Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Daeargryn bychan yn ysgwyd canolbarth a de Cymru dros nos
Mae daeargryn bychan wedi ysgwyd rhannau o ganolbarth a de Cymru dros nos.
Dywedodd Arolwg Daearegol Prydain fod y daeargryn, oedd yn mesur 3.7, wedi digwydd toc cyn hanner nos.
Roedd y canolbwynt ychydig i'r gorllewin o Grughywel yn ne Powys, ac i'r gogledd o drefi Tredegar, Glynebwy a Brynmawr ym Mlaenau Gwent.
Fe ddigwyddodd 1.8 milltir o dan wyneb y ddaear, a dyma'r daeargryn mwyaf pwerus i daro de Cymru ers Chwefror 2018.
Dywedodd newyddiadurwr y 大象传媒, Alex Humphreys, ei bod hi wedi ei deimlo rhyw 30 milltir i ffwrdd yng Nghaerdydd, gan ddweud fod ei "gwely wedi crynu".
Ond mae rhai cyfrifon ar Twitter yn dweud eu bod wedi ei deimlo tua 100 milltir i ffwrdd yn Birmingham.
Cafodd Heddlu Gwent sawl galwad am y daeargryn, ond dywedon nhw nad oedd angen ymateb i'r un digwyddiad.
Dywedodd Stephanie Palfrey o ardal Clydach gerllaw ei bod yn "meddwl fod y mynydd tu 么l i'r t欧 yn llithro i lawr".
"Daeth pentrefwyr arall allan o'u cartrefi i weld beth oedd y s诺n.
"Dy'n ni'n byw mewn hen fwthyn. Allech chi glywed y to yn rattlo."
Fe wnaeth Geoffrey Davies o Langatwg ger Crughywel ei ddisgrifio fel "clec anferthol".
"Roedd y glec yn frawychus, ac yna o fewn rhyw eiliad roedd 'na glec arall," meddai.
"Doedden ni ddim yn gwybod beth i'w feddwl i ddechrau - doedd e ddim yn y math o glec i mi ei chlywed o'r blaen.
"Roedd yn teimlo fel pe bai wedi ein hysgwyd ni i'n sylfeini."
Yn 么l Arolwg Daearegol Prydain dyw daeargrynfeydd bychan ddim yn anarferol yng Nghymru.
Ond hwn oedd y daeargryn mwyaf yn ne Cymru ers i un oedd yn mesur 4.6 daro ardal Abertawe yn Chwefror 2018.
Fe ddigwyddodd y daeargryn cryfaf i gael ei gofnodi yng Nghymru - oedd yn mesur 5.4 - ym Mhen Ll欧n yn 1984.
Dywedodd Arolwg Daearegol Prydain, ar gyfartaledd, mai dim ond un daeargryn cryfach na 3.7 sy'n digwydd ym Mhrydain bob blwyddyn.
'Digwydd yn weddol anaml'
Yn siarad ar 大象传媒 Radio Wales fore Sadwrn dywedodd Dr Ian Stimpson, uwch-ddaearegwr ym Mhrifysgol Keele, fod daeargrynfeydd o'r fath yn "digwydd yn weddol anaml" yn y DU.
"Ond mae'r rhain yn llawer iawn llai na'r un a welwyd yn Nhwrci yn ddiweddar, er enghraifft. Roedd hwnnw filiwn gwaith yn fwy pwerus na'r un neithiwr," meddai.
Dyma'r pedwerydd daeargryn yng Nghymru yn y deufis diwethaf, ond roedd y lleill tipyn yn llai pwerus.
Cofnodwyd un oedd yn mesur 2 yn Llanbedr, Powys ar 27 Rhagfyr, un oedd yn mesur 1.1 yn Llandyb茂e, Sir G芒r ar 20 Ionawr, ac un oedd yn mesur 0.9 yn Llwyn-mawr, Wrecsam ar 4 Chwefror.