Cymru'n dechrau cystadleuaeth newydd yng Ngwlad yr I芒

Ffynhonnell y llun, Ashley Crowden/CBDC

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Cymru g锚m gyfartal 0-0 yn erbyn Gwlad yr I芒 ym mis Chwefror

Bydd merched Cymru'n dechrau eu hymgyrch gyntaf yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd gyda thaith i Wlad yr I芒.

Fe fydd y t卯m hefyd yn wynebu'r Almaen a Denmarc yn eu gr诺p, wrth iddyn nhw gystadlu yn yr adran uchaf eleni.

Bydd canlyniadau'r gystadleuaeth wedyn yn cael eu defnyddio i ddewis y detholion ar gyfer grwpiau rhagbrofol Euro 2025.

Dywedodd rheolwr Cymru Gemma Grainger y byddai'n gr诺p "heriol", o ystyried bod Yr Almaen a Denmarc wedi cyrraedd Cwpan y Byd eleni.

Daeth Cymru eu hunain yn agos at gyrraedd y twrnament hefyd, cyn colli yn yr eiliadau olaf mewn g锚m ail gyfle yn erbyn Y Swistir y llynedd.

Eu ffocws nawr fydd gwneud cystal 芒 phosib yng Nghynghrair y Cenhedloedd er mwyn rhoi'r siawns orau phosib iddyn nhw gyrraedd rowndiau terfynol twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf.

"Mae'n gr锚t i wybod pwy fyddwn ni'n eu hwynebu," meddai Grainger. "Fe fyddan nhw'n gemau cystadleuol a dwi'n edrych ymlaen."

Cymru - sy'n rhif 31 yn rhestr detholion y byd FIFA - oedd y detholion isaf o'r pedwar, gyda'r Almaen yn 2il, a Gwlad yr I芒 a Denmarc yn 14eg a 15fed.

Gemau Cymru (lleoliad ac amser i'w gadarnhau):

22 Medi - Gwlad yr I芒 v Cymru

26 Medi - Cymru v Denmarc

27 Hydref - Yr Almaen v Cymru

31 Hydref - Denmarc v Cymru

1 Rhagfyr - Cymru v Gwlad yr I芒

5 Rhagfyr - Cymru v Yr Almaen