Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Eisteddfod: Cyhoeddi rhestr fer dysgwr y flwyddyn 2023
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.
Eleni mae'r gystadleuaeth, a drefnir ar y cyd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn dathlu ei phen-blwydd yn 40.
Cafodd 30 o unigolion eu cyfweld ar gyfer y gystadleuaeth eleni - y nifer uchaf erioed.
Y rhai sydd wedi dod i'r brig yw Alison Cairns o Lannerch-y-medd, Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Cafodd y pedwar eu dewis gan y beirniaid, sef Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Hannah Thomas. Bydd Tudur Owen yn cymryd lle Hannah Thomas ar gyfer y rownd derfynol yn yr Eisteddfod ym mis Awst.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ar ddydd Mercher yr Eisteddfod a bydd y buddugol yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a 拢300. Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn 拢100 yr un.
'Dim gwersi ffurfiol'
Yn wreiddiol o'r Alban, mae Alison Cairns bellach yn byw yn Ynys M么n.
Yn fam i saith o blant, dechreuodd ddysgu'r iaith drwy wrando ar 大象传媒 Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch, ac "mae'n siarad yn hyderus, a hynny heb iddi gael gwers Gymraeg ffurfiol erioed".
Cymraeg yw iaith y cartref ac mae Alison hefyd yn defnyddio'r iaith yn ei swydd ym myd gofal wrth ymdrin 芒 chleifion.
Mae Alison yn mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio ac mae hi'n gneifiwr profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd.
'Ymdrech ryfeddol'
Gwnaeth Roland Davies, o ardal Llanidloes, ddechrau dysgu Cymraeg ar 么l cyfarfod 芒'i wraig, Fflur, a sylweddoli pa mor bwysig yw'r iaith iddi hi a'i theulu.
Mynychodd wersi Cymraeg, a threuliodd wythnos yn Nant Gwrtheyrn, tra hefyd yn defnyddio Duolingo a Say Something in Welsh i ymarfer yn ei amser rhydd. Mae gan Roland a Fflur dri o blant a Chymraeg yw iaith y cartref.
Mae Roland hefyd yn perfformio gyda Chwmni Theatr Maldwyn ac mae newydd orffen teithio Cymru yn chwarae un o'r prif rannau yn sioe 'Y Mab Darogan'.
Cafodd ei enwebu am y wobr "oherwydd ei ymdrech ryfeddol i ddysgu Cymraeg ac am ei defnyddio'n ddyddiol gyda'r teulu, yn y gymuned ac yn y gwaith".
Pwysigrwydd Cymraeg ym myd iechyd
Yn wreiddiol o Ganada, mae Manuela Niemetscheck yn byw ym Methesda gyda'i theulu, gan weithio fel seicotherapydd celf yn Ysbyty Gwynedd.
Mae Manuela'n siarad pum iaith a dysgodd Gymraeg drwy Wlpan, cwrs i ddysgwyr, a mynychu Nant Gwrtheyrn.
Cafodd ei hysbrydoli i ddysgu'r iaith gan ei bod yn credu bod defnyddio Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn bwysig a nodir bod "ei chyfraniad i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn benodol yn Uned Hergest yn enfawr".
"Mae Manuela'n byw ei bywyd yn Gymraeg ac mae'n angerddol dros ein hiaith."
Darganfod iaith drwy addysg
Daeth Tom Trevarthen i Gymru i astudio yn y brifysgol, ond ar 么l disgyn mewn cariad ag Aberystwyth penderfynodd aros.
Cafodd swydd yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron a bu'n dysgu'r iaith drwy gyfrwng gwersi ar-lein yn ystod y cyfnod clo.
Mae Tom nawr yn astudio am radd 么l-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ymchwilio i addysg yng Nghymru.
Mae'n defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol - wrth gymdeithasu, wrth weithio ac wrth astudio a bellach Cymraeg, nid Saesneg, y mae'n siarad gyda'i ffrindiau.
Mae Tom, meddir, yn "hynod gefnogol i ddysgwyr eraill ac yn eu hannog i ddyfalbarhau".
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan ger Pwllheli rhwng 5 a 12 Awst.