Lleoliad newydd Tafwyl: 'Gobeithio bydd dim ciwio'

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Gwenno Roberts fod y cynulleidfaoedd cynyddol wedi arwain at "ymgysylltu yn fwy efo cymunedau gwahanol"

Bydd G诺yl Gymraeg Caerdydd, Tafwyl yn cael ei chynnal mewn lleoliad gwahanol i'r arfer dros y penwythnos, oherwydd ei "bod hi'n amser symud i leoliad ychydig yn fwy" yn 么l y trefnwyr.

Mae Bwncath, Candelas ac Eadyth ymhlith y rhai fydd yn perfformio ar y prif lwyfan ym Mharc Bute, gyda llawer o ddigwyddiadau eraill yn digwydd o gwmpas y maes hefyd.

Eleni mae'r trefnwyr wedi sicrhau bod yr 诺yl mor wyrdd ag erioed, gydag ap i ddangos yr amserlen ac ardal di-blastig.

Ond mae ymwelwyr wedi eu rhybuddio am y tywydd, gyda rhagolygon o wyntoedd o hyd at 45mya ar draws de Cymru.

'Gobeithio bydd dim ciwio'

Cafodd yr 诺yl Gymraeg yn y brifddinas ei sefydlu yn 2006, a'i chynnal yng Nghastell Caerdydd am y tro cyntaf yn 2012.

Mae'r lleoliad hwnnw yng nghanol y ddinas wedi ei chynnal hi bron bob blwyddyn ers hynny, oni bai am ambell dro fel yn 2017 pan oedd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Tafwyl

Disgrifiad o'r llun, Castell Caerdydd sydd wedi bod yn gartref i Tafwyl mewn blynyddoedd diweddar

Ond eleni, mae'r 诺yl yn symud i Barc Bute gerllaw.

"Ni wedi symud o'r castell, ddim yn bell iawn ger Caeau Cooper ym Mharc Bute", dywedodd cydlynydd yr 诺yl, Gwenno Roberts.

"Yn hanesyddol, ni wedi bod yn ffodus iawn i fod yn hynod boblogaidd, a theimlo bod hi'n amser symud i leoliad ychydig yn fwy.

"Bydd bach mwy o hyblygrwydd efo'r maes i ni gael dylunio fo ein hunain. Gan obeithio bydd dim ciwio eleni a digon o le i bawb.

"Bydd tair mynedfa i'r maes. Ac mae'r lleoliad newydd yn dal miloedd yn fwy."

Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi ymdrechu i wneud yr 诺yl mor amrywiol 芒 phosib eleni, gan obeithio creu g诺yl i bawb.

"Ni'n trio ein gorau i fesur maint ein cynulleidfa - fel pwy sy'n dod i'r 诺yl", meddai Ms Roberts.

"Ni wedi ffeindio nid yn unig bod y niferoedd wedi cynyddu ond ni'n ymgysylltu'n fwy gyda chymunedau gwahanol ac yn eu croesawu nhw mewn i ddiwylliant Cymreig.

"Ni wedi gwneud prosiectau gyda ffoaduriaid a chanolfan OASIS eleni.

"A 'da ni'n rhoi trafnidiaeth am ddim i ysgolion o ardaloedd sy'n draddodiadol ddim yn dod i'r 诺yl."

Hefyd eleni mae'r trefnwyr yn ceisio gwneud yr 诺yl mor wyrdd 芒 phosib, gan gyflwyno safle di-blastig a chynnig amserlen y penwythnos ar ap yn lle creu rhaglenni papur.

Dywedodd Ms Roberts: "Mae gennym ni, am y tro cyntaf eleni, ap, sy'n golygu na fyddwn ni'n argraffu llwyth o bapurau.

"Ni gyda safle di-blastig felly ni'n gweithio'n galed i wneud y digwyddiad yn un werdd.

"Byddwn ni hefyd yn gofyn i bobl ar y maes i gydfyd gyda hynny hefyd."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall

Ymhlith y dwsinau o artistiaid fydd yn perfformio yn yr 诺yl eleni mae Bwncath, Candelas, HMS Morris, Dafydd Iwan, Band Pres Llarregub, Tara Bandito, Lloyd + Dom, Sage Todz a Sywel Nyw.

Ychwanegodd Ms Roberts: "Ar y maes, bydd llwyfan llais gyda llwyth o sgyrsiau panel diddorol fel sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Joe Ledley.

"Bydd yr ysgolion lleol i gyd yn perfformio hefyd, gyda maes chwaraeon a llwyth o fwyd stryd. Rhywbeth i bawb gobeithio!"

Er gwaetha'r rhagolygon ar gyfer y penwythnos roedd Gwenno Roberts yn obeithiol y bydd torfeydd yn dal i gefnogi Tafwyl:

"Dydy'r tywydd ddim yn ffafriol y penwythnos yma. Ond mae pawb yng Nghymru yn berchen ar got law!"