Plaid Cymru yn penodi Owen Roberts yn brif weithredwr

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n destun cyffro a balchder i mi fod yn ymgymryd 芒'r r么l," meddai Owen Roberts

Mae Plaid Cymru wed penodi Owen Roberts yn brif weithredwr.

Mae'n olynu Carl Harris a adawodd y swydd ym mis Rhagfyr wedi llai na blwyddyn a hanner, ynghanol adroddiadau am ddiwylliant gwenwynig a diffyg arweiniad yn y blaid.

Dywedodd Mr Roberts ei fod am "dyfu aelodaeth y blaid" ac "ysgogi ac ysbrydoli aelodau presennol i guro drysau a chynnal sgyrsiau gan ddod yn actifyddion pybyr yn ein cymunedau".

Daw'r penodiad "ar yr adeg bwysig hon yn hanes Plaid Cymru wrth i ni weithredu ein strategaeth wleidyddol newydd" meddai'r arweinydd Adam Price.

Yn gynharach y mis hwn, fe gymeradwyodd aelodau'r blaid strategaeth wleidyddol oedd yn nodi mai prif bwrpas y blaid yw sicrhau annibyniaeth.

Mewn sefyllfa lle na all y blaid ffurfio llywodraeth ar ei phen ei hun, cytunon nhw fod bod mewn grym yn well na pheidio.

Ar hyn o bryd mae Mr Roberts yn gyfrifol am gyfathrebu, materion allanol, a digwyddiadau mawr ar gyfer Hybu Cig Cymru.

Treuliodd gyfnod fel pennaeth ymchwil a chyfathrebu i Elin Jones AS pan oedd hi'n ddirprwy arweinydd y blaid ac yn llefarydd ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Cafodd ei fagu yng Ngheredigion, ac mae'n byw ar hyn o bryd gyda'i deulu ger Penrhyncoch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ym mis Tachwedd, daeth i'r amlwg bod honiad o ymosodiad rhyw wedi'i wneud yn erbyn uwch aelod o staff.

Roedd yr honiad yn wahanol i'r rheiny gafodd eu gwneud yn erbyn AS Plaid Cymru, Rhys ab Owen, sy'n parhau i fod wedi ei wahardd o gr诺p y blaid yn y Senedd wrth i gomisiynydd safonau'r Senedd gynnal ymchwiliad.

Yn dilyn ymadawiad Mr Harris, fe wnaeth y blaid benodi eu cyn-Aelod Cynulliad, Nerys Evans i gadeirio gr诺p gwaith ochr yn ochr 芒'u Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol i edrych ar ddiwylliant o fewn Plaid Cymru.

Dywedodd Plaid Cymru y bydd Mr Roberts yn dechrau ar ei swydd newydd fel prif weithredwr y blaid "yn yr wythnosau nesaf".