Eisteddfod i symud yn 么l at ddyddiadau traddodiadol cystadlaethau corawl

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd dyddiadau cystadlaethau corawl yr 诺yl yn aros fel y rhai traddodiadol, mewn tro pedol.

Ddechrau'r wythnos fe gyhoeddodd yr Eisteddfod newidiadau sy'n golygu na fydd pob c么r yn ymddangos ar y prif lwyfan eleni ac y byddai'r dyddiadau'n newid.

Fe gafwyd gwrthwynebiad i'r cyhoeddiad gyda 37 o gorau yn anfon llythyr at yr Eisteddfod yn dweud fod newid y rheolau ym maes cystadlu corawl yn dangos "amarch llwyr".

Ddydd Sadwrn, mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod fod y bwrdd rheoli wedi "edrych eto" ar yr amserlen yn sgil "yr ymateb i'r cyhoeddiadau am y newidiadau i'r cystadlaethau eleni".

Fe gafodd y penderfyniad ei nodi a'i gytuno gan Gyngor yr Eisteddfod.

Ond fe gadarnhaodd yr Eisteddfod na fyddan nhw'n newid eu penderfyniad i gysoni cystadlaethau torfol drwy gynnal rowndiau cyn-derfynol i bawb.

"[Rydym] wedi symud y cystadlaethau corawl i gyd yn 么l i'r dyddiau sy'n draddodiadol ar gyfer y cystadlaethau hyn dros y blynyddoedd diwethaf," dywedodd llefarydd.

"Y bwriad drwy symud rhai cystadlaethau oedd creu ffocws i rai dyddiau, gan ddenu rhagor o gynulleidfa.

"Mae'r Eisteddfod yn derbyn nad oedd hyn yn apelio at nifer o gorau ac yn gwerthfawrogi hyn, ac felly ni fydd unrhyw newid i ddyddiau'r cystadlaethau corawl eleni."

Wedi i'r newidiadau gael eu cyhoeddi ddechrau'r wythnos dywedodd cadeirydd Pwyllgor Diwylliant yr Eisteddfod, Trystan Lewis, fod y newidiadau yn dilyn adolygiad o'r hen drefn, gyda'r bwriad - ymhlith pethau eraill - i godi safon.

Mae'r newidiadau'n cynnwys dwy ganolfan newydd i gymryd lle'r pafiliwn traddodiadol.

Bydd un yn dal hyd at 1,200 o bobl a'r llall yn dal 500.

Yn 么l y trefnwyr, yr unig dro roedd y pafiliwn yn llawn yn ystod Eisteddfod Ceredigion y llynedd oedd ar gyfer seremoni'r cadeirio ar y prynhawn Gwener.

Yn ogystal, uchafswm o dri ch么r neu barti fydd yn cyrraedd y rownd derfynol.

'Cyfle i bawb wneud trefniadau'

Ond fe wnaeth y cyhoeddiad gythruddo nifer, gydag un arweinydd c么r yn disgrifio'r newidiadau fel "ergyd farwol" i gorau.

Roedd rhai yn poeni y byddai llai o gorau'n penderfynu cystadlu gan nad oes sicrwydd o ymddangos ar y prif lwyfan ac eraill yn codi pryderon am drefniadau sydd eisoes mewn lle ar gyfer llety a thrafnidiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran yr 诺yl ddydd Sadwrn y bydd rhaglen gystadlaethau yn cael ei chyhoeddi ddiwedd y mis ar gyfer y Brifwyl yn Ll欧n ac Eifionydd fis Awst.

Ychwanegon fod hynny "er mwyn rhoi cyfle i bawb wneud trefniadau teithio, llety a gwyliau mewn da bryd."