Diwedd Llafar Gwlad: 'Rhaid diogelu cylchgronau'

  • Awdur, Sara Down-Roberts
  • Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw

Mae cyn-weinidog diwylliant wedi rhybuddio bod angen diogelu cylchgronau sy'n bodoli eisoes a dysgu gwersi o'r gorffennol.

Daw wrth i'r Cyngor Llyfrau ystyried ceisiadau am 拢30,000 i beilota dau gylchgrawn newydd yn y Gymraeg.

Eleni bydd cylchgrawn Llafar Gwlad yn dod i ben - cylchgrawn chwarterol sydd wedi bodoli ers Eisteddfod Genedlaethol Llangefni yn 1983.

Yn sgil hynny ac arian un tro gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor Llyfrau yn ystyried ceisiadau i beilota cylchgrawn hanes poblogaidd a chylchgrawn chwaraeon "er mwyn ehangu'r ystod o bynciau a chylchgronau sydd ar gael i ddarllenwyr".

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd y cyn-weinidog Rhodri Glyn Thomas: "Mae'n gynllun diddorol ar lawer ystyr ond y cwestiwn mawr yw sut mae e yn effeithio ar y gyllideb gyffredinol ar gyfer y wasg, ar gyfer y cyhoeddiadau yn y Gymraeg.

"Mae'n rhaid cofio yr hyn ddigwyddodd gyda Golwg360 a Corgi lle rhannwyd y gyllideb ac yn sydyn ar 么l y penderfyniad fe ddiflannodd Corgi ar 么l ychydig wythnosau yn unig."

Ffynhonnell y llun, Rhodri Glyn Thomas

Disgrifiad o'r llun, Dywed Rhodri Glyn Thomas nad yw am weld cyhoddiad arall yn dioddef yn sgil peilota cylchgronau newydd

Ychwanegodd: "Felly mae'n rhaid bod yn ofalus iawn sut mae hyn yn effeithio ar gyhoeddiadau eraill ac mae'n rhaid edrych ar y gyllideb gyfan.

"Dwi'n meddwl y dyddiau yma pan bod arian yn brin ei bod hi'n bwysig amddiffyn yr hyn sydd eisoes wedi derbyn cyllid a bydden i ddim yn hoffi gweld unrhyw gyhoeddiad arall yn dioddef yn sgil hyn."

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau "ei bod hi'n gystadleuaeth agored a bod cyfle i gwmn茂au cylchgronau sy'n bodoli yn barod i ehangu eu darpariaeth".

Mwy na pedair gwaith arian Llafar Gwlad

Mae Myrddin ap Dafydd, golygydd presennol Llafar Gwlad, yn croesawu'r cynlluniau peilot, ond dywed bod y cyhoeddiad yn dipyn o sioc.

"Mi oedd hwnna ymhell dros bedair gwaith be' mae Llafar Gwlad yn cael y flwyddyn ar gyfer pedwar rhifyn," meddai.

"Yr ateb ro'n i'n cael gan y Cyngor Llyfrau ar hyd y 40 mlynedd oedd does gynnon ni ddim cyllid i ddatblygu y cylchgrawn fel hyn felly. O rywle mae wedi dod, mae hynna yn llawenydd.

"Falle y byddai cyd-drafod gyda gweisg sydd wedi dangos profiad a diddordeb yn y maes wedi bod yn fuddiol ond gawn ni weld be' ddaw yn y dyfodol."

Disgrifiad o'r llun, Y rhifyn cyntaf a'r diweddaraf o'r cylchgrawn Llafar Gwlad

Bydd cylchgrawn Llafar Gwlad, a oedd ar un adeg yn gwerthu dros 2,000 o gop茂au, yn dod i ben ym mis Mai.

"Dan ni yng Ngwasg Carreg Gwalch yn dechrau meddwl am drosglwyddo i genhedlaeth newydd a dyw hi ddim yn deg dwi'n meddwl i rywun roi rhywbeth sy'n hobi personol yn faen melin ar y genhedlaeth nesaf," ychwanegodd Mr ap Dafydd.

"Mae'r genhedlaeth nesaf, mae'r plant 'ma 芒 diddordeb yn y math yna o beth ond dwi'n meddwl y bydd eu diddordeb nhw mewn hanes a hanes lleol yn ogystal 芒 deunydd llafar gwlad.

"Mae'n bwysig iawn bod nhw yn meithrin to o sgwennwyr o'u cenhedlaeth eu hunain hefyd a gobeithio y gwelwn ni gylchgrawn yn llenwi'r bwlch yna."

Ddiwedd 2021 cyhoeddwyd bod y grant roedd gwasanaeth newyddion digidol Golwg360 yn ei dderbyn yn haneru wrth i wasanaeth newyddion digidol arall - Corgi Cymru - dderbyn 拢100,000.

Chwe mis wedi ei lansio fe ddaeth gwasanaeth Corgi Cymru i ben.

Roedd haneru'r grant yn ergyd, yn 么l Owain Schiavone, prif weithredwr Golwg, ond ddim yn ddrwg i gyd, ac mae'n croesawu'r cynlluniau peilot.

"O'dd hi'n glec i ni golli'r gyllideb o'dd gyda ni ers lansio Golwg360, ond ar yr un pryd ro'n i'n croesawu'r cyfle i gymryd cam yn 么l ac i edrych ar yr hyn ro'n ni'n ei wneud hefyd, a dwi'n meddwl bod y ffordd ry'n ni wedi addasu i'r her ac ymateb i'r her wedi bod yn llwyddiannus.

"'Dan ni wedi newid cyfeiriad 'chydig ond mae hwnna wedi bod yn rhywbeth positif dros ben.

"Mae unrhyw fuddsoddiad ychwanegol yn y diwydiant cyhoeddi Cymraeg yn un i'w groesawu - felly dwi'n falch iawn o weld arian ffres, fel petai, yn dod i mewn i'r diwydiant.

"Dwi'n cytuno i raddau gyda sylwadau Rhodri Glyn, wrth gwrs, a 'dan ni yn Golwg yn gweithredu ar gyllideb fach - cyllideb sydd heb dyfu rhyw lawer os o gwbl dros y blynyddoedd - felly yn amlwg y buaswn i fel pawb arall yn hoffi cael mwy o gyllideb a buddsoddi yn yr hyn ry'n ni'n ei wneud a pharhau i ddatblygu.

"Dwi'n teimlo ei bod yn anorfod bod yna elfen o gyhoeddi digidol ynghlwm ag unrhyw brosiect cyhoeddi newydd erbyn hyn. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod y Cyngor Llyfrau yn ystyried hynny."

'Cystadleuaeth agored - cyfle i ddarparwyr presennol'

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna gryn groeso i'r rhifyn cyntaf o Llafar Gwlad, a gafodd ei olygu gan y diweddar John Owen Huws

Doedd y Cyngor Llyfrau ddim am wneud cyfweliad wrth i'r broses o ystyried ceisiadau fynd yn ei blaen, ond maen nhw'n awyddus i nodi cyfraniad arbennig Llafar Gwlad.

"Yn dilyn penderfyniad Gwasg Carreg Gwalch i beidio gwneud cais i gyllido Llafar Gwlad dros y cyfnod nesaf roedd hynny'n gadael bwlch amlwg yn y ddarpariaeth," medd datganiad.

"Mae Myrddin ap Dafydd, trwy Llafar Gwlad, wedi darparu gwledd o ddeunydd i ddarllenwyr Cymru dros y deugain mlynedd diwethaf, ac fe fydd unrhyw un sydd 芒 chasgliad o'r cylchgrawn ar eu silff yn meddu ar drysor o archif fydd yn parhau yn werthfawr am ddegawdau i ddod.

"Gwelwyd cyfle i ddefnyddio'r arian unwaith ac am byth a dderbyniwyd gan y llywodraeth, i roi cyfle i beilota cylchgrawn hanes poblogaidd arall, gan obeithio sefydlu darpariaeth newydd ar gyfer y gynulleidfa yn Gymraeg.

"Yn yr un modd gwelwyd cyfle i beilota cylchgrawn chwaraeon, sydd heb fod yn Gymraeg o'r blaen, i ehangu'r ystod o bynciau a chylchgronau sydd ar gael i ddarllenwyr."

Mae'r Cyngor Llyfrau hefyd am bwysleisio bod y gystadleuaeth yn un agored a bod cyfle i gwmn茂au cylchgronau sy'n bodoli yn barod i ehangu eu darpariaeth.

Mae disgwyl i enwau'r ymgeiswyr llwyddiannus gael eu cyhoeddi ym mis Mawrth.