大象传媒

Cymru'n rhoi cweir o 4-0 i Gibraltar ar y Cae Ras

  • Cyhoeddwyd
Ben DaviesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y capten Ben Davies sgoriodd y g么l gyntaf ar 么l 22 munud

Fe roddodd Cymru gweir i Gibraltar yn Wrecsam nos Fercher, wrth i d卯m dynion Cymru chwarae yn y gogledd am y tro cyntaf ers 2019.

Roedd torf o ychydig dros 10,000 ar y Cae Ras, gyda'r ddau d卯m yn cwrdd am y tro cyntaf ar y lefel yma.

Gyda Gibraltar yn 198ain yn netholion FIFA, o'i gymharu 芒 Chymru sy'n 33ain, y disgwyl oedd i Gymru sicrhau buddugoliaeth hawdd, a dyna oedd yr achos.

Roedd t卯m Cymru'n gymysgedd o enwau profiadol a rhai newydd, gyda Charlie Savage, Regan Poole, Joe Low a Liam Cullen oll yn ennill eu capiau cyntaf fel rhan o'r t卯m ddechreuodd y g锚m.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sgoriodd Nathan Broadhead ei ail g么l ryngwladol yn yr hanner cyntaf

Aeth Cymru ar y blaen wedi 22 munud, wrth i'r capten Ben Davies benio i'r rhwyd o ychydig lathenni'n unig o gic gornel Nathan Broadhead.

Dyblwyd y fantais ychydig funudau'n ddiweddarach, gyda Kieffer Moore yn penio croesiad Savage heibio i'r golwr Dayle Coleing.

Roedd hi'n 3-0 ar 么l 35 munud, wrth i Broadhead ergydio i gornel ucha'r rhwyd yn dilyn gwaith da ganddo yn y cwrt cosbi.

Aeth Cymru ymhellach ar y blaen ar drothwy hanner amser, gyda Moore yn sgorio gyda pheniad arall - y tro hwn o groesiad Dan James.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kieffer Moore yn rhwydo ei ail g么l o'r g锚m ar ddiwedd yr hanner cyntaf

Roedd llu o newidiadau ar gyfer yr ail hanner, ac fe gollodd Cymru eu sbarc o'r hanner cyntaf hefyd.

Tarodd Dan James y postyn gydag ychydig dros 10 munud yn weddill, ond doedd dim rhagor o goliau i ddod i'r un t卯m.

Bydd Cymru nawr yn troi eu golygon at Gaerdydd, ble byddan nhw'n croesawu Croatia mewn g锚m ragbrofol allweddol nos Sul wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen.

T卯m gwahanol iawn fydd yn chwarae bryd hynny, ond mae absenoldebau oherwydd anafiadau hefyd, gan gynnwys dau chwaraewr allweddol yn Brennan Johnson a'r capten Aaron Ramsey.