Cyngor yn tynnu cefnogaeth ariannol o gynllun ynni gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor lleol wedi tynnu'n 么l o gynllun fyddai'n cynhyrchu hydrogen gwyrdd ar gyfer cerbydau sector cyhoeddus fel bysys a loris sbwriel.
Dywedodd cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr na allai fforddio parhau i gyfrannu'n ariannol.
Mae prosiect HyBont, gwerth 拢31m, yn cael ei weld fel prototeip, gyda'r gobaith o fedru adeiladu safleoedd tebyg mewn siroedd eraill maes o law.
Mae'r datblygwyr - cwmni Marubeni Europower o Japan - yn dweud eu bod yn dal wedi'u hymrwymo i'r cynllun.
Roedden nhw wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ers 2021 yngl欧n 芒 dod 芒'u "prosiect arddangos hydrogen gwyrdd" i Gymru.
Arweiniodd hyn at lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth y llynedd gyda chyngor Pen-y-bont ar 么l dewis safle ar gyfer y cynllun ar st芒d ddiwydiannol Brynmenyn, ger pentref Bryncethin.
Byddai'n defnyddio p诺er o fferm solar gerllaw i gynhyrchu tanwydd gwyrdd ar gyfer cerbydau'r cyngor, a gwres ar gyfer ysgolion lleol a chanolfan hamdden drwy bibell hydrogen 1.2km o hyd.
Yr hyn sy'n arloesol am y cynllun yw ei ddefnydd o feddalwedd i geisio cysylltu'r galw am hydrogen ar adegau pan mae'n fwyaf rhad i'w gynhyrchu, gan wneud y broses yn fwy effeithlon.
'Heriau cyllidebol newydd sylweddol'
Ar y pryd roedd y cyngor yn dweud eu bod yn gobeithio y gallai'r cynllun "arwain y ffordd", gyda'r gweinidog newid hinsawdd, Julie James, hefyd yn canmol y weledigaeth fel cam tuag at gyrraedd targedau sero net Cymru.
Ond ddydd Mawrth fe benderfynodd aelodau cabinet Cyngor Pen-y-Bont dynnu'u cefnogaeth ariannol ar gyfer y cynllun yn 么l.
Roedd adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer y cabinet yn dweud y byddai disgwyl i'r cyngor dalu oddeutu 拢6.5m tuag at wireddu'r prosiect, yn refeniw a chostau cyfalaf.
Ond ar 么l i'r cyngor "broffwydo diffyg ariannol gwerth miliynau o bunnau ar gyfer 2024-25 ac yn wyneb heriau cyllidebol newydd sylweddol", fe wnaeth swyddogion argymell y dylai'r cabinet roi stop ar fuddsoddiadau pellach yn HyBont.
Dywedodd Janine Nightinglae, Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau yng nghyngor Pen-y-Bont ei fod yn "benderfyniad anodd" a bod y cyngor "wedi ymrwymo yn llwyr" i'w strategaeth sero net ei hun.
Ond ychwanegodd pan ddaeth Llywodraeth Cymru at y cyngor yn wreiddiol i holi yngl欧n 芒'u diddordeb posib yn y cynlluniau "doedd hi ddim yn glir bryd hynny y goblygiadau refeniw a chyfalaf sylweddol fyddai'n rhaid cael eu buddsoddi" gan y cyngor.
Fe gytunodd y cabinet i barhau i siarad 芒 phartneriaid a Llywodraeth Cymru er mwyn "dod o hyd i ffordd arall ymlaen" gyda'r cwmni.
Mae'r cynllun yn wynebu her arall wedi i'w gais cynllunio arwain at wrthwynebiad chwyrn yn lleol, gyda rhai'n codi pryderon yngl欧n 芒 pha mor agos fyddai'r safle at gartrefi a busnesau.
Fe gyhoeddodd y cyngor yr wythnos ddiwethaf y byddai angen cynnal cyfarfod arbennig o'i bwyllgor cynllunio er mwyn trafod y cais, a rhoi cyfle i drigolion lleol leisio'u barn.
Maen nhw hefyd wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru gymryd rheolaeth dros y penderfyniad terfynol yngl欧n ag a fydd y cynllun yn cael caniatad cynllunio ai peidio.
Mewn datganiad, fe wnaeth llefarydd ar ran Marubeni Europower ddiolch i'r cyngor am "barhau i gefnogi" HyBont.
"Mae'r ymrwymiad gan y cabinet i barhau i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ymchwilio sut y gallan nhw gefnogi HyBont ymhellach i'w groesawu'n fawr, ac er nad yw'r cyngor bellach mewn sefyllfa ariannol i fuddsoddi, mae'n gymeradwyaeth glir o'r prosiect," meddai.
"Ry'n ni'n barod mewn trafodaethau 芒 phartneriaid eraill yngl欧n 芒 chyllid at y dyfodol a ry'n ni wedi ymrwymo yn llwyr i sicrhau bod HyBont yn digwydd, gan ddod 芒 buddion economiadd i'r gymuned leol, creu swyddi ac annog twf cynaliadwy yn yr ardal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2021
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2020