Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Deallusrwydd artiffisial: Yr iaith Gymraeg 'ar ei h么l hi'
- Awdur, Heledd Sion
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Yn 么l uwch ddarlithydd cyfrifiadureg, mae angen buddsoddiad sylweddol a pholisi llywodraethol er mwyn datblygu technoleg deallusrwydd artiffisial drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn 么l Dr Neil Mac Parthalain o Brifysgol Aberystwyth mae'r "Gymraeg, o ran yr iaith ei hun a thechnoleg, ru'n ni'n dueddol o fod y tu 么l iddi".
"Ni'n dueddol o eistedd 'n么l ac aros i weld sut mae pethau yn datblygu cyn bydd y dechnoleg yn cael ei datblygu a'r Gymraeg yn cael ei chrybwyll a'n dod i'r fei," meddai
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi hir gydnabod yr angen i fuddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial i'r Gymraeg".
Mae Dr Neil Mac Parthalain yn uwch ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth
"Mae sawl cwrs gyda ni ers sawl blwyddyn a ry'n ni wastad yn adnewyddu a newid cynnwys y cyrsiau," meddai.
"Ond i ni, bobl cyfrifiadureg, mae deallusrwydd artiffisial yn hen beth.
"Mae pobl yn dueddol o feddwl ei fod yn rhywbeth newydd, ac mae 'na lot o s么n yn y cyfryngau yn ddiweddar am ddeallusrwydd artiffisial, ond mae e wedi bod yn cael ei ddefnyddio ganddon ni heb i ni wybod ers sbel go lew.
"Hyd yn oed os feddyliau rhywun 'n么l rhyw 20 mlynedd yn 么l i'r hen ffonau symudol Nokia a predictive text, sail hwnna yw deallusrwydd artiffisial."
'Tuedd o eistedd 'n么l ac aros'
O ran perthynas y Gymraeg a deallusrwydd artiffisial ychwanegodd: "Rydan ni mewn lle da o ran y Gymraeg a deallusrwydd artiffisial yma ym Mhrifysgol Aberystwyth am ein bod ni'n cynnig mwyafrif ein cyrsiau - yn enwedig ym maes deallusrwydd artiffisial - trwy gyfrwng y Gymraeg.
"O ran y Gymraeg, o ran yr iaith ei hun a thechnoleg, ry'n ni'n dueddol o fod y tu 么l iddi.
"Ni'n dueddol o eistedd 'n么l ac aros i weld sut mae pethau yn datblygu cyn bydd y dechnoleg yn cael ei datblygu ar y Gymraeg yn cael ei chrybwyll a'n dod i'r fei.
"Yr heriau ar gyfer y dyfodol yw buddsoddiad a pholisi llywodraethol - maen nhw'n hollbwysig er mwyn datblygu technoleg deallusrwydd artiffisial drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Ar hyn o bryd mae iaith y dechnoleg o ran deallusrwydd artiffisial yn bennaf yn seiliedig ar y Saesneg, a does dim rheswm pam na allwn ni ddatblygu'r un peth i'r Gymraeg.
"Yr unig her yw eu bod nhw angen amser i'w datblygu a buddsoddiad mawr."
Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, sy'n gyfrifol am gyflawni gwaith ymchwil a datblygu meddalwedd ar gyfer dibenion siaradwyr Cymraeg.
"Efallai bod pobl yn adnabod pecynnau fel Cysill, ap geiriaduron neu ddefnyddio Geiriadur yr Academi ar-lein - mae'r rhain i gyd yn gynnyrch meddalwedd gan yr uned," meddai prif ddatblygwr meddalwedd Canolfan Bedwyr, Dewi Jones.
"Mae'n bosib ers blynyddoedd i ddefnyddio AI i gyfieithu rhwng Saesneg a Chymraeg, a rhai ieithoedd eraill hefyd.
"O ganlyniad i'r cydrannau sylfaenol yma rydan ni wedi creu ap cynorthwyydd llafar Gymraeg tebyg i Alexa wedi ei enwi'n Macsen.
"Mae modd ei ddefnyddio ar eich ffonau symudol Android, Apple neu ar-lein o wefan macsen.techiaith.cymru ac mae modd i chi ofyn ar lafar iddo beth yw'r newyddion, beth yw'r tywydd neu iddo fo chwarae cerddoriaeth gan fand Cymraeg i chi ar Spotify."
Ychwanegodd Mr Jones: "Mae'r Gymraeg yn rhan o'r chwyldro y mae technegau fel ChatGPT a GPT-4 gan OpenAI yn ei achosi ar y foment.
"Mae gallu'r rhain i fedru ateb cwestiynau a rhesymu a sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg wedi ymddangos o nunlle heb i unrhyw un ei ragweld na chynllunio o flaen llaw.
"Ond mae hyn o ddiolch i ddegawdau o waith cyhoeddi ar y we gan y cyfryngau, y sector gwirfoddol, ysgolion, prifysgolion a'r sector cyhoeddus.
"[Nhw] sydd wedi sicrhau bod yna ddigonedd o ddata Cymraeg da i gwmn茂au fel OpenAI, Google a Microsoft i fedru defnyddio ar gyfer creu AI ieithyddol, ond does neb yn gwybod eto pa mor dda mae'r AIs yma'n gweithio ar gyfer ei ddefnyddio drwy gyfrwng y Gymraeg."
Beth nesaf i AI Cymraeg?
"Mae'r cwestiwn o ran yr heriau, bygythiadau a chyfleoedd sydd ar gael yn cael ei hymchwilio gennym ni ar hyn o bryd dros yr haf er mwyn paratoi adroddiad gydag argymhellion erbyn yr Hydref i Lywodraeth Cymru," meddai Mr Jones.
"Mae'r dechnoleg yn newydd iawn a'n datblygu'n sydyn ond mae rhai dealltwriaethau yn sefydlu a'r tirlun yn dechrau siapio rhwng y gweithgareddau, y cwmn茂au mawr, ymchwil prifysgolion a'r arloesedd sy'n digwydd yn y gymuned cod agored, sydd hefyd yn tarfu ar y farchnad.
"Mae 'na gymunedau ieithyddol eraill yn yr un cwch 芒 ni felly fe fydd yn rhaid i ni fynd i'r afael a deall yr AIs presennol yn well.
"Ond mae'r darnau gennym ni yma yng Nghymru fel cymorth gan y llywodraeth, myfyrwyr talentog, cwmn茂au brwdfrydig, cysylltiadau gydag ieithoedd eraill a data i'n galluogi ni i berchnogi'r AIs ac i greu technolegau gwell ein hunain hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi hir gydnabod yr angen i fuddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial i'r Gymraeg.
"Dyna pam gwnaethon ni'n si诺r ei fod yn un o dair prif thema ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg a gyhoeddon ni yn 2018.
"Cyn hir, byddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliad ar y cynllun nesaf a bydd deallusrwydd artiffisial yn ganolog i hyn.
"Ry'n ni wedi buddsoddi dros 拢2m mewn technoleg a'r Gymraeg yn ystod bywyd y cynllun yma."