Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Myfyrwyr prifysgol yn cyfaddef defnyddio AI i wneud traethodau
Mae myfyrwyr Prifysgol yng Nghymru wedi cyfaddef defnyddio meddalwedd deallusrwydd artiffisial (AI) ChatGPT i gwblhau traethodau.
Yn 么l rhai o is-raddedigion Prifysgol Caerdydd fe gawson nhw radd dosbarth cyntaf am un traethawd gafodd ei ysgrifennu drwy ddefnyddio'r meddalwedd sydd wedi ei datblygu gan gwmni o America.
Dim ond ers rhai misoedd y mae ChatGPT ar gael yn gyhoeddus - rhaglen gyfrifiadurol sydd yn medru ateb cwestiynau yn ddeallusol, ysgrifennu llyfr neu draethawd ar unrhyw bwnc ac hyd yn oed i greu gwaith celf.
Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud eu bod yn cynnal arolwg o'u polis茂au presennol ac y byddan nhw'n cyhoeddi canllawiau newydd i bob adran maes o law.
Mae Tom - nid ei enw cywir - yn un o'r myfyrwyr sydd wedi cynnal ymchwil personol i werth ChatGPT.
Fe wnaeth Tom sydd, ar gyfartaledd yn derbyn graddau 2:1 am ei waith, gyflwyno dau draethawd o 2,500 o eiriau yr un ym mis Ionawr.
Fe ysgrifennodd un o'r traethodau drwy ddefnyddio ChatGPT, gan dderbyn gradd dosbarth cyntaf amdano.
Gradd o 2:1 sgoriodd y traethawd a ysgrifennwyd heb help unrhyw feddalwedd.
"Wnes i ddim cop茂o pob gair air am air, ond mi roeddwn i yn gofyn ambell gwestiwn oedd yn rhoi llawer mwy o wybodaeth i mi ac yn gwneud hynny yn llawer iawn cyflymach na'r arfer," meddai Tom.
Mae Tom hefyd yn cyfaddef y bydd yn parhau i ddefnyddio ChatGPT yn y dyfodol i gynllunio ei draethodau.
Cais rhyddid gwybodaeth
Yn 么l cais rhyddid gwybodaeth i Brifysgol Caerdydd roedd 'na 14,443 ymweliad gyda safle ChatGPT drwy rwydwaith WiFi y brifysgol yn ystod cyfnod asesu mis Ionawr 2023.
Fis yn gynharach, ym mis Rhagfyr 2022, roedd y ffigwr yn sero.
Er y cynnydd trawiadol does gan y Brifysgol ddim lle i gredu fod na unrhyw gymhelliad anghyfreithlon i'r ymweliadau.
"Ein rhwydwaith ymchwil ni fel Prifysgol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r ymweliadau," meddai llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd.
"Mae gan staff ein Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, er enghraifft, ddiddordeb academaidd mewn cynnal ymchwil a dysgu am ddeallusrwydd artiffisial."
'Ei ddefnyddio ar gyfer pob darn o waith'
Mae John - nid ei enw cywir - yn fyfyriwr arall ym Mhrifysgol Caerdydd sydd yn cyfaddef iddo ddefnyddio y feddalwedd newydd i gwblhau gwaith.
"'Dw i wedi ei ddefnyddio sawl gwaith ers mis Rhagfyr," meddai, "a dwi'n meddwl i fi ei ddefnyddio tra'n cwblhau pob darn o waith ers hynny.
"I bob pwrpas, mae wedi dod yn rhan o'm mhatrwm gwaith, ac mi fydd yn parhau i fod tan na chaf i ei ddefnyddio eto.
Er nad yw ChatGPT yn cynnwys cyfeiriadau academaidd penodol, mae John yn dweud na chafodd o drafferth yn cwblhau'r elfen yna o'r gwaith ei hun.
"Dwi hefyd wedi gofyn iddo i grynhoi cysyniadau eitha' cymhleth o'n i'n teimlo nad oedd y darlithwyr wedi cael hwyl fawr iawn arni eu hunain," meddai.
"Mae'n declyn gwych i gael gwared ar y waffle sy'n cael ei gynnwys gan rai darlithwyr, sydd ddim ei angen mewn traethawd."
Mae'r ddau fyfyriwr yn pwysleisio nad ydyn nhw yn defnyddio ChatGPT i ysgrifennu'r traethodau ond, yn hytrach, maent yn troi at ChatGPT i greu cynnwys y gallan nhw wedyn addasu eu hunain.
Ac o ran cael eu dal gan eu arholwyr, mae John yn sicr na all neb sylwi ar ddylanwad y meddalwedd ar eu gwaith.
"Alla' i ddim gweld unrhyw ffordd sut y gall unrhyw un wahaniaethau rhwng fy ngwaith i a gwaith sy' wedi cael ei arwain gan y meddalwedd," meddai John.
"Licien i feddwl," ychwanegodd, "mod i wedi osgoi hyn, ond mod i hefyd wedi manteisio ar be' sydd gan ChatGPT i gynnig, a hynny yn ystod fy mlwyddyn bwysica' yn y Brifysgol."
'Gonestrwydd academaidd yn flaenoriaeth'
Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud eu bod yn cymryd honiadau o gamymddwyn academaidd, gan gynnwys llen-ladrad o ddifri.
"Er nad oes cyfeiriad penodol ato ar hyn o bryd, mae'r camddefnydd o IA yn dod dan ein polisi presennol ar onestrwydd academaidd," meddai llefarydd.
"Rydyn ni yn ymwybodol o botensial rhaglenni IA fel ChatGPT ar waith cwrs ac asesiadau.
"Cynnal gonestrwydd academaidd yw ein prif flaenoriaeth. Ein bwriad yw addysgu ein myfyrwyr am y defnydd cywir o DA, ac oherwydd hynny rydyn ni yn cynnal arolwg o'n polis茂au presennol ac fe fyddwn ni yn cyhoeddi arweiniad newydd ar y mater maes o law."