Drakeford yn galw am wahardd c诺n Bully XL ar unwaith

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Jack Lis o Gaerffili yn dilyn ymosodiad gan gi o frid Bully XL yn 2021

Rhaid i Lywodraeth y DU beidio ag oedi rhagor a gwahardd math o g诺n tarw Americanaidd, yn 么l Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford.

Mae'r math o g诺n - American Bully XL - dan y chwyddwydr wedi i fideo gael ei rhannu ar-lein o gi yn ymosod ar ferch 11 oed a dau ddyn yn Birmingham.

Daw galwad Mr Drakeford wedi i'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman ddweud ei bod yn ystyried y posibilrwydd o wahardd y brid.

Dywedodd Ms Braverman ei bod yn cael "cyngor ar frys", gan ychwanegu fod yr ymosodiad yn arswydus, a bod y brid yn eithriadol o beryglus i blant.

'Ble roeddech chi?'

Yn y cyfamser, gofynnodd mam o Gaerffili, a gollodd ei mab yn dilyn ymosodiad arno gan gi tarw Americanaidd, pam nad oedd Llywodraeth y DU wedi gweithredu cyn hyn.

Cafodd Jack Lis, oedd yn 10 oed, ei ladd yn dilyn yr ymosodiad gan y ci yn nh欧 ffrind yn 2021.

Mewn neges ar X (Twitter gynt), dywedodd Emma Whitfield: "Mae'n wallgof sut mae'r fideo wedi mynd yn feiral, a bod gwleidyddion nawr yn dweud pa mor wael yw hyn i gyd.

"Ym mhle roeddech chi pan gafodd pobl eraill ddiniwed eu lladd? Ble roeddech chi pan roeddwn i'n galw am newid? Dim unman."

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y ci tarw Americanaidd a ymosododd ar Jack Lis, Beast, ei ddifa yn ddiweddarach

Ar hyn o bryd, dydy c诺n XL Bully ddim am y rhestr o fridiau sydd wedi eu gwahardd yn y DU

Yn ei ddatganiad, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod angen i Lywodraeth y DU weithredu ar frys i wahardd y brid.

Awgrymodd fod gweinidogion yn San Steffan wedi llusgo eu traed ar y mater.

Cyfeiriodd at farwolaeth Jack Lis, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cysylltu gyda Llywodraeth y DU ar y pryd i drafod y pryderon.

Does gan Lywodraeth Cymru ddim o'r grymoedd i wahardd y brid.

Dywedodd y Swyddfa Gartref mai cyfrifoldeb Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) fyddai unrhyw newid polisi.