Cymru'n trechu Lloegr wrth baratoi at Gwpan Rygbi'r Byd

Ffynhonnell y llun, David Rogers

Roedd ceisiau gan Gareth Davies a George North a 10 pwynt o droed Leigh Halfpenny yn ddigon i selio buddugoliaeth yn erbyn yr hen elyn yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd Lloegr ar y blaen o 9-6 ar yr egwyl ond wedi'u hysbrydoli gan eu capten newydd, Jac Morgan, ddoth Cymru'n 么l i sicrhau'r fuddugoliaeth yn y g锚m gyfeillgar hon fel rhan o'r paratoadau at Gwpan y Byd.

Marcus Smith oedd sgoriwr tair cic gosb Lloegr yn yr hanner cyntaf.

Ac er nad oedd Stadiwm y Principality yn hollol lawn, mi fydd y 65,802 oedd yno wedi mwynhau perfformiad t卯m Warren Gatland, sydd eisoes wedi addo y byddai Cymru'n "synnu pobl" ac yn "gwneud rhywbeth arbennig" yn y gystadleuaeth.

Yn wir, roedd Cymru'n credu eu bod wedi sicrhau buddugoliaeth hyd yn oed fwy anrhydeddus na'r 20-9 terfynol, ond diddymwyd cais hwyr Louis Rees-Zammit gan ei fod wedi cyffwrdd 芒'r b锚l ddwywaith cyn croesi'r llinell gais.

Wrth ddathlu ei ganfed cap roedd hi'n brynhawn arbennig i Leigh Halfpenny, ond roedd cydnabyddiaeth hefyd cyn y g锚m o gyfraniadau Clive Rowlands, cyn-gapten a hyfforddwr Cymru a bu farw'n ddiweddar yn 85 oed.

Wrth i'r paratoadau at Gwpan y Byd barhau bydd Cymru'n wynebu Lloegr unwaith eto yn Twickenham brynhawn Sadwrn nesaf cyn croesawu De Affrica i Stadiwm y Principality ar 19 Awst.