20mya: Aelodau o'r Senedd wedi derbyn negeseuon bygythiol

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Elin Jones bod staff wedi bod yn delio 芒 negeseuon sarhaus sydd wedi eu hanelu at Aelodau o'r Senedd

Mae gwleidyddion yn y Senedd wedi derbyn negeseuon bygythiol oherwydd eu safiad ar y newid i derfyn cyflymder 20mya, meddai'r Llywydd Elin Jones.

Dywedodd bod staff wedi bod yn delio 芒 negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, e-bost a hyd yn oed negeseuon ff么n sarhaus.

Anogodd aelodau o'r Senedd i sicrhau bod "trafodaeth gyhoeddus yng Nghymru yn bwyllog, yn urddasol ac yn barchus".

Daeth y terfyn cyflymder newydd mewn ardaloedd adeiledig i rym ddydd Llun diwethaf.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y newid i derfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig ei gyflwyno ar 17 Medi

"Dros nos rydw i wedi dod yn ymwybodol o sawl aelod, gan gynnwys fy hun, yn derbyn negeseuon sarhaus a bygythiol ar gyfryngau cymdeithasol, e-bost a ff么n oherwydd eu safiad ar y pwnc hwn," meddai wrth gyfarfod o Senedd Cymru.

"Er ei bod yn galonogol gweld diddordeb digynsail yn ein pwyllgor deisebau a'i waith, mae gennym ni oll ddyletswydd i sicrhau bod trafodaeth gyhoeddus yng Nghymru yn bwyllog, yn urddasol ac yn barchus.

"Mae hynny'n golygu gosod y naws ar gyfer sut rydym yn disgwyl i eraill fynegi eu barn, beth bynnag yw eu safiad ar y mater hwn neu unrhyw fater arall, a'n bod yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n diraddio nac yn tanseilio unrhyw unigolyn."

Cyfeiriodd Elin Jones at ffrae ddydd Mawrth lle cyhuddwyd Andrew RT Davies gan Mark Drakeford o beidio 芒 dweud y gwir dros y terfyn cyflymder.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Gwrthododd Mark Drakeford ildio i alwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig i ailystyried y terfyn cyflymder newydd o 20mya

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi honni'n gyson ei fod yn derfyn cyffredinol, i gyhuddiadau gan Lafur Cymru mai gwybodaeth anghywir yw hynny gan fod cynghorau wedi gosod eithriadau i'r terfyn newydd.

Ysgrifennodd Mr Davies at y Llywydd Elin Jones yn mynnu ymddiheuriad gan Mr Drakeford.

"Mae'n gywir i ddweud bod y cyfyngiad cyffredinol blaenorol o 30mya wedi ei ddisodli gan gyfyngiad cyffredinol o 20mya ac mae'n gamarweiniol i'r prif weinidog honni fel arall," meddai Mr Davies.

Dywedodd Ms Jones wrth y Senedd ei bod wedi ysgrifennu at y ddau ohonynt: "Rwyf wedi derbyn sylwadau gan un aelod am ymddygiad aelod arall yn ystod trafodion ddoe ac wedi gohebu 芒'r ddau unigolyn yn unol 芒 hynny.

"Fe wnaf gloi drwy annog aelodau i gadw hyn oll mewn cof wrth fynegi eu barn yn y siambr ac yn ei dro ddylanwadu ar sut mae eraill yn ymddwyn y tu allan i'r siambr hon."

Ceryddodd Elin Jones y prif weinidog yn ei llythyr ato gan ddweud ei fod wedi mynd y tu hwnt i "gyfnewid barn arferol".

Gwrthododd Llywodraeth Cymru wneud sylw.