Galw eto am ailystyried ffordd osgoi yn Llanbedr

Disgrifiad o'r llun, Fe ddaeth degau i ymuno 芒'r brostest yn y pentref
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Fe ddaeth tua 150 o bobl ynghyd i gerdded yn araf drwy bentref Llanbedr yng Ngwynedd ddydd Sadwrn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail ystyried codi ffordd osgoi yno.

Yn 2021, fe benderfynodd gweinidogion ym Mae Caerdydd atal y cynllun i godi ffordd o gwmpas y pentref gan nad oedd yn cyd-fynd 芒'u gweledigaeth i leihau allyriadau carbon.

Ond mae trigolion yn mynnu fod y pentref, sy'n profi tagfeydd cyson yn yr haf, bellach yn beryglus a lefelau llygredd yn rhy uchel.

Gyda galw eto ar Lywodraeth Cymru i ailystyried, maen nhw'n mynnu fod angen "edrych ar ffyrdd gwahanol i drefnu trafnidiaeth" gan ddweud eu bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i fynd i'r afael 芒'r tagfeydd.

Ond fe gerddodd tua 150 o brotestwyr ar hyd y brif ffordd fore Sadwrn yn galw am ffordd osgoi oherwydd sgil effaith y tagfeydd a'r llygredd aer.

Yn ystod tymor yr haf mae'r l么n yn profi tagfeydd yn aml oherwydd prysurdeb safle gwyliau Mochras gerllaw, a'r lonydd cul sy'n arwain ato.

Mae'r galw am ffordd osgoi yn ymestyn dros gyfnod o 60 o flynyddoedd ac er i Lywodraeth Cymru gymeradwyo ac ymrwymo i ariannu rhan o'r cynllun yn 2020, fe gafodd y penderfyniad ei wyrdroi flwyddyn yn ddiweddarach yn dilyn adroddiad annibynnol "Adolygiad Ffyrdd".

Disgrifiad o'r llun, Mae'n "amhosib" yn ystod tymor yr haf oherwydd y tagfeydd, meddai Goronwy Edwards

Yn 2022 fe geisiodd Cyngor Gwynedd droi at Lywodraeth y DU gan wneud cais am arian drwy gronfa Ffyniant Bro i ariannu'r cynllun, ond mi fethodd hynny.

"Yn yr haf... mai'n stond yma, amhosib", meddai Goronwy Edwards un o'r rhai fu'n protestio ac sy'n byw yn lleol.

"Sut mae modd dweud ar 么l COP 26 gawn ni wared ar y cwbl, dyna ni, un dyn bach.

"Dydy ambiwlansys methu dod trwy yn yr adegau prysur na chwaith yr heddlu."

'Ofn cerdded'

Mae Tabatha Evans yn fam ifanc ac yn byw mewn cartref ar yr A496, sef y brif ffordd.

"'Dio ddim yn saff, does na'm pafin a mae 'na gymaint o draffig a ti'n trio mynd i'r ysgol a ti jest ddim yn teimlo'n saff.

"Dw i'n gweithio yn y pentre' ond ti ofn cerdded, pan dwi'n mynd a'r car allan, ti'n cael andros o anxiety achos dw i'n poeni bo' fi am fynd yn styc a mae pobl yn gwylltio a dwi'n cael anxiety a dwi ofn."

Ychwanegodd ei bod wedi gorfod dod adref ar rai achlysuron a golchi ei llygaid gyda d诺r oherwydd effaith allyriadau ceir sy'n sefyll yn stond ar y lonydd oherwydd tagfeydd.

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd traffig ei arafu oherwydd y trigolion ddaeth ynghyd i gerdded yn araf drwy'r pentref ddydd Sadwrn

Wrth i drigolion gerdded ar hyd y l么n, fe ddechreuodd ceir a cherbydau giwio tu 么l iddynt yn teithio'n araf a methu pasio.

Roedd nifer o drigolion hefyd yn gweiddi bod angen "Achub Llanbedr", ac eraill yn dal arwyddion yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried.

Roedd Aelod Seneddol Plaid Cymru yr ardal, Liz Saville Roberts hefyd yn cerdded gyda'r protestwyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymeradwyo'r cynllun.

"Mae'r Prif Weinidog ei hun wedi dyfynnu fod poblogaeth rhywle fel hyn yn cynyddu 6 gwaith yn yr haf, meddyliwch felly am lefel y traffig".

Disgrifiad o'r llun, Fe ymunodd Liz Saville-Roberts AS Plaid Cymru 芒'r pentrefwyr ddydd Sadwrn

"Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar brofiad byw a diogelwch y bobl sy'n byw yma a dwi'n llawn cyd-fynd a nhw".

"Mae diogelwch yn hawl byw sylfaenol".

Ychwanegodd Ms Saville Roberts fod lefelau traffig a ffyrdd cul yr ardal yn nadu buddsoddiad yn y maes awyr cyfagos sydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru.

Tra bod Plaid Cymru bellach yn gweithio mewn cytundeb cydweithio gyda'r blaid lafur ar lefel seneddol, mynnu wnaeth yr Aelod Seneddol fod bai y diffyg datblygiad o ganlyniad i bolisi'r blaid Lafur ac nid Plaid Cymru.

"'Dan ni mewn cydweithrediad i wneud rhai pethau penodol ac yn gwneud hynny i wneud pethau'n yn well i'n cymunedau ond pan mae'r blaid Lafur yn gweithredu mewn ffordd sy'n collfarnu'n cymunedau a does gennym ni ddim rheolaeth o gwbl, dwi'n barod i'w beirniadu".

'Rhaid meddwl yn wahanol'

Wrth ymateb i'r brotest fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr argyfwng newid hinsawdd "yn golygu bod yn rhaid meddwl yn wahanol am drafnidiaeth".

"Dyma pam wnaethom ni sefydlu adolygiad ffyrdd annibynnol er mwyn edrych mewn manylder ar gynlluniau i ehangu capasiti ffyrdd yng Nghymru".

"Rydym yn gweithio gyda Cyngor Gwynedd i ddatblygu ffyrdd cynaliadwy i leddfu pwysau traffig a thagfeydd yn y pentref".