大象传媒

Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn 'gwadu maint y broblem'

  • Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru o flaen pwyllgor diwylliant Senedd Cymru fore Iau.Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Undeb Rygbi Cymru o flaen pwyllgor diwylliant Senedd Cymru fore Iau

Roedd rhybuddion wedi bod am rywiaeth yn rygbi Cymru ond roedd y corff llywodraethu "wedi bod yn gwadu maint y broblem", meddai'r prif weithredwr dros dro.

Bu Nigel Walker - ynghyd 芒 chadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Ieuan Evans - o flaen pwyllgor diwylliant Senedd Cymru fore Iau.

Mae URC wedi bod dan y lach yn ddiweddar ar 么l honiadau o "ddiwylliant gwenwynig", rhywiaeth a chasineb o fewn yr undeb.

Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Walker fod y manylion yn rhaglen 大象传媒 Wales Investigates wedi ei daro "fel lori 10 tunnell".

Dywedodd fod yr "arwyddion rhybudd wedi bod yno ers cryn amser".

"Rwy'n meddwl mewn unrhyw sefydliad, yn enwedig sefydliad mawr fel URC, ei bod yn bosib i bethau ddigwydd dros gyfnod o amser ac i bobl droi llygad dall a pheidio 芒 mynd i'r afael 芒'r problemau hynny.

"Pan mae'n cael ei gyflwyno mor fanwl ag yr oedd yn ystod [rhaglen 大象传媒 Wales Investigates], mae'n eich taro chi fel lori 10 tunnell."

Dywedodd Mr Walker hefyd na fyddai adroddiad a gomisiynwyd gan y sefydliad i g锚m y merched - sydd heb ei gyhoeddi - yn "ddarlleniad cyfforddus".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alecs Donovan, enillodd saith o gapiau dros Gymru, wedi dweud fod merched yn cael eu trin yn israddol gan yr URC

Ymddiheurodd Mr Walker a dywedodd fod ei feddyliau gyda staff a chwaraewyr a gafodd brofiadau negyddol.

"A bod yn onest, dwi'n meddwl ein bod ni fel sefydliad wedi bod yn gwadu maint y broblem," meddai.

Ymdriniwyd ag achosion "mewn theori, ac mae pobl wedi symud ymlaen".

"Mae pob achos unigol wedi bod yn arwydd bod problem ehangach wedi bod ond nid yw pobl wedi cysylltu'r dotiau," meddai.

Dywedodd Mr Walker fod gwaith yn cael ei wneud i gyhoeddi "fersiwn wedi'i olygu" o'r adroddiad.

"Ni fydd yr adroddiad yn gwneud darlleniad cyfforddus i'r rhai sy'n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru.

"Ond yn bersonol does gen i ddim gwrthwynebiad i'r adroddiad gael ei ryddhau."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ymddiswyddodd Steve Phillips fel prif weithredwr URC ar 29 Ionawr

Dylai enw'r sawl a benodwyd i gadeirio tasglu i adolygu'r diwylliant o fewn URC gael ei gyhoeddi ddydd Gwener, meddai Mr Walker.

Dywedodd fod y person yn fenyw a bod ganddi brofiad o weithio yn y farnwriaeth.

Ychwanegodd y byddai cylch gorchwyl y tasglu hefyd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener ac y byddai gweddill aelodau'r panel yn cael eu henwi ddechrau'r wythnos nesaf.

Bydd y panel yn dechrau ar ei waith ddiwedd yr wythnos nesaf, meddai.

'Hynod o siomedig'

O ran y bwriad i ad-drefnu'r bwrdd, dywedodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Ieuan Evans fod ganddo "hyder" bod y clybiau'n deall yr angen am newid.

Mae'r cynigion, y mae'n rhaid i'r clybiau rygbi eu cefnogi trwy bleidlais, yn cynnwys cael o leiaf pum menyw ar fwrdd 12 aelod yr undeb.

Dywedodd Mr Evans: "Rwy'n hyderus bod y clybiau'n deall pam ein bod yn ei wneud, i ba ddiben, a'r ffaith y byddwn yn rhedeg trefniadaeth yn well a'r g锚m yn cael ei rhedeg yn well o ganlyniad i hyn."

Ychwanegodd ei fod yn "hynod o siomedig" o glywed pam fod Amanda Blanc, prif weithredwr cwmni yswiriant Aviva, wedi gadael.

"Gobeithio ein bod yn gwneud y newidiadau yr hoffai hi eu gweld," meddai.

Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi cysylltu 芒 hi, dywedodd yr hoffai wneud hynny.