Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-2 Notts County
Mae Wrecsam gam yn nes at ddyrchafiad hirddisgwyliedig i'r Gynghrair B锚l-droed ar 么l ennill yn erbyn Notts County mewn g锚m ddramatig ar Y Cae Ras.
Mae'r Dreigiau yn dychwelyd i frig y Gynghrair Genedlaethol ac yn camu uwchben County ar 么l eu trechu 3-2 o flaen torf o bron i 10,000 o bobl.
Fe wnaeth y bytholwyrdd Ben Foster arbed cic o'r smotyn yn y munud olaf i sicrhau'r triphwynt i'r t卯m cartref.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, diolch i gic rydd wych gan John Bostock.
Ond daeth Wrecsam yn 么l yn gryf wedi'r egwyl, gyda Paul Mullin a Jacob Mendy yn sgorio i roi'r Cymry ar y blaen.
Daeth capten Notts County, Kyle Cameron 芒'r ymwelwyr yn gyfartal gyda pheniad nerthol, cyn i Elliot Lee sgorio'r g么l fuddugol wedi 78 munud o chwarae.
Ond Foster, a arwyddodd gytundeb tymor byr fis diwethaf yn 40 oed, oedd yr arwr ar 么l iddo arbed cic o'r smotyn Cedwyn Scott reit ar ddiwedd y g锚m.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam ar frig y tabl gyda 103 o bwyntiau, gyda Notts County yn ail ar 100 o bwyntiau.
Dim ond tair g锚m sydd gan County yn weddill tra bod gan Wrecsam bedair ar 么l, gyda dim ond un t卯m yn cael dyrchafiad yn awtomatig.
Wrecsam erbyn hyn ydy'r ffefrynnau'r i ddychwelyd i'r Gynghrair B锚l-droed, a hynny am y tro cyntaf ers 2008.