大象传媒

Dwsin o gadeiriau coll castell yn dychwelyd i Ddyffryn Conwy

  • Cyhoeddwyd
Ystafell fwyta Castell Gwydir
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cadeiriau eu creu yn y 17eg ganrif

Mae 12 cadair wedi cael eu dychwelyd i'w cartref gwreiddiol yn Nyffryn Conwy - 101 mlynedd ar 么l cael eu gwerthu.

Cafodd y cadeiriau eu cerfio gyda llaw yn yr 17eg Ganrif ar gyfer Castell Gwydir yn Llanrwst.

Ym 1921 cafodd y castell a'r rhan fwyaf o bethau ynddo eu gwerthu, gan gynnwys y cadeiriau.

Mae perchnogion presennol y castell wedi bod yn adfer y castell, ac yn chwilio am y dodrefn gwreiddiol er mwyn eu dychwelyd yno.

Prynodd Peter Welford a Judy Corbett y castell ym 1994.

Ers hynny maen nhw wedi llwyddo i ddarganfod nifer o ddarnau sy'n wreiddiol i'r castell, gan gynnwys paneli derw o'r ystafell fwyta oedd yn cael eu cadw mewn stordy amgueddfa yn Efrog Newydd.

Maen nhw hefyd wedi dod o hyd i fwrdd sy'n 430 mlwydd oed, a chist o ddroriau sy'n 400 mlwydd oed.

Cadeiriau unigryw

Yn 2021 fe gawson nhw e-bost annisgwyl gan y Casgliad Schroder, sef casgliad teuluol preifat y teulu bancio Schroder.

"Roedd yr e-bost yn dweud eu bod wedi clywed am ein gwaith adfer ar y castell a'n bod ni'n ceisio darganfod y dodrefn a werthwyd ym 1921," dywedodd Judy Corbett.

"Roedden nhw'n meddwl efallai bod ganddyn nhw gadeiriau Gwydir, ond gofynnon nhw a fydden ni'n gallu cadarnhau.

"Diolch byth mae gyda ni gopi o'r catalog gwerthu gwreiddiol o'r ocsiwn ym 1921, ynghyd 芒 llun o'r cadeiriau yn y castell, cyn i bopeth gael ei werthu.

Ffynhonnell y llun, Gwydir Castle
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cadeiriau cyn yr ocsiwn ym 1921

"Mae'r cadeiriau yn unigryw, felly roedd yn hawdd cadarnhau eu bod yr un peth 芒'r rhai oedd yn arfer bod yma.

"Roedden ni wedi ein synnu pan ddywedodd y Casgliad Schroder y bydden nhw'n eu rhoddi i'r castell fel eu bod yn gallu dychwelyd adref, a chael eu gweld gan ymwelwyr yn eu safle gwreiddiol."

'Gweithred anhygoel o ddyngarwch'

Mae Castell Gwydir yn faenordy o'r cyfnod Tuduraidd, gafodd ei adeiladu ym 1490. Roedd yn gartref i'r teulu Wynn a oedd yn ddisgynyddion i frenhinoedd Gwynedd.

Gwelodd y castell sawl ymweliad brenhinol gan gynnwys y Brenin Siarl I ym 1645 a'r Brenin George V (pan oedd yn Ddug Efrog) ym 1899.

Dywedodd Peter Welford: "Mae'n weithred anhygoel o ddyngarwch bod y cadeiriau wedi cael dod gartref.

"Aethon ni i'w casglu a'u gosod yn ofalus yn yr ystafell fwyta ble bydd ymwelwyr yn gallu eu gweld pan 'dyn ni'n agor am yr haf.

"Roedd yna gyffro go iawn pan wnaethon nhw ddychwelyd am y tro cyntaf mewn dros ganrif.

"'Dan ni dal yn ceisio darganfod y paneli o ystafell arall, y parlwr, gafodd eu gwerthu i'r perchennog papur newydd Americanaidd, William Randolph Hearst yn yr ocsiwn ym 1921.

"Ond hyd yn hyn, dydyn ni heb ddod o hyd iddyn nhw, er gwaethaf ein holl waith ditectif. Os oes unrhyw un yn gwybod ble maen nhw, cysylltwch os gwelwch yn dda."

Pynciau cysylltiedig