Codi arian i hosbis fel T欧 Bryngwyn yn 'gymaint o help'

Disgrifiad o'r fideo, Fe gadwodd Annmarie Thomas ei haddewid i'w brawd i gefnogi'r hosbis a roddodd ofal iddo cyn ei farwolaeth y llynedd
  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd Arbennig 大象传媒 Radio Cymru

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod maint yr arian a gafodd ei godi yn ystod y pandemig er mwyn rhoi mwy o help i'r gwasanaeth iechyd, cleifion a chymunedau wedi torri pob record.

Yn 么l NHS Charities Together, sy'n cynrychioli dros 230 o elusennau'r GIG ar draws y DU, fe gafodd 拢160m ei godi mewn ymateb i'w hap锚l Covid.

拢2,974,408 yw cyfanswm y grantiau yng Nghymru hyd yn hyn, ac maen nhw wedi cyfrannu at ariannu dros 400 o brosiectau ar draws Cymru.

Mae hosbis yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi cael bron i 拢17,000 gan deulu dyn fu farw o ganser wedi tanlinellu gymaint o help yw arian y cyhoedd i elusennau'r GIG.

Yn ei ddyddiau olaf fe gafodd David Lewis, o bentref Llannon ger Llanelli, ofal yn Hosbis T欧 Bryngwyn, Llanelli, a'i ddymuniad oedd bod ei deulu'n parhau i godi arian.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw David ar 么l cael canser yr ysgyfaint ac fe gafodd ofal yn Hosbis T欧 Bryngwyn

Fe gafodd ddiagnosis o ganser yn 16 oed, ond ar 么l triniaeth fe fu'n glir o'r salwch tan iddo ddychwelyd fis Medi 2021.

Bu'n s芒l am naw mis 芒 chanser yr ysgyfaint, a doedd dim gwella y tro hwnnw. Bu farw'n 54 oed.

"Buodd e gyda ni am tua naw mis ar 么l y diagnosis," meddai ei chwaer, Annmarie Thomas.

"Doedd David ddim yn drist trwy ei salwch yn gyfan ond, pan ddaeth e fan hyn, roedd dagrau yn ei lygaid pan welodd y cyfleusterau a'r ardd hyfryd."

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth chwaer David, Annmarie Thomas, wrando ar ei ddymuniad i godi arian i'r hosbis

Mae codi arian wedi bod yn rhan o fywyd y teulu amaethyddol ers degawdau oherwydd salwch David a chyn iddo farw roedd ganddo neges bwysig i'w chwaer: "Gwna di yn si诺r bo ti'n dal i godi arian yn fy enw i er mwyn helpu T欧 Bryngwyn."

Roedd y gymuned gyfan yn awyddus i helpu a phobl yn hael yn ymateb i'r ap锚l i gofio am y ffermwr lleol poblogaidd - Dai Coed Cyw, fel oedd e'n cael ei 'nabod yn yr ardal.

"Mae e wedi bod yn gyfnod emosiynol iawn," medd Annmarie, "ond bydde David yn hapus iawn a ninne' wedi codi bron i 拢17,000, ac ma' T欧 Bryngwyn mor ddiolchgar."

Roedd cefnogaeth fawr yn lleol i ddigwyddiadau codi arian fel taith elusennau tractor.

Disgrifiad o'r llun, Mae Lewis, nai David, wedi bod yn helpu gyda'r gwaith codi arian i'r hosbis

Yn 么l un o'r trefnwyr, Ioan Harries o Glwb Ffermwyr Ifanc Llannon, roedd pobl eisiau cefnogi "er cof am Dai, gan ei fod e'n aelod ffyddlon a phoblogaidd o'r clwb, ond hefyd am fod llawer o deuluoedd o'r ardal wedi cael help gan T欧 Bryngwyn.

"Mae yr hosbis wir yn godsend i bobl rownd ffor' hyn," ychwanegodd.

Roedd pobl o bob oed yn rhan o'r ymgyrch i godi arian, gan gynnwys ei nai, Lewis, sy'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Maes y Gwendraeth. Roedd e a'i wncwl Dai yn ffrindie' mawr.

"Roedd wncwl fi wedi marw yn hosbis T欧 Bryngwyn a n'ethon ni ofyn i'r WI os bydde' nhw'n fodlon gwau cywion bach a bues i yn helpu hefyd... a wedyn gwerthu nhw."

'Help ar adeg sy'n galed'

Mae staff yr hosbis yn gwerthfawrogi'r arian ychwanegol.

Disgrifiad o'r llun, Mae arian y cyhoedd, medd Owain Prys Thomas, yn help i sicrhau cyfleusterau gwell mewn cyfnod anodd i gleifion a'u teuluoedd

Dywedodd Owain Prys Thomas, ymgynghorydd meddygaeth lliniarol yn Hosbis T欧 Bryngwyn: "Mae y gefnogaeth gan elusennau fel Ap锚l Hosbis T欧 Bryngwyn sydd wedi codi'r arian i adeiladu'r hosbis a dal yn cyfrannu'n helaeth, a hefyd elusen y gwasanaeth iechyd, yn werthfawr tu hwnt.

"Mae'r Llywodraeth yn rhoi arian ar gyfer pethe' sydd yn greiddiol yn y gwasanaeth ond mae arian y cyhoedd yn helpu i roi cyfleusterau gwell i gleifion a'u teuluoedd ar adeg sy'n gallu bod yn galed iawn."

Gyda help cyfraniadau elusennol mae'r hosbis wedi cwblhau prosiectau fel moderneiddio'r dderbynfa a chyflwyno cyrsiau hyfforddi staff.

Sut mae arian ap锚l NHS Charities Together wedi ei wario yng Nghymru hyd yma?

  • 20% ar lefydd gorffwys a llesiant ar gyfer staff a chleifion;
  • 20% ar offer;
  • 17% ar raglenni a gwasanaethau;
  • 13% ar adnoddau digidol;
  • 12% ar addysg a hyfforddiant;
  • 9% ar gynlluniau llesiant eraill; a
  • 3% ar ragnodi cymunedol.

Yn 么l Derlys Jones, sy'n nyrs arweiniol clinigol gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae'r help gan y gymuned yn gwneud i'r "staff deimlo yn falch iawn am be' ma' ni'n neud, ac o'r gwahaniaeth ni gallu 'neud".

Mae codi arian yn ffordd i deuluoedd a ffrindiau ddiolch am y gofal, ond mae rhoddion elusennol hefyd yn golygu fod staff ac ysbytai'n gallu sicrhau'r gofal gorau posib, a hynny ar adegau digon anodd.