大象传媒

'Cyfrifoldeb i gyfieithu a sillafu'r iaith yn gywir' medd ASau

  • Cyhoeddwyd
gwall

Mae Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles, wedi cytuno i ysgrifennu at gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru ac at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i'w hatgoffa o'u cyfrifoldeb i gyfieithu a sillafu'r Gymraeg yn gywir.

Ymrwymodd i wneud hynny mewn ymateb i AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd, a ddywedodd bod gwallau "yn cael eu goddef yn rhy aml o lawer".

"Maen nhw'n ddoniol, efallai, ar yr olwg gyntaf," meddai Mr Gruffydd, "ond wrth gwrs maen nhw'n anfon neges anffodus iawn o safbwynt statws y Gymraeg."

Wrth ymateb ei fod yn "hapus iawn" i ysgrifennu yn 么l yr awgrym, ychwanegodd Mr Miles "petasai llai o bwyslais ar y cwyno yn erbyn enwi Bannau Brycheiniog, a mwy o bwyslais ar gywirdeb, efallai y byddem i gyd yn hapusach".

Mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd yn parhau i ddefnyddio'r enw Brecon Beacons, er bod y parc cenedlaethol wedi gollwng ei enw Saesneg.

'Amharchus a dirmygus'

Mae canllawiau'r Swyddfa Gartref ar gyfer seremon茂au dinasyddiaeth - y rhan olaf o ddod yn ddinesydd Prydeinig - yn cynnwys llw teyrngarwch "yn rhegi i Dduw Omnipotent", sef camgyfieithiad o "swear" - tyngu i Dduw hollalluog.

Wrth "gadarnhau teyrngarwch", dywedir ar hyn o bryd "yr wyf i, (enw), yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn gywir y byddaf i, ar 么l dod yn ddinesydd Prydeinig, yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Fawrhydi Brenin Siarl y Trydydd, ei Hetifeddion [sic] a'i Holynwyr [sic], yn unol 芒r [sic] gyfraith".

Mae'r adduned hefyd yn cynnwys, "rhoddaf fy nheyrngarwch i'r Deyrnas Unedig ac fe barchaf ei hawliau a'i rhyddidau [sic]".

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref wrth 大象传媒 Cymru, "Rydym yn ymwybodol o'r camgymeriad hwn ac mae'n cael ei gywiro.

"Rydym yn cydnabod bod cyfieithiad cywir o'r llw a'r adduned ar gov.uk yn bwysig i adlewyrchu arwyddoc芒d ddod yn ddinesydd Prydeinig".

Dywedodd mudiad YesCymru bod y camgyfieithu yn "druenus, amharchus a dirmygus".

Fis diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud mai problem dechnegol wnaeth achosi gwall sillafu mewn prawf rhybudd argyfwng.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwall yn y neges Gymraeg yn y prawf rhybudd argyfwng

Meddai'r neges, "Mewn argyfwng go iawn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i'ch cadw chi ac eraill yn Vogel."

"Yn ddiogel" ddylai'r neges fod wedi dweud.

Roedd Mr Gruffydd wedi gofyn i'r gweinidog yn y Senedd sut mae Llywodraeth Cymru'n annog a sicrhau cywirdeb ieithyddol yn yr iaith Gymraeg gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Mr Miles bod Llywodraeth Cymru "wedi hwyluso hyn drwy ariannu adnoddau megis offer gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gall defnyddio cyfieithwyr proffesiynol olygu osgoi camgymeriadau anffodus - oni bai eu bod nhw allan o'r swyddfa, wrth gwrs

Ychwanegodd bod y llywodraeth hefyd yn "ariannu Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i ddatblygu'r sector cyfieithu a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i feithrin sgiliau iaith".

"Ac wrth gwrs, mae gan safonau a chynlluniau iaith gyfraniad i'w wneud at hyn hefyd," ychwanegodd.

Wrth Gymreigio enw'r brenin i Siarl, mae'r Swyddfa Gartref hefyd yn mynd yn groes i'r proclamasiwn y darparwyd ei eiriau gan Lywodraeth Cymru.

'Crefft yw hi'

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Manon Cadwaladr: "Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio peiriannau cyfieithu ac rydyn ni'n cydnabod bod safon y peiriannau'n hynny'n gwella'n raddol.

"Serch hynny, mae cyfieithu da a chywir yn waith arbenigol. Crefft yw hi. Mae angen sgiliau penodol, yn ogystal 芒 phrofiad".

Ychwanegodd: "Fe wnaiff technoleg cyfieithu sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial fynd 芒 chi rhywfaint o'r ffordd ond mae'n bwysig cofio mai 'artiffisial' ydy'r deallusrwydd hwnnw.

"I gyfieithu'n gywir i'r Gymraeg rhaid wrth ddeallusrwydd go iawn o'n hiaith, ein diwylliant a'r gynulleidfa."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol