Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Osian Meilir
Yr artist dawns a symud, Osian Meilir, sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Elain Roberts wythnos diwethaf.
Mae Meilir yn gweithio fel perfformiwr, coreograffydd a chyfarwyddwr symud ar draws Cymru, y DU ac yn teithio'n rhyngwladol.
Cafodd ei fagu ar fferm ar gyrion pentref Caerwedros ger Cei Newydd yng Ngheredigion. Aeth i astudio Dawns Gyfoes yng ngholeg Trinity Laban yn Llundain ac mae bellach wedi ymgartrefu yn ardal Hackney yn Nwyrain Llundain.
Yn 2021 fe sefydlodd y grŵp ddawns Qwerin sydd wedi ei seilio wead a phatrymau'r ddawns werin Gymreig, ynghyd ag egni bywyd nos Cwiar. Bu Qwerin yn teithio yn rhyngwladol yn 2023 gan ymddangos mewn gwyliau yn Awstralia.
Mae ei waith fel perfformiwr yn cynnwys gweithio gyda artistiaid fel Jo Fong, Lizzi Kew Ross & Co, Gwyn Emberton Dance, Satore Tech a Fearghus O'Conchuir gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Mae hefyd yn ehangu i fyd theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc drwy berfformio gwaith gan Carlos Pons Guerra a Cahoots NI, yn teithio ledled y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â'i waith solo ei hun ar gyfer Cwmni Theatr Arad Goch - Palmant / Pridd.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Un o fy atgofion cyntaf yw pan fyddai fan y popty yn ymweld â'r tŷ bob bore dydd Iau. Roeddwn ni adre' gyda Mam yn rhyw dair neu bedair oed a byddai fan wen yn parcio o flaen drws y ffrynt a byddai'r drws ochr yn llithro i'r ochr i ddatgelu haenau a haenau o ddanteithion wedi eu pobi mewn rhesi ar ben ei gilydd. Dwi'n gallu gweld ac arogli'r olygfa hyd heddiw. Custard Slice oedd y ffefryn i mi bob tro!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Traeth Cwm Silio. Llecyn o draeth rhwng Cwmtydu a Chei Newydd. Mae yna lwybr cerdded yn arwain yr holl ffordd o'r fferm lle cefais fy magu i lawr at y traeth. Roeddwn yn cerdded y llwybr yn aml iawn yn blentyn ac wrth dyfu i fyny ac o hyd yn ei wneud pan dwi'n ymweld ag adref. Lle heddychlon a thawel. Lle i'r enaid gael llonydd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi'n lwcus iawn i fod wedi cael sawl noson dda hyd at yma. Dwi methu dewis un yn benodol ond mae un noson haf llynedd ar y Southbank yn Llundain yn sefyll allan. Trefniadau munud olaf i fynd i weld gig gan un o fy hoff berfformwyr Drag, Diane Chorley a neb llai na'r hynod Sophie Ellis-Bextor. Roedd yr haul yn gwenu, y diodydd yn llifo, roedd y digwyddiad am ddim ac roeddwn i mewn cwmni da iawn!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Cymdeithasol. Creadigol. Meddylgar.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Rhyw dair blynedd yn ôl nes i brynu fan wedi'i throsi er mwyn campio. Fe es i a fy ffrind Mared ar daith ynddi i'r Alban am bum noswaith ym mis Medi. Rwy' o hyd yn edrych yn ôl ar y gwyliau hynny gyda gwên. Y ddau ohonom ni yn cysgu yn gefn y fan, dringo Ben Nevis gyda'r wawr a dod lawr i gael peint yn y dafarn ar waelod y mynydd gyda'r prynhawn. Lot fawr o chwerthin, golygfeydd godidog a rhyddid i deithio'n hamddenol gyda ffrind arbennig iawn.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi ddim yn berson sy'n teimlo cywilydd yn hawdd iawn mewn sefyllfaoedd cyhoeddus. Ond, yn ddiweddar iawn, dwi'n cofio gweld rhywun dwi'n edmygu yn fawr, o'n i heb weld ers amser hir, ac wrth iddyn nhw godi llaw ata i a meimio 'how are you?' o bell drwy'r dorf, yn hytrach na' dewis un ymateb call e.e. chwifio, chwythu cusan neu godi bawd, nes i gusanu blaen fy mys bawd a chwifio hwnnw yn ôl at y person. Smwwwwwdd Meilir…
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n berson eithaf emosiynol i ddweud y gwir, dwi'n crio yn reit aml ac yn meddwl bod hynny yn iach o beth. Dwi'n annog pawb i lefen, mae'n dod a rhyddhad emosiynol ac mae'n help i brosesu teimladau, boed yn rhai hapus neu drist. Felly, i ateb y cwestiwn, fe fues i'n llefen wythnos diwethaf wrth wylio'r ffilm Close (hoff ffilm Elain Roberts oedd yn Ateb y Galw wythnos ddiwethaf digwydd bod).
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Na, dwi'm yn meddwl, ond dwi'n siwr fydd gan y bobol sy'n fy adnabod i'n dda sawl ateb i'r cwestiwn hwn.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Ffilm dwi wedi ei wylio'n weddol ddiweddar sydd wedi creu argraff arnaf yw And Then We Danced. Mae'n ffilm am ddawnsio traddodiadol o Georgia sy'n cynnig sylwebaeth ar y cysyniad o wrywdod. Mae'n dilyn stori un dawnsiwr yn dygymod a'i rywioldeb ag ymateb y bobl sydd o'i gwmpas i hyn. Mae'r ffilm wedi ei leoli yn ninas Tblisi ac mae'r senograffeg a'r gwaith camera yn hynod o grefftus a thrawiadol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Cwestiwn anodd… efallai rhywun fel Leigh Bowery - person nodweddiadol o'r sîn 'New Romantics' yn yr 80au yn Llundain. Artist, Perfformiwr a Chynllunydd Gwisgoedd a Ffasiwn. Baswn ni'n dwlu clywed am hanesion o fod yn berson Cwiâr yn ystod y cyfnod hwn yn ogystal â'r syniadaeth tu ôl i'w amryw o berfformiadau a'i wisgoedd anhygoel.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Dwi'n hoff iawn o wnïo, cynllunio a chreu gwisgoedd fy hun ar gyfer mynd i wyliau gwahanol a nosweithiau gwisg ffansi. Fe ddysgais fy hun sut i wnïo dros y cyfnod clo - rhywbeth yr oeddwn wedi eisiau ei wneud er amser hir iawn. Dwi hefyd newydd ddechrau creu a chynllunio gwisgoedd i un o fy ffrindiau sy'n gweithio fel dawnsiwr mewn clybiau nos!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ydw i'n cael dewis pa fath o dywydd fydd? Os ydw i, wedyn fyddai'n trefnu i gael barbeciw mawr ar draeth Cwm Silio gyda fy holl deulu a ffrindiau yn bresennol. Bwyta, yfed a dawnsio drwy'r dydd, ac i orffen y diwrnod… nofio yn y môr!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Rwy'n hoff iawn o'r llun yma o fy mrawd, Morys, fy chwaer Marged a finnau yng Ngŵyl Nôl a 'Mlaen Llangrannog yn 2018. Yn anaml iawn mae'r tri ohonom ni yn yr un lle ar yr un pryd, heb sôn am ar yr un noson allan, felly roedd hi'n braf cael deg munud yng nghwmni ein gilydd i ddawnsio ac i rannu diod, a digwydd bod, mae yna lun i gofio'r foment!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Pam yn y byd fyswn i eisiau bod yn rhywun arall am ddiwrnod? Dwi'n mwynhau bod yn fi ar hyn o bryd!
Hefyd o ddiddordeb: