Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Agor gorsaf reilffordd dreftadaeth 拢1m yn Abergwili
Mae rheilffordd dreftadaeth yn agor gorsaf newydd gwerth 拢1m ddydd Sadwrn ger Caerfyrddin.
Bu'n rhaid codi ffordd newydd a maes parcio ar gyfer 300 o gerbydau yng ngorsaf Cyffordd Abergwili mewn ymateb i nifer cynyddol o ymwelwyr yng ngorsaf pentref Bronwydd, ychydig filltiroedd i ffwrdd - 30,000 y llynedd.
Mae'r maes parcio newydd hefyd yn datrys problemau parcio'r blynyddoedd diwethaf i staff Ysbyty Cyffredinol Glangwili, sydd ar bwys yr orsaf.
Mae yna adeiladau dros dro ar y safle hefyd ac mae'n fwriad i gynnal gwelliannau iddyn nhw ymhen amser.
Fe gafodd yr hen reilffordd, rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ei chau yn 1965.
Ond ers 1975 roedd ymdrechion i adfer yr hen lein a chynnal teithiau ar hyd wyth milltir a hanner o drac trwy Gwm Gwili i Lanpumsaint.
Eglurodd cadeirydd Cymdeithas Rheilffordd Gwili, Matt Bowen: "Fe ddechreuon ni redeg trenau i safle Cyffordd Abergwili yn 2017 ond tan nawr fu'n amhosib i'n teithwyr ymuno 芒'r tr锚n yn y lleoliad yna.
"Mae'n nod gan y rheilffordd ers nifer o flynyddoedd i godi maes parcio newydd a mynedfa ar ben deheuol y lein sydd ar gyrion Caerfyrddin ger yr A485.
"Mae ein pwynt ymuno blaenorol, Bronwydd Arms, yn hyfryd ond roedd yna le cyfyng [ar gyfer parcio] ac roedd hynny'n broblem gynyddol yn ystod cyfnodau prysur.
"Diolch i ymdrechion ein gwirfoddolwyr ffyddlon rydym wedi gallu codi'r arian i gwblhau'r gwaith a phenodi contractwr i'n cynorthwyo."
Mae'r trefnwyr hefyd wedi llwyddo i sicrhau sawl grant, gydag unigolion a mudiadau wedi cyfrannu i'r achos, ac mae gwirfoddolwyr wedi gwneud rhywfaint o'r gwaith eu hun.
Dywedodd gweinyddwr busnes y rheilffordd, Jeremy John: "Roedd y lle fel jyngl adeg yma'r llynedd ac mae'n rhaid talu teyrnged i'n gwirfoddolwyr ac eraill sydd wedi helpu creu'r orsaf ryfeddol yma.
"Feddyliais i erioed y byddwn i'n gweld cwblhad prosiect mor fawr. Rhaid talu teyrnged i'n gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud job ardderchog."
Mae'r gymdeithas bellach yn rhedeg dau dr锚n st锚m, gyda chefnogaeth 600 o gyfranddalwyr a 500 o aelodau yng nghymdeithas gadwraeth y rheilffordd.