Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gemau rhagbrofol Euro 2024: Cymru 1-0 Latfia
Mae Cymru wedi parhau gyda'r dechrau addawol i'w hymgyrch i gyrraedd Euro 2024 gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn t卯m gwannaf y gr诺p rhagbrofol nos Fawrth.
Er bod tua 100 o lefydd yn gwahanu'r ddau d卯m yn netholion FIFA, un g么l oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau o flaen torf lawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond y canlyniad oedd yn bwysig, a bydd y rheolwr Rob Page yn falch iawn o fod wedi ennill pedwar pwynt o'r ddwy g锚m gyntaf yn yr ymgyrch, wedi'r g锚m gyfartal 1-1 oddi cartref yn Croatia nos Sadwrn.
Bu bron i Harry Wilson roi Cymru ar y blaen o fewn pum munud, ond llwyddodd y golwr P膩vels 艩teinbors i arbed ei ergyd o 12 llath.
Danny Ward oedd angen arbed yn dda 10 munud yn ddiweddarach, wrth iddo gadw foli M膩rcis O拧s rhag cyrraedd cefn y rhwyd.
Ond Cymru oedd yn pwyso, gyda Kieffer Moore, Neco Williams ac Ethan Ampadu yn cael cyfleoedd i ergydio o bellter, ond ni lwyddodd yr un o'r tri i daro'r targed.
Gyda 40 munud ar y cloc aeth Cymru ar y blaen, wrth i Moore benio i gornel isa'r rhwyd o groesiad Dan James i fynd ar y blaen o 1-0 ar yr egwyl.
Daeth Williams yn agos at ddyblu'r fantais ar ddechrau'r ail hanner, wrth iddo daro'r trawst yn dilyn arbediad da gan 艩teinbors.
Ond wedi hynny roedd hi'n ail hanner llawer tawelach o ran cyfleoedd, a'r uchafbwynt i Gymru o bosib fyddai gweld Oli Cooper yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf yn y munudau olaf.
Mae'r fuddugoliaeth yn gweld Cymru'n codi i frig Gr诺p D, yn gyfartal gyda Croatia ar bedwar pwynt wedi iddyn nhw drechu Twrci nos Fawrth.
Cyn y g锚m bu Gareth Bale - y chwaraewr sydd 芒'r nifer fwyaf o gapiau a goliau yn hanes t卯m y dynion - ar y cae yn ffarwelio 芒'r cefnogwyr, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o b锚l-droed proffesiynol ddechrau'r flwyddyn.
Mae tri chwaraewr arall hefyd wedi ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol ar 么l Cwpan y Byd - Joe Allen, Jonny Williams a Chris Gunter, sydd wedi bod yn rhan o d卯m hyfforddi Cymru dros yr wythnosau diwethaf.
Bydd gemau nesaf t卯m dynion Cymru ym mis Mehefin, gyda g锚m gartref yn erbyn Armenia ac yna oddi cartref yn Nhwrci.