Neges i bobl ifanc Sir G芒r: 'Dewch 'n么l fan hyn i fyw'

Ffynhonnell y llun, Jonathan Billinger/Geograph

Mae aelod o gabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi annog pobl ifanc i ddod "yn 么l fan hyn i fyw", a hynny wrth i Eisteddfod yr Urdd ymweld 芒'r ardal yr wythnos hon.

Yn 么l y Cyfrifiad diweddar, bu gostyngiad o 4% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal dros y degawd diwethaf, sef y cwymp mwyaf o holl siroedd Cymru.

Ar faes yr 诺yl ieuenctid yr wythnos hon bydd Cyngor Sir G芒r yn lansio eu strategaeth i hyrwyddo'r iaith, ac mae denu pobl ifanc yn 么l i'r ardal yn rhan o'r strategaeth honno.

Yn 么l ymgynghorydd y Gymraeg, Meirion Prys Jones, pobl ifanc yn symud i ffwrdd i fyw mewn ardaloedd dinesig yw'r her fwyaf sy'n wynebu'r ardal.

Dylid cynnig profiadau "cosmopolitan" yn y sir er mwyn denu pobl ifanc yn 么l i'r ardal, meddai.

"Y broblem fwyaf si诺r o fod yw mewnfudo ac allfudo," meddai wrth Newyddion S4C.

Disgrifiad o'r llun, Mae allfudo a mewnfudo yn cael effaith ar y Gymraeg yn Sir G芒r, yn 么l yr ymgynghorydd iaith Meirion Prys Jones

"Ry'n ni'n gweld pobl yn symud i mewn a phobl ifanc yn bennaf yn symud allan i Gaerdydd ac ymhellach.

"Ond mae trio meddwl am sut mae cynnig profiadau mwy dinesig i bobl ifanc, yn arbennig mewn ardaloedd fel Caerfyrddin a Llandeilo, yn sialens.

"Ac mae angen meddwl am gynnig yr holl elfennau cosmopolitan yna sy'n gwneud dinasoedd yn atyniadol. Pethau fel siopau coffi a bariau gwin."

Mae 39.9% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin bellach yn siarad Cymraeg, yn 么l y Cyfrifiad.

Yn ardal ganolig gogledd ddwyrain y sir sy'n cynnwys Llanymddyfri, cartref Eisteddfod yr Urdd eleni, y canran yw 40.2%.

'Dewch yn 么l fan hyn'

Mae gan y cynghorydd Glynog Davies, sy'n gyfrifol am addysg a'r Gymraeg ar Gyngor Sir G芒r, neges syml i bobl ifanc sydd wedi mudo o'r ardal.

"Dewch yn 么l fan hyn i fyw," meddai. "Mae 'na waith i chi yn Sir Gaerfyrddin.

"Wy'n barod i dderbyn allwn ni ddim cystadlu 芒'r dinasoedd mawr, ond mae 'na bethau gwerthfawr eraill gyda ni yn Sir G芒r - golygfeydd godidog, y m么r, mynyddoedd, cymunedau hyfryd.

"Os ydych chi am setlo lawr yn iawn, beth am fwrw gwreiddiau yn y sir ardderchog sydd gyda ni fan hyn."

I Myfanwy Grug Lewis, sy'n 18 oed ac yn byw yng Nghwm Gwendraeth, mae'r bywyd cymdeithasol sydd gan Gaerdydd i'w gynnig yn un rheswm pam mae hi wedi penderfynu mynd yno i astudio ym mis Medi.

Disgrifiad o'r llun, Mae Myfanwy Grug Lewis eisiau profi bywyd y ddinas cyn ystyried symud yn 么l i Sir G芒r ryw ddydd

Ond mae'r syniad o symud yn 么l i Sir G芒r rhyw ddiwrnod yn apelio ati.

"Fi wastad wedi meddwl am symud n么l i Sir G芒r fel rhywbeth bydda i'n neud pan fi'n h欧n," meddai.

"Falle yn fy ugeiniau, byddwn i'n licio treulio fy amser mewn lle mwy trefol-dinesig.

"Ond os bydda i yn dychwelyd rhyw ddiwrnod, fydda i ddim yn neud hynna tan fi wedi setlo mwy mewn bywyd."