mynd mewn i'r eglwys heb ddechrau llefen, o'n i methu cymryd rhan."

Bron i flwyddyn wedyn cafodd wahoddiad i ddarllen; daeth y dagrau eto ond fe gariodd ymlaen.

Awgrymodd ffrind iddi wedi hynny efallai y dylai ystyried y weinidogaeth - chwerthin oedd ei hymateb cyntaf ond yna, penderfynodd gymryd "naid o ffydd".

Mynd o flaen y panel

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Rhian Morgan wobr Bafta am actio rhan Gwen Lloyd yn Gwaith Cartref ar S4C

Mae'r broses o gael ei derbyn i hyfforddi wedi cynnwys mynd o flaen paneli o esgobion lleol a chenedlaethol i weld a oedd yn addas.

"O'n i'n gwneud pennod o Casualty ar y pryd pan ddaeth y newyddion, llythyr gan yr esgob, a ngŵr yn darllen e ar y ffôn - o'n i'n teimlo bod dau fyd [yn dod ynghyd]."

Mae sawl peth am yr eglwys yn apelio meddai Rhian: "Mae na bwyslais ar ddefod, mae na bwyslais ar y sacrament, 'dyw e ddim yn annhebyg wrth gwrs i waith y Theatr."

Ffynhonnell y llun, Robbie Jack
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Morgan yn actio yn y ddrama Deepcut gan gwmni theatr Sherman Cymru yng Nghaeredin ble'r enillodd y ddrama wobr gwyl y Fringe

"Mae 'na hefyd wagleoedd o fewn eglwys i fod yn dawel ac i fyfyrio ac mae na wagleoedd felly i ymollwng.

"Ac hefyd y litwrgi - mae ffurf yn golygu lot i fi a pan 'y'n ni'n meddwl am gynghanedd, mae'n gaeth ond mae na ryddid hefyd, a chi'n gallu ymgolli."

Lle mae'r pwyslais yn gryf yn y capel ar yr un person sy'n pregethu mae mwy o ffocws ar yr allor yn yr eglwys meddai Rhian, gyda'r pwlpud i'r dde o'r allor "felly mae eich ffocws chi ar y sacrament a'ch holl synhwyrau yn cael eu tynnu mewn i'r ddefod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Rhian Morgan a'i gŵr, y cyflwynydd Aled Sanuel, ddau fab, Ifan a Mabon

Ydy'r profiad wedi ei newid hi mewn ffyrdd eraill?

"Wy'n meddwl mod i'n berson llawer mwy hapus, llawer mwy bodlon, llai gofidus yn bendant ... dwi'n teimlo mod i ar lwybr a mewn ffordd bod rhaid imi ganiatáu fy hunan i gael fy arwain.

"Dwi'n teimlo'n hollol saff erbyn hyn, mae'n rhywbeth o'n i ddim yn disgwyl a mae e'n rhodd ac mae'n rhan o mhrofiad personol i ac alla'i ddim ei wadu. Ac felly dwi'n teimlo os galla' i ei rannu ac os galla' i fod o help i eraill wel dyna fy nyletswydd i a dyna fy mraint i."

Dywed Rhian ei bod am barhau i actio wedi iddi ddod yn offeiriad.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig