Beti a'i Phobol: Saith pwynt o sgwrs y cwnselydd Sioned Lewis

Ffynhonnell y llun, Sioned Lewis

O weithio yn y cyfryngau i werthu tai, mae'r cwnselydd Sioned Lewis wedi mwynhau sawl gyrfa cyn dod yn gwnselydd llawn amser yn dilyn dwy flynedd heriol o driniaeth am ganser.

Sioned sy'n gyfrifol am sefydlu gwasanaeth cwnsela ymhob ysgol uwchradd yng Ngwynedd a M么n ac erbyn hyn mae wedi sefydlu cwmni sy'n gweithio efo unigolion a sefydliadau fel yr heddlu a'r Senedd.

Dyma saith peth rydyn ni wedi ei ddysgu amdani o'i chyfweliad gyda Beti George ar Beti a'i Phobol.

1.'Magwraeth yn llawn llenyddiaeth, geiriau a credoau'

Cafodd Sioned ei magu yn Nolwyddelan gan ei rhieni, yr awdures Eigra Lewis Roberts a'r diweddar Llew Roberts oedd yn brif swyddog gweinyddol yng nghyngor Conwy.

Meddai: "Roedd hi'n fagwraeth Gymreigaidd iawn yn llawn llenyddiaeth, geiriau a chredoau ac ethics Cymreigaidd. Roedd cefndir Mam a Dad yn y capel a'r eglwys- roedd llawer o gredoau crefyddol am sut i drin pobl.

"Roedd nain yn ddynes capal mawr ac yn ddylanwad cryf o ran moesau a'i chredoau.

"Mae wedi bwydo mewn i'r ffordd dwi'n teimlo am bethau. Dydw i ddim yn grefyddol ond wedi mabwysiadu llawer o'r syniadau sy' wedi dod o'n fagwraeth."

2.Blwyddyn y deiagnosis

Roedd 1999 yn gychwyn cyfnod heriol dros ben i Sioned, fel mae'n dweud: "'Na'i fyth anghofio'r flwyddyn yna achos honna oedd y flwyddyn gath Dyddgu (pedwerydd plentyn Sioned) ei geni ar 2il Ionawr ac ar 么l iddi gael ei geni o'n i'n gwybod fod 'na rhywbeth ddim yn iawn.

"O'n i ddim yn teimlo yn fi fy hun ac yn trio dweud wrth bobl a mynd at y meddyg a pawb yn dweud, 'na, ti'n 么l-reit' tan fis Ebrill pan ddaeth un o fy ffrindiau draw. Dyma hi'n dweud, 'Duw ti ddim yn iawn'. Ac mi aeth hi 芒 fi at y lle meddyg.

Sioc

"Mi ges i ddiagnosis o ganser y fron.

"O'n i'n cyfri fy hun yn lwcus iawn bod hi wedi troi i fyny y bore dydd Sadwrn yna. O'n i wedi cwffio am bedair mis i gael fy nghlywed a dim yn digwydd - bosib iawn buaswn i wedi rhoi'r gorau iddi a wedi meddwl, 'y meddygon sy'n iawn' a ddim wedi neud dim am y peth.

"Byddai'n diolch yn aml i Sian.

"Roedd y meddygon yn dweud taw mastitis oedd o - roedd gen i lwmp anferth ar fy mron, 'run maint ag oren. O'n i'n dechrau meddwl mod i'n dychmygu pethau. Ond o'n i'n gwybod mod i ddim yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Sioned Lewis

Triniaeth

Bu rhaid i Sioned wynebu triniaeth anodd - chemotherapi, radiotherapi ac yna tynnu'r fron: "Cychwynnodd hynny gyfres o 10 mis o un ysbyty i'r llall a gwahanol driniaethau. Roedd hi'n flwyddyn anodd iawn.

"'Nes i drio peidio gweld y meddygon hynny eto - o'n i wedi colli lot o ffydd, o'n i'n flin iawn ar y pryd. O'n i'n trio delio efo'r plant achos o'n i'n h欧n efo pedwar o nhw. Roedd y tri hynaf dal yn fach. Roedd hwnna'n fwy o beth na'r canser - i gadw nhw efo'i gilydd ac i gadw nhw gartref.

Gofal

"Aeth Dyddgu i ofal am 10 mis ac oedd hynny'n anodd iawn. Doedd 'na ddim dewis. Roedd hwnna'n gyfnod anodd iawn a diolch byth 'oedd hi'n rhy fach i gofio.

"Wrth gwrs doedd 'na ddim lot o byd gwahanol bydden i wedi gallu neud ar y pryd. O'n i'n gallu mynd i weld hi ond doedd hi ddim yn adnabod fi yn dda iawn achos o'n i yn yr ysbyty am wythnosau.

"Roedd rhaid i ni gychwyn rhyw berthynas efo'n gilydd pan oedd hi tua 11 mis oed. Roedd yn od iawn. 'Oedd 'na lot o bethau'n wahanol iawn rhwng hi a fi ond (mae) pethau sy' wedi dod a ni yn lawer agosach dros y blynyddoedd.

"Mi aeth y misoedd, jest aros a chredu a gobeithio. Y gobaith bod pethau'n mynd i wella. Y penderfynoldeb o gael nhw gyd adra - hwnna 'nath fy nghadw i i fynd."

Positifrwydd

"Dwi wedi bod yn lwcus ac wedi dewis ei droi yn rhywbeth positif. Mi oedd 'na rheswm mae'n rhaid dros hyn - mae 'na lawer o wersi dwi wedi dysgu o beth dwi wedi bod trwyddo fo."

3.'Mae gwrando'n bwysicach'

Y peth pwysicaf i gwnselydd i wneud yw gwrando, yn 么l Sioned: "Dwi'n mwynhau siarad ond dwi wedi cael fy hyfforddi i stopio ac i wrando!

"Pan 'da ni'n hunain yn dawel ac yn gwrando ac yn cymryd mewn yn iawn beth mae'r person arall yn dweud wrthon ni... Yn aml iawn mewn cwnsela, y peth pwysiga' ydy bod ni'n gwrando yn astud."

4.Stigma iechyd meddwl

Mae Sioned yn dweud fod 'na ddal stigma am iechyd meddwl a chwnsela ond ei fod yn lleihau: "Mae rhai cleientiaid yn dod i fewn ac yn dweud 'does 'na dim byd yn mater arna'i' - mae'r stigma 'na'n dal i fodoli mewn cymdeithas ond mae wedi newid cryn dipyn yn ystod y 10-15 mlynedd diwethaf.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl iau r诺an yn siarad yn agored iawn am therapi. Mae'r byd llawer fwy agored am broblemau neu am deimladau erbyn hyn."

5.Cyfnod o newid i sefydliadau

Mae Sioned wedi gweithio fel cwnselydd i nifer o sefydliadau gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru ers chwe mlynedd.

Mae wedi bod yn gyfnod o newid i nifer ohonynt, meddai: "Mae 'na lawer iawn wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf - roedd pobl yn tueddu i ddod (am gwnsela) efo beth maen nhw wedi ei weld a chlywed.

"Yn anffodus ar hyn o byd mae 'na lot o ymchwiliadau a beirniadaeth ar yr heddlu felly mae 'na sgil-effeithiau'n dod i gleientiaid dwi'n weld ar hyn o bryd sy' falle'n ansicr o'u dyfodol ac o dan straen mawr. Mae pethau wedi newid lot yn y misoedd diwethaf o ran hynny."

6.Y broblem efo meddyginiaeth

Mae Sioned yn gweithio efo pobl sy' 芒 iselder a gorbryder ac yn dweud: "Mae 'na ddadl o hyd rhwng cwnsela, seicotherapi a'r byd meddygol - 'dan ni ddim yn dod o'r un lle yn aml ac yn credu mewn gwahanol fath o agweddau ac o driniaethau.

"Yn aml does gynno ni ddim anghytundeb efo defnyddio cyffuriau i helpu - mae 'na achosion lle mae pobl angen help meddyginiaeth i ddod dros cyfnodau yn eu bywydau a 'da ni'n cytuno'n llwyr efo hynny.

"Be' sy'n anodd efo pethau fel antidepressants ydy maen nhw yna i flocio ac wrth gwrs 'da ni'n gweithio efo'r emosiynau a'r teimladau ac mae'r meddyginiaeth yn blocio beth 'da ni'n trio gweithio hefo fo.

"Chi'n deall pam fod person angen y meddyginiaeth ond mae yn gwneud hi'n anodd weithiau."

7. Cwnsela llawn amser

O werthu tai i weithio ar raglenni teledu, mae Sioned wedi dod o hyd i'r gyrfa sy'n siwtio hi i'r dim yn gweithio fel cwnselydd.

Sioned sy'n gyfrifol am sefydlu gwasanaeth cwnsela yn ysgolion uwchradd Gwynedd a Sir F么n: "Yn dilyn adroddiad Clywch (Adroddiad Archwiliad Comisiynydd Plant Cymru o honiadau o gam-drin plant mewn ysgolion) roedd Cymru ar y blaen yn cael cwnselydd ymhob ysgol uwchradd yng Nghymru.

"Oeddan ni'n cychwyn o ddim byd. Erbyn hyn mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg ac mae 'na o leiaf saith cwnselydd yn gweithio i'r gwasanaeth ac yn cynnig gwasanaeth i holl ysgolion cynradd a uwchradd trwy Gymru.

"Roedd yn amser braf iawn - roedd 'na gynnwrf mawr. Roedd yn beth pwysig iawn."