Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhestrau aros: Llywodraeth y DU yn cynnig cydweithio
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei fod eisiau cydweithio 芒 Llywodraeth Cymru er mwyn lleihau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd.
Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth y DU, Steve Barclay, wedi gwahodd gweinidogion Cymru a'r Alban i drafod sut y gellir "gweld cleifion yn gynt".
Dywedodd ei fod yn "agored i geisiadau" i drin cleifion o Gymru - sy'n "disgwyl yn hir" - yn Lloegr.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud a fydd yn cymryd rhan yn y trafodaethau, ond dywedodd llefarydd fod y rheiny sy'n aros yn hir am driniaethau yn "gostwng pob mis".
Llywodraeth Lafur Cymru sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond mae rhai cleifion eisoes yn teithio i Loegr ar gyfer rhai triniaethau.
Dywedodd Mr Barclay, sy'n gyfrifol am y GIG yn Lloegr, mai nod y trafodaethau fyddai "adeiladu ar y trefniadau presennol ar gyfer gofal iechyd traws-ffiniol".
Roedd y ffigyrau diweddaraf, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn dangos fod rhestrau aros am driniaethau ysbyty yng Nghymru wedi cynyddu.
Roedd amseroedd aros mewn unedau brys wedi gwella ychydig, er i fwy o gleifion nag erioed fynychu'r adrannau.
Yn 么l y ffigyrau, roedd 748,395 o driniaethau ysbyty eto i'w cwblhau yng Nghymru ym mis Mai.
Dros y ffin yn Lloegr, mae dros 7.5 miliwn o driniaethau eto i'w cwblhau, tra bod rhestrau aros hir yn Yr Alban hefyd.
Yn siarad gyda'r wasg ddydd Sul dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, y dylai cleifion o Gymru fod 芒'r hawl i gael eu trin yn Lloegr.
"Oll mae Steve Barclay yn ei ddweud ydy, 'edrychwch, ry'n ni gyd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, ac os yw cleifion yng Nghymru eisiau cael eu trin yn Lloegr, fe ddylen nhw gael yr hawl'," meddai.
Dywedodd fod y "targedau ar restrau aros hirdymor wedi cael eu cyrraedd" yn Lloegr, ond nad yw hynny'n wir yng Nghymru.
Cyfaddefodd fod problem gyda rhestrau aros tymor byr yn Lloegr, ond dywedodd mai streiciau sydd ar fai am hynny.
'Rhoi'r un hawliau i gleifion yng Nghymru'
"Mae nifer y bobl sy'n disgwyl dros ddwy flynedd am driniaeth yn Lloegr bron yn ddim," meddai.
"Yng Nghymru mae'n 30,000. Mae hynny'n ofnadwy.
"Mae pawb ar draws y DU yn talu'r un faint mewn treth tuag at y GIG, ac felly dyw hi ddim yn iawn fod pobl mewn rhai rhannau o'r DU sy'n disgwyl dros ddwy flynedd am driniaeth.
"Felly rydyn ni'n cynnig rhoi'r un hawliau i gleifion yng Nghymru 芒'r hyn fyddai ganddyn nhw yn Lloegr, sef, os ydyn nhw'n barod i deithio, gallan nhw fynd i unrhyw ysbyty sy'n gallu cynnig y driniaeth maen nhw ei angen."
Mewn datganiad dywedodd Mr Barclay: "Mae'n werthfawr iawn gallu rhannu gwybodaeth a phrofiadau am yr heriau sy'n wynebu ein systemau gofal iechyd ni oll.
"Rydw i eisiau cefnogi cydweithio rhwng ein cenhedloedd er mwyn rhannu arfer gorau, gwella tryloywder a rhoi mwy o atebolrwydd i gleifion.
"Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn unedig pan ddaw at dorri rhestrau aros - un o bum prif flaenoriaeth y llywodraeth - a bydd yn ein galluogi i gydweithio'n well er mwyn gwella perfformiad a gweld cleifion yn gynt."
'Cymru'n perfformio'n well na Lloegr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cymru yn cynnwys mwy o atgyfeiriadau yn ei hystadegau amseroedd aros na Lloegr.
"Mae'r rheiny sy'n aros yn hir am driniaethau yn gostwng pob mis yng Nghymru, ac wedi haneru yn y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'r twf yng nghyfanswm y triniaethau sydd eto i'w cwblhau yn llai yng Nghymru na Lloegr dros y 12 mis diwethaf - tyfodd 3.6% yng Nghymru a 12.1% yn Lloegr.
"Mae Cymru hefyd wedi perfformio'n well na Lloegr o ran perfformiad adrannau brys mewn naw o'r 10 mis diwethaf.
"Yng Nghymru, mae cleifion yn cael eu trin yn nhrefn faint o frys clinigol sydd."