Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pobl yn cael eu hatal rhag siarad Cymraeg - comisiynydd
Mae angen i sefydliadau ar draws Cymru nid yn unig i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond i'w hyrwyddo hefyd, yn 么l Comisiynydd y Gymraeg.
Yn ei hadroddiad sicrwydd cyntaf ers cychwyn ei swydd fel comisiynydd, dywedodd Efa Gruffudd Jones ei bod yn bryderus bod "canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn cael eu hatal rhag siarad yr iaith yn eu bywydau bob dydd".
Mae adroddiad 'Codi'r Bar' yn rhoi darlun o'r ffordd y mae sefydliadau yn meddwl am y Gymraeg wrth lunio polis茂au ac wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn y Gymraeg.
Dywed y comisiynydd bod lefelau cydymffurfiaeth yn gyffredinol wedi gwella - yn enwedig ymysg cyrff sydd wedi dod o dan Safonau'r Gymraeg ers amser ond bod angen mynd i'r afael 芒'r her o greu awyrgylch lle gellir defnyddio'r Gymraeg yn naturiol bob dydd.
Mae hyn yn golygu gwella'r gwasanaethau a gaiff eu cynnig ar lafar i bobl, boed hynny dros y ff么n neu wyneb yn wyneb, meddai.
'Angen mwy o bwyslais ar y Gymraeg fel sg矛l'
Yn 么l Efa Gruffudd Jones, mae'r gweithle yn allweddol o safbwynt yr iaith.
"Mae twf mewn addysg Gymraeg yn hanfodol ond mae angen sicrhau hefyd fod cyfleoedd i'n pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn y byd gwaith wedi hynny," meddai.
"Mae'n braf gweld fod gwasanaethau ysgrifenedig Cymraeg ar gael yn helaeth ond prin yw'r cynnydd yn y gwasanaethau llafar sydd ar gael sef yr hyn y mae pobl yn ei ddweud y maent ei eisiau yn fwy na dim.
"Rwy'n cydnabod fod recriwtio er mwyn cyflenwi'r gwasanaethau hyn yn medru bod yn heriol ond mae angen rhoi mwy o bwys ar y Gymraeg fel sg矛l ac rwy'n annog sefydliadau i greu strategaethau cynllunio gweithlu dwyieithog."
Ymysg y canfyddiadau eraill o'r adroddiad mae:
- 95% yn derbyn cyfarchiad yn y Gymraeg wrth wneud galwad ff么n i sefydliad cyhoeddus;
- 90% o negeseuon Twitter a Facebook sefydliadau cyhoeddus ar gael yn Gymraeg;
- Y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg mewn 33% o'r tudalennau w锚 a arolygwyd dros y flwyddyn;
- 72% yn cytuno bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;
- Bron i 75% o siaradwyr Cymraeg yn gweld fod cyfle iddynt ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Negyddiaeth at y Gymraeg yn niweidiol
Un elfen bryderus a ddaeth i'r amlwg, medd y comisiynydd, oedd fod canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg wedi cael profiad o rywun arall yn eu hatal rhag siarad yr iaith yn eu bywydau bob dydd.
Nododd 18% eu bod wedi profi hyn dros y 12 mis diwethaf ond roedd hynny yn cynyddu i 29% ymhlith y rhai, rhwng 16 a 34 oed, a holwyd.
Mae hon yn sefyllfa hollol annerbyniol meddai Efa Gruffudd Jones.
"Mae'r math hwn o negyddiaeth tuag yr iaith Gymraeg, heb os, yn effeithio ar hyder siaradwyr Cymraeg ac yn si诺r o gael effaith ar lefelau defnydd o'r Gymraeg."
Mae'r comisiynydd yn credu fod sefydliadau yn awyddus "i wella yn barhaus".
"Ers cychwyn yn y swydd hon ddechrau'r flwyddyn rwyf wedi cael y cyfle i gyfarfod a sgwrsio gyda nifer fawr o'n rhanddeiliaid ac mae'r agwedd yn gyffredinol yn gadarnhaol tuag at y Gymraeg.
"Hoffwn weld pob sefydliad yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau fod egwyddorion Mesur y Gymraeg wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn eu sefydliadau a'u bod hefyd yn gosod arweiniad sy'n croesawu'r defnydd o'r Gymraeg.
"Byddaf yn parhau i fonitro ac yn ymyrryd lle bo angen gan gynnig cymorth ac arweiniad er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn ganolog i'n gwasanaethau cyhoeddus," ychwanegodd.
'Mae 'na awydd mawr i ddysgu'r iaith'
Wrth ymateb i gynnwys yr adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol - sy'n darparu nifer o gyrsiau wedi eu teilwra ar gyfer y gweithle - bod y galw am eu gwasanaeth yn fwy nag erioed.
Dywedodd Dona Lewis wrth raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru: "Ma' cynllun Cymraeg gwaith y ganolfan yn cynnig ystod eang o hyfforddiant, rhywbeth sydd gobeithio, yn gallu cael ei dderbyn gan weithwyr dim ots pa fath o waith ma' nhw'n ei wneud.
"'Da ni'n cynnig cyrsiau dwys, cyrsiau codi hyder a chyrsiau preswyl - ac yn aml mae'r hyfforddiant wedi ei deilwra ar gyfer sectorau penodol.
"'Da ni wedi gweld y cynllun yn mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2017 - 'da ni wedi darparu gwasanaethau i tua 1,500 o gyflogwyr, cyflogwyr sydd yn aml angen cyd-ymffurfio a'r safonau, ond nid dim ond hynny yn angenrheidiol.
"Mae 'na awydd mawr i ddysgu'r iaith. 'Da ni'n trafod lot efo nifer fawr o gyflogwyr - am y fath o gymorth maen nhw ei angen, o ran pa fath o hyfforddiant sy'n addas, pa fath o hyfforddiant sy'n bosib iddyn nhw ei gynnal, ond yn sicr 'da ni di gweld y galw yn cynyddu dros y blynyddoedd," meddai Ms Lewis.
"Mae hyder yn rhan fawr o'n harlwy ni yma yn y ganolfan. Dydi dysgu iaith ddim yn digwydd ar ei ben ei hun - mae'n rhaid gwneud hynny wrth feddwl am ei defnyddio hi a chodi hyder i neud hynny.
"Mae rhan fawr o'r hyn 'da ni'n ei neud efo dysgwyr yn ymwneud a defnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw, a gwneud hynny yn gyfforddus a hyderus.
"Mae'r galw wedi cynyddu, ag ymateb i'r galw ydi'r her fawr i ni... 'da ni'n ceisio gwneud hynny mewn ffordd arloesol a chreadigol".