Salwch hirdymor: A oes cysylltiad gydag amserau aros?

Disgrifiad o'r llun, Vaughan Gething: "Gyda'r pandemig rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi gadael y farchnad lafur"

Efallai nad amseroedd aros hir y GIG yw'r rheswm pam fod cymaint o bobl i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch, yn 么l Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Roedd ffigyrau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos na allai 159,000 o bobl weithio oherwydd salwch hirdymor - y ffigwr uchaf ers bron i 17 mlynedd.

Ddiwrnodau wedyn, datgelwyd bod tua 30,000 o bobl wedi bod yn aros am dros ddwy flynedd am driniaeth ysbyty.

Dywedodd Mr Gething nad oedd "yn glir o gwbl" mai rhestrau aros oedd ar fai.

"Dydw i ddim yn meddwl y gallwch chi ddweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng rhestrau aros a'r gr诺p yna o bobl 芒 maint yr her sydd ganddon ni," meddai Mr Gething wrth raglen Politics Wales 大象传媒 Cymru.

"Rhan o'r her yw ein bod ni'n gwybod cyn y pandemig fod gennym ni nifer fwy o bobl na gweddill y DU fel cyfran nad oedd yn actif ac yn chwilio am waith.

"Gyda'r pandemig rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi gadael y farchnad lafur - a tydi o ddim yn unig fod pobl wedi dewis eu bod eisiau cydbwysedd gwahanol rhwng gwaith a rhannau eraill o'u bywyd.

"Yn aml, gofal iechyd yw'r rheswm unigol pennaf."

Roedd helpu pobl gyda chyflyrau iechyd hirdymor .

"Mae sut rydyn ni'n mynd i'r afael ag ef yn rhywbeth unigol i bobl, i ddeall a yw'n iechyd corfforol, boed yn iechyd meddwl, sut rydych chi'n helpu pobl drwy hynny a sut rydych chi'n helpu pobl gydag ystod o gyfleoedd i ddychwelyd i'r gwaith.

"Does dim ateb syml sy'n dweud 'bydd hyn yn trwsio popeth'."