Ateb y Galw: Alun Ffred

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Alun Ffred yn seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen

Alun Ffred, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd, cyn Aelod o'r Cynulliad a chyfarwyddwr cyfresi poblogaidd fel C'mon Midffild sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae gen i ryw atgof ohonof yn rhedeg ar y stryd - Bryn Avenue - y tu allan i'n cartref ym Mrynaman yn hanner noeth a chymydog i ni, John Bevan, yn pwyso allan o gab ei lori lo anferth yn gweiddi arnaf i fynd n么l i'r t欧 at fy mam. Anodd gwybod ai hunllef neu atgof ydi o.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Traeth Penllech, Pen Ll欧n. Am ein bod wedi cael y lle i ni'n hunain un prynhawn cofiadwy pan oedd y teulu'n ifanc yn y d诺r ac yn syllu i byllau yn y creigiau a chwarae criced.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Cwestiwn peryglus. Felly mi af am brynhawn. Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd 1972 yn nhafarn y General Picton ger y Maes. Yn ddamweiniol fwriadol daeth criw at ei gilydd ac yn eu plith aelodau o gr诺p Y Dyniadon Hirfelyn Tesog, cerddorion a lleiswyr da, a cafwyd prynhawn o ganu hwyliog ac amrywiol - nid emynau treuliedig.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Disgrifiad o'r llun, Y digrifwr Eirwyn Pontshan ar y poster enwog

Ac fel yr oedd y lleisiau a'r nerth yn pallu pwy gerddodd i mewn ond y cymeriad ffraeth, Eirwyn Pontshan a'i gap gwyn. Roedd ganddo gynulleidfa berffaith ymlacedig ac fe aeth trwy ei berfformans o straeon a phenillion hurt a chrafog i gyfeiliant m么r o chwerthin. Prynhawn i'w gofio a'i drysori.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Dibynadwy. Annibynnol. Bl锚r.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?

Pan ganodd fy ff么n symudol yn ystod seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen ym Moduan. Dywedodd cyfaill wrtha i y dylwn fod wedi ei ateb a dweud "Gwranda, dw i'n brysur. Mi ffonia i di'n 么l." Mi fyddai'r hen Ddaniel wedi bod wrth ei fodd.

Disgrifiad o'r fideo, Sylwoch chi ar ff么n Alun Ffred yn canu yn seremoni'r Daniel Owen?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gormod ohonyn nhw. Ond dw i'n cofio chwarae mewn g锚m griced yn un o Eisteddfodau Cenedlaethol y Bala ac roedd y Dr Derec Llwyd Morgan wedi cael gwahoddiad i chwarae.

R诺an, mae DLlM yn gricedwr go iawn ac mi ddaeth yn ei wisg wen a cherdded yn dalog i'r llain yn barod am fatiad go solet. Ond fi oedd yr ochr arall ac roedd gen i theori y gallech redeg unrhyw dro os oeddech wedi taro p锚l gyda'r bat am fod y maeswyr braidd yn araf a musgrell. A dyna wnes i er nad oedd y b锚l prin wedi gadael y sgw芒r. Daeth hyn fel sioc i Derec a cafodd ei redeg allan heb wynebu pelen. Doedd o ddim yn ddyn hapus iawn a pwy all ei feio.

Felly bob tro dw i'n ei weld dw i'n cywilyddio ac yn dychmygu bod y cof am y Bala yn dal wedi ei serio ar ei gof.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Unrhyw angladd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, diolch. Mwy na digon. Un diniwed. Roedd gen i syniad nad oedd unrhyw emosiwn yn ymddangos ar fy wyneb mewn digwyddiadau cyhoeddus. Mod i fel Mona Lisa, yn inscrutable. Ond mae mhlant i yn dweud mod i'n llawn stumie sy'n embaras mawr i mi. Rhy hwyr, bellach.

Ffynhonnell y llun, Alun Ffred

Disgrifiad o'r llun, Alwyn Sion, Dilwyn Morgan, Irwyn Jones, Elfyn Llwyd ac Alun Ffred yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Siapan

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Nofel Joseph Heller, Catch-22. Am ei fod yn ddoniol, yn amharchus, yn wallgo ac yn dychanu ffolineb rhyfel i'r eithaf. Ar 么l darllen Catch-22 allwch chi ddim derbyn unrhyw Awdurdod ormod o ddifrif.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod a pham?

Fy hen gyfaill Ioan Roberts, y newyddiadurwr, y cynhyrchydd a'r deudwr straeon di ail.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Enillais y wobr gyntaf am siwtni betys yn Sioe Dyffryn Nantlle un flwyddyn gan ddefnyddio betys a nionod o'm gardd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd am dro i ben Graig Goch ar Grib Nantlle i gael golwg ar y wlad gyfareddol ryden ni'n byw ynddi.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun o mam a nhad (ar y dde) gyda'u ffrindiau, Ifor a Winnie Owen o Lanuwchllyn. Pobl ddylanwadol yn fy mywyd i a bywydau llawer o rai eraill.

Ffynhonnell y llun, Alun Ffred

Disgrifiad o'r llun, Ifor a Winnie Owen (chwith) gyda rhieni Alun Ffred, Elizabeth a Gerallt Jones (dde) ar draeth Llangrannog

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dewi Pws, er mwyn gweld beth sydd yn mynd mlaen yn y pen yna.

Hefyd o ddiddordeb: