Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor Wrecsam yn cefnogi cynllun cyllid i ailddatblygu'r Cae Ras
Mae cynghorwyr yn Wrecsam wedi dangos cefnogaeth unfrydol i gynllun ariannu ail-ddatblygu eisteddle'r 'Kop' ar y Cae Ras.
Mewn cyfarfod brynhawn Mawrth fe gytunodd Bwrdd Gweithredol y cyngor i neilltuo grant o 拢25 miliwn gan Lywodraeth Cymru at fudd y stadiwm.
Y gobaith yw gall eisteddle newydd ddenu gemau rhyngwladol yn 么l i'r gogledd ac ateb gofynion UEFA, gyda bwriad o adeiladu eisteddle newydd ar gyfer 5,000 o gefnogwyr.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Mark Pritchard, y byddai gweddill yr arian ar gyfer y cynllun yn deillio o bartneriaeth rhwng y clwb p锚l-droed, Cymdeithas B锚l-droed Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.
Mae cynlluniau i wella'r orsaf reilffordd gyffredinol a seilwaith trafnidiaeth ger y stadiwm hefyd yn rhan o brosiect Porth Wrecsam, a ddechreuodd ar 么l i'r cyngor fethu 芒 sicrhau cyllid Cronfa Ffyniant Bro (Levelling Up Fund) gan Lywodraeth y DU.
'Er budd Wrecsam a gogledd Cymru'
Bwriad Porth Wrecsam yw adfywio safleoedd allweddol ac isadeiledd trafnidiaeth o gwmpas Ffordd Yr Wyddgrug, sef coridor allweddol i mewn i'r ddinas.
Mae'n cynnwys gwelliannau i gysylltedd teithio rheilffordd, bws a cheir, gwesty a chyfleusterau cynhadledd newydd, gofod swyddfa a gwelliannau i stadiwm y Cae Ras.
Bydd penderfyniad y cyngor yn golygu fod y grant o 拢25m gan Lywodraeth Cymru yn cael ei arallgyfeirio tuag at elfen Cae Ras y cynllun.
Bydd y Cyngor nawr yn ymgeisio am arian allanol ac yn gwarantu isafswm o 拢8m ar gyfer gweddill y cynllun.
"Mae hon yn wir bartneriaeth, yn cydweithio er budd Wrecsam a gogledd Cymru," meddai'r cynghorydd Pritchard yn dilyn y cyfarfod.
"Dwi wrth fy modd, mae wedi bod yn siwrne faith ac mae perchnogion y clwb p锚l-droed wedi bod yn wych.
"Mae popeth yn syrthio i'w le.
"Mae wedi bod yn drist gweld y Kop yn wag... ond nawr mae'r clwb ar i fyny."
Doedd teras y Kop ar y Cae Ras ddim wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd, a bellach mae wedi cael ei ddymchwel i wneud lle i'r datblygiad newydd.
Daw hynny wrth i'r clwb frwydro am ddyrchafiad ar y cae yn 么l i'r Gynghrair B锚l-droed, 15 mlynedd wedi iddyn nhw ddisgyn allan ohoni.
Mae'r t卯m angen ennill dwy o'u tair g锚m olaf i sicrhau eu bod nhw'n gorffen ar frig y Gynghrair Genedlaethol - pumed haen pyramid p锚l-droed Lloegr.
Gyda'r ddwy nesaf gartref yn erbyn Yeovil nos Fawrth, a Boreham Wood ddydd Sadwrn, fe allai'r dyrchafiad gael ei sicrhau ar y Cae Ras cyn iddyn nhw ymweld 芒 Torquay ar ddiwrnod olaf y tymor.