Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am chwalu'r tabŵ ynghlwm â thrafod y mislif
Mae cywilydd a diffyg dealltwriaeth am y mislif yn niweidiol i les ac iechyd meddwl menywod, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae dwy chwaer o Gaerdydd, a sefydlodd ymgyrch Love Your Period, yn dadlau bod angen gwneud mwy i chwalu'r tabŵ sydd ynghlwm â'r mislif i fenywod ifanc yng Nghymru.
Ac mae ymgyrchwr arall o ardal Pont-y-pŵl wedi creu cwrs cefnogaeth arbennig, ar ôl i'w symptomau mislif gael eu drysu gydag iselder.
Dywed Llywodraeth Cymru fod lles y mislif a dysgu am y cylchred mislif yn orfodol o fewn y cwricwlwm addysg newydd.
'Anghyfiawnder'
Yn ôl Kate Shepherd Cohen, o Bont-y-pŵl, roedd hi ar fin cymryd tabledi gwrth-iselder cyn iddi sylweddoli bod ei theimladau ynghlwm â'i chylchred.Â
Dywedodd bod dysgu i ddeall ei chylchred mislif pan yn 35 oed wedi golygu nad yw hi bellach yn dioddef cymaint.Â
"Darganfyddais bod deall ar ba ddiwrnod oeddwn i yn llwyr newid fy mherthynas gyda fy nghylchred mislif," meddai.
"Ac o newid fy mherthynas gyda fy nghylchred mislif, fe wellodd y dioddef mislif yn llwyr."
Dywedodd ei bod yn teimlo cywilydd nad oedd hi wedi gwneud y cysylltiad yn gynt, a gwnaeth hyn iddi deimlo "anghyfiawnder" nad oedd menywod eraill hefyd yn ymwybodol.
Ni chafodd Kate gynnig unrhyw ateb arall heblaw am dabledi gwrth-iselder chwaith, fel ffordd o ddelio gyda'r effaith roedd ei symptomau yn ei gael arni.
Mae hi bellach wedi dylunio cwrs, sydd ar gael drwy ragnodi cymdeithasol, i helpu eraill i ddeall eu cylchred mislif yn well.
Mae rhagnodi cymdeithasol yn ffordd o gyfeirio pobl at gefnogaeth yn y gymuned neu weithgareddau er mwyn rheoli eu hiechyd a'u lles.
Mae dysgu am ei phatrymau o fis i fis wedi helpu Kate i ddygymod â'i symptomau'n well.Â
"Dwi ddim yn cynllunio bellach o gwmpas mis calendr arferol. Dwi'n cynllunio o gwmpas fy nghylchred mislif," meddai.
Mae hefyd wedi effeithio ar y ffordd mae hi'n ystyried y mislif.
"Mae wir wedi fy helpu i ddeall y gwahaniaeth rhwng poen a dioddef. Does dim modd tynnu'r boen bob tro. Mae fy mislif i'n boenus.
"Ond roeddwn i'n ychwanegu haenau o ddioddef i'r symptomau corfforol. 'O, dwi ddim yn fam dda iawn ar hyn o bryd, fedra'i ddim gwneud yr hyn dwi eisiau ei wneud'.
"Ond rywsut, mae deall hwn fel canllaw, dwi wedi fy mharatoi pan mae'r amser yn dod o gwmpas.
"Dwi wedi newid fy nyddiadur o'i gwmpas, a dwi'n gallu peidio â bod yn rhy galed ar fi fy hun."
Angen 'normaleiddio sgyrsiau am y mislif'
Yn ôl un o sylfaenwyr ymgyrch Love Your Period, dydy merched ddim yn cael eu paratoi'n ddigonol ar gyfer pan fydd y mislif yn dechrau.
Dywedodd Molly Fenton bod y cywilydd sydd ynghlwm â'r pwnc yn "gallu cael effaith emosiynol, corfforol a meddyliol".Â
"Mae addysg a thrafod yn mynd law yn llaw," meddai. "Fe elli di ddysgu rhywun am y wyddoniaeth a'r bioleg, ond does neb yn dweud wrthat ti bod poen y mislif weithiau'n wael…
"Mae'n aml yn rhywbeth hoffem ni y buasai'n rhieni wedi dweud wrthon ni - ond dyw e ddim yn cael ei drafod ym mhob teulu chwaith."
Fe ddechreuodd y ferch 20 oed o Gaerdydd yr ymgyrch pan oedd hi'n dal yn yr ysgol.
Mae hi bellach yn cynorthwyo , a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror.
Mae Molly a'i chwaer Tilly, sy'n 16 oed, bellach wedi sefydlu cynllun sgwrsio gyda phlant oedran cynradd.
"Roeddem ni eisiau normaleiddio sgyrsiau am y mislif, a'u gwneud nhw'n fwy cyffyrddus, yn enwedig pan maen nhw'n iau," meddai Tilly.Â
"Rwy'n gobeithio eu bod nhw'n gallu teimlo fel pe baen nhw'n gallu gofyn am gynnyrch [mislif] ac am help - mae'r stigma yn dal yno, ond gobeithio y gallwn ni leihau hynny."
"Yn yr ysgol, rwy'n cofio cael fy nangos tair gwaith sut i ddefnyddio condom, ond chês i fyth wybod sut i ddefnyddio tampon, neu am [ffyrdd] atal-cenhedlu i fenywod," meddai Molly.Â
"Os yw rhai ohonom ni'n gorfod gweiddi am y peth i godi ymwybyddiaeth, a gwneud e'n normal, yna dyna beth wnewn ni.
"Ond os ydyn ni'n cael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd gyda'n cyrff, fe allen ni gael gwell dealltwriaeth a diagnosis o bethau fel endometriosis a PMDD."
Buddsoddi £500,000
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles y mislif a dysgu am y cylchred mislif yn orfodol o fewn y cwricwlwm newydd i Gymru.
"Mae hyn yn cynnwys dysgu am ble i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.
"Mae'n bwysig nad 'gwers untro' yn unig yw dysgu am lesiant mislif, a dyna pam mae'r cod Addysg Rhyw a Pherthnasedd (RSE) yn nodi y dylid ei addysgu dros amser wrth i blant dyfu.
"Rydym wedi buddsoddi £500,000 pellach mewn dysgu proffesiynol i gefnogi staff gyda gofynion y cwricwlwm newydd, gan gynnwys cefnogaeth benodol i ysgolion i gyflwyno RSE."