Newid hinsawdd: 'Rhaid i ni wneud rhywbeth'

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Roedd sychder yn amlwg ledled Cymru y llynedd, gan gynnwys yma yng Nghronfa Llwyn-onn ym Mannau Brycheiniog
  • Awdur, Ruth Roberts
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae'r byd yn cynhesu - dydi hynny ddim yn gyfrinach ac mae yna ystadegau trawiadol newydd sy'n profi dangos effeithiau newid hinsawdd.

Yr wythnos hon cafodd y record am dymheredd cyfartalog uchaf y ddaear ei thorri deirgwaith.

Mis Mehefin eleni oedd y poethaf ar gofnod yn y Deyrnas Unedig - roedd y tymheredd cyfartalog yn agos at 15.8C, 0.9C yn uwch na'r record flaenorol yn 1940 a 1976.

Yn 么l un arbenigwr newid hinsawdd, Erin Owain, mae lle i gredu ein bod ni'n gweld rhagor o'r effeithiau yma yng Nghymru.

"Da ni'n gweld yng Nghymru wrth gwrs bod lefelau afonydd llawer is, lefelau llynnoedd yn llawer is, argaeledd d诺r a chwestiynau o amgylch hynny yn enwedig pan mae'n dod at sychder gyda chwestiynau o ran ffermwyr a chnydau ac ati."

'Rhaid i ni wneud rhywbeth'

Cafodd diwrnod newid hinsawdd ei gynnal yn Ysgol Gwent Is Coed yng Nghasnewydd yr wythnos hon, lle bu'r plant yn hel syniadau yngl欧n 芒 sut i leihau ein heffaith ni ar dymheredd y byd, gyda'r cynigion gorau yn cael eu cyflwyno i Gyngor Casnewydd.

Roedd brwdfrydedd y disgyblion am y mater yn amlwg.

"Dydi llawer o bobl ddim yn sylwi be' ma' nhw'n 'neud i'r blaned," medd Hannah.

"Mae'n rhaid i ni 'neud rhywbeth a dysgu am y broblem a sut i'w datrys," ychwanegodd Levi.

Disgrifiad o'r llun, Mae disgyblion Ysgol Gwent Is Coed wedi bod yn gweithio ar syniadau am sut i leihau newid hinsawdd

Yn 么l Miles Hermann, athro dyniaethau yn yr ysgol, mae addysgu ein cenhedlaeth nesaf am faterion o'r fath yn bwysig.

"Profiadau fel hyn sy'n mynd i helpu nhw i fod yn ymwybodol o'r problemau sy'n ein hwynebu a gweld sut fedran nhw gyfrannu a chreu newid," dywedodd.

Disgrifiad o'r llun, Erin Owain: "Parhau i godi mae'r tymheredd ac felly mae'n bwysig bod ni'n dechrau addasu heddiw i'r lefelau yma"

Dywedodd Erin Owain: "Dydy'n tai ni ddim wedi eu hadeiladu i fod yn barod ar gyfer y tymheredd yna.

"Dydy'n system iechyd ni ddim yn barod i gymryd y nifer o bobl ychwanegol i mewn i'n hysbytai ni oherwydd problemau yn ymwneud gyda thymheredd uchel.

"Mae'n bwysig bod y llywodraeth yn cymryd camau pwysig heddiw i 'neud yn si诺r ein bod ni'n paratoi am y tymheredd uwch yn ein hafau ni yn y dyfodol.

"Parhau i godi mae'r tymheredd am 'neud ac felly mae'n bwysig bod ni'n dechrau addasu heddiw i'r lefelau yma."

Disgrifiad o'r llun, Mae newid hinsawdd yn gyfrifol am dywydd eithafol cynyddol sydd wedi achosi llifogydd yng Nghymru mewn blynyddoedd diweddar

Mae rhybudd Llywodraeth Cymru yr un mor drawiadol.

Yn 么l y gweinidog newid hinsawdd, Julie James, mae'r sefyllfa'n fygythiad i ddynoliaeth ac mae'n rhaid i bethau newid.

"Mae'n fygythiad bywyd neu farwolaeth i ddynoliaeth," meddai.

"Mae'n rhaid i ni newid hynny a dod yn fwy hunangynhaliol. Mae newid hinsawdd yn bodoli ac mae'n digwydd nawr."

Ychwanegodd nad problem i genedlaethau'r dyfodol i'w datrys ydy newid hinsawdd a bod angen i bawb geisio cyfrannu nawr i sicrhau gwell dyfodol.