Ifan Huw Dafydd: 'Cerdded y camino yn brofiad anhygoel'

Ffynhonnell y llun, Ifan Huw Dafydd

Disgrifiad o'r llun, Ers mis Awst mae Ifan Huw Dafydd wedi bod yn cerdded y camino i Santiago i godi arian i ddwy elusen

"Bu cerdded y Camino Frances i Santiago de Compostela yn Sbaen yn brofiad anhygoel," medd yr actor Ifan Huw Dafydd a gwblhaodd y daith 764 km ddiwedd yr wythnos.

"Yr hyn sy'n braf hefyd yw fy mod wedi gallu codi arian - dros £10,000 - i ddwy elusen sy'n agos iawn i fy nghalon i sef Sefydliad Jac Lewis yn Rhydaman a Thŷ Hafan."

Mae elusen Jac Lewis yn cefnogi lles meddwl pobl ifanc ac yn cynnig cymorth i deuluoedd wedi colled.

Wrth gael ei holi ar Bwrw Golwg a oedd hi braidd yn rhyfedd i anffyddiwr fynd ar bererindod dywedodd Mr Dafydd: "Na doeddwn i ddim yn chwilio am y ffordd i Damascus a 'nes i'm ffindio hi chwaith ond mi ges i brofiadau arbennig."

'Dod i 'nabod fy nhad'

Ond yn llawn dagrau dywedodd bod y cyfan wedi bod yn brofiad emosiynol iawn.

Ffynhonnell y llun, Ifan Huw Dafydd

Disgrifiad o'r llun, Yr olygfa yn ystod diwrnod cyntaf Ifan Huw Dafydd ar y Meseta - mae'n cymryd 10 diwrnod i gerdded rhan hon o'r daith

"Ar ddechrau'r daith uwchben tref Zubiri gyda'r dyffrynnoedd o danoch chi o'n i'n ffindio'n hunan yn siarad lot â'n nhad fel 'se fe'n cerdded 'da fi ac o'n i'n teimlo fe 'se fi wedi dod i'w adnabod e llawer gwell - a bo' fi wedi cael adnabyddiaeth na ches i o'r blaen.

"Pan chi'n cerdded ar y camino - chi'n cerdded lot o amser ar ben eich hunan ac mae'n brofiad gwahanol iawn."

Ffynhonnell y llun, Ifan Huw Dafydd

Disgrifiad o'r llun, Ac oedd mi oedd hi'n boeth ac yn daith flinedig ar adegau!

Dyw cerdded y camino ddim yn hawdd ac mae nifer yn cerdded rhan o'r daith yn unig.

Un o'r camau anoddaf yw dechrau'r daith pan mae'n rhaid cerdded ar draws mynyddoedd y Pyrenees i dre fynachoglaidd Roncesvalles a doedd ryfedd i'r actor, 69, drydar nawr ac yn y man bod y llwybr yn heriol.

Ffynhonnell y llun, Ifan Huw Dafydd

Disgrifiad o'r llun, Yr eglwys a oedd oddeutu hanner ffordd y daith

Yn gwmni iddo gydol y daith roedd cerddoriaeth artistiaid o Gymru ac hefyd, ambell bererin arall.

"Ie 'sa i erioed wedi bod ar bererindod o'r blaen. O'dd 'na bobl 'nes i gwrdd ar y noswaith gynta 'na yn Albergue D'Ornisson ynghanol Awst a fi dal yn ffrindiau 'da nhw. Bydda' i'n mynd lan i'r sgwâr i Santiago i gwrdd â nhw nes mla'n.

"Ni ddim wedi cerdded gyda'n gilydd bob rhan o'r ffordd ond bob tro dwi'n cwrdd gyda nhw mae e fel cwrdd â hen ffrind er mai dim ond ers dros fis chi'n 'nabod nhw - ond mae'n teimlo fel 30 mlynedd.

"Mae'r llwybr wedi bod yn anodd ar adegau - ond â ninnau wedi cyrraedd diwedd y daith mi fydd ffarwelio gyda'r ffrindiau yn brofiad chwerw felys."

Diolch am gyfraniadau

Mae llwybr y camino yn enwog am ei olygfeydd ond hefyd ei eglwysi cain.

Ffynhonnell y llun, Ifan Huw Dafydd

Disgrifiad o'r llun, Fe gerddodd Ifan Huw Dafydd o Triacastela i Sarria i gyfeiliant cerddoriaeth Elin Fflur

"Dwi wedi gweld adeiladau anhygoel ar hyd y daith - cadeirlan Pamplona, cadeirlan Santo Domingo de la Calzada a'r un yn Burgos. Mae 'na lawer o gyfoeth yn yr adeiladau 'ma a chi'n meddwl o lle mae'r cyfoeth wedi dod. Y tebyg yw bod e wedi dod o geiniogau prin pobl oedd yn gweithio'n galed ar y tir - ma' hynny wedi gadael blas od.

"Fyddai'r campweithiau celf ddim ar gael oni bai am yr eglwysi - yn sicr mae arnon ni ddyled i'r eglwysi crand 'ma ond ar hyd y daith ro'n i'n teimlo bod lot o bobl wedi cael bywyd caled er mwyn 'neud hyn."

Disgrifiad o'r llun, Yr eglwys yn Santiago ar ddiwedd y daith

Dywed hefyd bod y camino yn rhy fasnachol ar adegau wrth i ddegau darfu ar y bererindod a dyw talu am weld taenu arogldarth yn y gadeirlan yn Santiago "ddim yn iawn".

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Wrth gyrraedd ddydd Iau wedi dros fis o gerdded dywed bod y cyfan yn rhyddhad mawr.

"Dwi'm yn siŵr ydi'r pyst cerrig 'na oedd yn nodi'r cilomedrau yn gweud y gwir - yn aml mae'r daith lot yn hwy na be' maen nhw'n nodi ond chi'n anghofio am hynny wedi i chi gyrraedd sgwâr anhygoel Santiago."

Yn un o'i negeseuon olaf ar ddiwedd y daith dywed mai un o'r pethau sydd ar ei feddwl yn bennaf yw haelioni pobl i'r ddwy elusen ac mae'n diolch am bob cyfraniad.

Mae'r cyfweliad i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 1230 ddydd Sul ac yna ar ´óÏó´«Ã½ Sounds.