大象传媒

Capten Cymru, Aaron Ramsey yn dychwelyd i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Aaron Ramsey wedi dychwelyd i Glwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caerdydd

Mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caerdydd wedi arwyddo capten Cymru, Aaron Ramsey.

Ar 么l cwblhau profion meddygol ddydd Iau, mae Ramsey, 32, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda'r Adar Gleision.

Doedd dim rhaid i Gaerdydd dalu ffi am y chwaraewr canol cae, ar 么l i'w gytundeb gyda chlwb Nice yn Ffrainc ddod i ben.

"Mae'n teimlo'n anhygoel i fod yn 么l yma o'r diwedd," dywedodd. "Ro'n i wastad wedi meddwl y byswn i'n dod yn 么l un diwrnod a nawr yw'r amser perffaith i wneud hynny."

"Mae bod yn 么l gyda fy nheulu ac yng nghanol wynebau cyfarwydd yn wych... rwy' wedi colli hynny lot yn y flwyddyn ddwytha, felly roedd yn bwysig i mi fod yn 么l yn eu plith.

"Yn amlwg, rwy'n cefnogwr Dinas Caerdydd ac o'u gwylio ers i mi fod i ffwrdd, rydyn ni wedi cael rhai iselbwyntiau ond rhai uchelbwyntiau hefyd - bod yn yr Uwchgynghrair a chynrychioli Caerdydd ar y llwyfan mawr.

"Mae hynny'n darged gen i - ceisio helpu fy nghyd-chwaraewyr a'r clwb yma i fynd yn 么l i'r brig."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraeodd Ramsey i Gaerdydd am y tro cyntaf yn 2007

Dywedodd Ramsey iddo ddewis setlo n么l yng Nghaerdydd gyda'i deulu yn hytrach nag arwyddo cytundeb hael gyda un o glybiau Saudi Arabia.

Ychwanegodd capten Cymru iddo siarad 芒 rheolwr y t卯m cenedlaethol, Robert Page, cyn arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda chlwb yr ail haen.

Mae hefyd yn gobeithio helpu talentau ifanc fel Rubin Colwill.

"Roeddwn bob amser yn gwybod yng nghefn fy meddwl y byddwn i'n dod yn 么l un diwrnod," meddai Ramsey wrth adran chwaraeon 大象传媒 Cymru.

"Rwy'n meddwl mai nawr yw'r amser iawn. Doeddwn i ddim eisiau dod yn 么l am flwyddyn neu rywbeth felly ar ddiwedd fy ngyrfa, rwyf eisiau dod yn 么l tra fy mod yn dal i deimlo y gallaf berfformio a helpu'r t卯m.

"Nawr yw'r amser perffaith i wneud hynny."

'Gyrfa rhagorol'

Daeth Ramsey drwy dimau ieuenctid Caerdydd cyn arwyddo gydag Arsenal yn 2008.

Aeth yn ei flaen i chwarae dros 250 o weithiau i'r Gunners, cyn symud i Juventus yn 2019, ac yna Nice yn haf y llynedd.

Ffynhonnell y llun, CPD Dinas Caerdydd

Cafodd Ramsey, sydd wedi ennill 82 o gapiau dros Gymru, ei benodi'n gapten y t卯m p锚l-droed cenedlaethol am yr eildro n么l ym mis Mawrth.

Mewn cyfweliad 芒'r 大象传媒 ym mis Mehefin, dywedodd y byddai "wrth ei fodd" yn dychwelyd i Gaerdydd.

"Yng Nghaerdydd nes i dyfu fyny, a dwi'n ddiolchgar iawn eu bod nhw wedi rhoi'r cyfle i mi allu datblygu, ac i fynd ymlaen i gyflawni'r hyn yr ydw i wedi llwyddo ei wneud yn fy ngyrfa hyd yn hyn.

"Mi fyddai wastad yn ddiolchgar am hynny, a'r peth pwysicaf i mi nawr yw fy mod i'n gwneud y penderfyniad iawn i fi a fy nheulu," meddai.

Er bod Caerdydd wedi eu gwahardd rhag talu ffi am chwaraewyr newydd tan fis Ionawr, mae hawl ganddyn nhw i arwyddo chwaraewyr newydd ar fenthyg, neu rhai sydd heb gytundeb.

Ramsey ydi'r pumed chwaraewr i'r rheolwr newydd, Erol Bulut, ei arwyddo hyd yn hyn, gan ddilyn Yakou Meite, Dimitrios Goutas, Ike Ugbo a Karlan Grant.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Ramsey ei benodi'n gapten y t卯m cenedlaethol yn dilyn ymddeoliad Gareth Bale

Dywedodd Bulut: "Mae hwn, wrth gwrs, yn ddiwrnod gwych. Yma wnaeth Aaron ddechrau a nawr mae wedi dychwelyd i'n helpu ni i gyrraedd ein targedau.

"Mae Aaron wedi cael gyrfa wych - yn yr Uwch Gynghrair, yna yn Yr Eidal ac yn Ffrainc ac nawr 'n么l adref yng Nghaerdydd.

"Rwy'n gobeithio y bydd ei flynyddoedd olaf gyda ni yn rhagorol hefyd, ac y gallwn ni wireddu ein breuddwydion."