Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi canllawiau newydd ar e-sigar茅ts i ysgolion
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cyhoeddi cyngor newydd i ysgolion uwchradd am sut i ddelio 芒'r defnydd o f锚ps ymysg eu disgyblion.
Mae ymchwil gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn nodi fod 20% o bobl ifanc rhwng blwyddyn 7 ac 11 yn dweud eu bod wedi defnyddio e-sigar茅t, tra bod 5% o ddisgyblion uwchradd Cymru yn defnyddio f锚ps o leiaf unwaith yr wythnos.
Mae ysgolion wedi dweud bod hyn yn arwain at broblemau ymddygiad a bod mwy o ddisgyblion yn cael eu heithrio o'r ysgol.
Mae nhw'n dweud hefyd bod angen monitro ardaloedd y toiledau yn gyson.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae iechyd a lles yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm newydd i Gymru, ac mae'r canllawiau'n darparu cyfleoedd i addysgu am e-sigar茅ts a'r dyfeisiau ar gyfer eu defnyddio."
Mae'r canllawiau newydd hefyd yn cynghori ysgolion i ehangu eu polis茂au ysmygu ac ymddygiad.
Yn 么l arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mae cymaint 芒 dau draean o ddisgyblion Blwyddyn 10, sy'n defnyddio f锚ps bob dydd, yn dangos arwyddion o ddibyniaeth.
Mae hi'n anghyfreithlon i werthu e-sigar茅ts i unrhyw un dan 18 oed, ond dydy hi ddim yn anghyfreithlon i blant eu defnyddio.
Tra bod tystiolaeth yn dangos bod e-sigar茅ts yn 95% llai niweidiol na 'smygu, mae yna gyngor i bobl na sydd wedi ysmygu yn y gorffennol i beidio 芒'u defnyddio.
Dywedodd Dr Julie Bishop, cyfarwyddwr gwella iechyd gyda ICC: "Mae ein gwaith gyda'r gr诺p amlasiantaeth ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau wedi tynnu sylw at heriau newydd sylweddol y mae ein lleoliadau addysg yn eu hwynebu wrth ymateb i'r defnydd o e-sigar茅ts ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.
"Rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau cynhwysfawr hyn yn gam cyntaf o ran cefnogi staff addysg i fynd i'r afael 芒'r broblem gynyddol hon."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Ni ddylai unrhyw un o dan 18 oed fod yn defnyddio e-sigar茅ts.
"Mae ysgolion yn dweud wrthym bod hyn yn broblem go iawn, boed hynny oherwydd pwysau gan gyfoedion, marchnata lliwgar wedi'i anelu at blant neu ddiffyg dealltwriaeth o'r risgiau posibl i iechyd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu disgyblion i ddeall effaith defnyddio e-sigar茅ts fel y gallant wneud y penderfyniadau cywir."