Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pum munud gyda... Priya Hall
Mae Priya Hall yn ddigrifwr sydd wedi ymddangos ar Comedy Central, 大象传媒 One, 大象传媒 Three, S4C, Radio Wales a Radio Cymru.
Roedd ganddi sioe o'r enw Grandmother's Daughter yng ng诺yl y Fringe yng Nghaeredin eleni. Yn ogystal 芒'i gwaith stand yp mae hi hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y teledu ac yn gyfrifol am y rhaglen Beena and Amrit ar 大象传媒2 Wales ac oedd yn serennu Meera Syal a Priya ei hun.
Mae Priya yn rhan o gast Rhinoseros, addasiad Cymraeg o ddrama abswrd Eug猫ne Ionesco gan yr awdur Manon Steffan Ros, sy'n agor yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ar 24 Hydref.
Bu Cymru Fyw'n holi Priya am ei gwaith a'i bywyd:
Fyddi di'n ymddangos yn Rhinoseros, drama gan Eug猫ne Ionesco wedi ei addasu i'r Gymraeg gan Manon Steffan Ros. Dyma fydd y tro cyntaf i ti berfformio ar lwyfan yn y Gymraeg. Sut wyt ti'n teimlo am hynny ac am y sioe yn gyffredinol?
Dwi wedi wir mwynhau gweithio ar Rhinoseros. Mae mor braf cael y cyfle i weithio efo'r cwmni anhygoel 'ma a dwi wir yn meddwl bod vision Steffan Donnelly o'r sioe 'ma mor ddiddorol a captivating. Mae'r hiwmor a nuance mae Manon wedi plethu mewn yn ei addasiad mor impressive hefyd so mae wedi bod yn bleser enfawr i taflu fy hunain mewn i'r byd 'na.
Er mod i wedi neud lot o stand yp yn Gymraeg dyma fydd y tro cynta' fi fi wneud theatr (mewn unrhyw iaith) felly mae'n brofiad newydd i fi. Beth dwi wedi ffeindio yw bod fi wir yn caru gweithio efo'r t卯m anhygoel 'ma a mae'n fraint enfawr i allu rhannu'r llwyfan efo cast o actorion o'r fath lefel o brofiad a thalent.
Fues di'n perfformio yng ng诺yl Fringe yng Nghaeredin am y tro cyntaf eleni. Sut brofiad oedd hynny a sut ymateb ges di?
Roedd y Fringe mor hwyl a defnyddiol fel perfformiwr. Does dim cyfle arall fel hynny i 'neud sioe awr o hyd bob dydd am fis cyfan felly roedd e mor ddiddorol i weld sut wnaeth fy sioe esblygu a thyfu dros y mis. Ces i ymateb lyfli - y peth gorau oedd cwrdd ag aelodau o'r gynulleidfa ar 么l (perfformio) a chlywed bod nhw 'di cysylltu 'da'r sioe.
Rwyt ti'n son llawer am dy deulu yn dy sioe Grandmother's Daughter - pa mor bwysig yw dy deulu i ti?
Mae teulu yn hynod o bwysig i fi a dwi'n ffodus iawn bod teulu fi hefyd yn llawn pobl rili rili funny.
Ti'n aml yn s么n am dy dreftadaeth Indiaidd yn dy sioeau standyp. Sut mae dy deulu wedi ymateb i ti'n defnyddio dy gefndir ar gyfer deunydd comedi?
Dwi'n meddwl bod fy nheulu yn hapus fy mod i'n siarad am fy mhrofiad o gael hunaniaeth gymysg. Mae'n braf i weld eich bodolaeth chi wedi adlewyrchu n么l atoch chi - ac fel person o liw dydyn ni heb weld lot iawn o'n hunain yn y wasg erbyn hyn so maen nhw'n hoffi gwybod bod pobl o gefndir Indiaidd yn cysylltu 芒 deunydd fi.
Rwyt ti wedi gwneud llawer o waith gyda'r Queer Emporium yng Nghaerdydd sy'n dod a diwylliant Cymreig i'r gymuned LHDTC+ mewn digwyddiadau fel Chwarae'r Chwedlau. Pa mor bwysig yw cael gofod lle mae diwylliant Cymreig a chwiyr yn gallu bodoli'n naturiol yn yr un lle? Pa mor bwysig fyddai rhywbeth fel hyn wedi bod i ti yn tyfu fyny?
Mae'n hanfodol cael llefydd fel The Queer Emporium yng Nghymru - maen nhw'n rhoi gofod a chymorth i'r gymuned cwiar a thrwy hynny rydyn ni'n gweld cynydd enfawr yn faint o berfformwyr cwiar sy'n gweithio yng Nghymru. Hefyd mae'n rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ddod at ei gilydd mewn lle saff i fwynhau pethau fel comedi; sydd wedi bod, erbyn hyn, yn anodd i rai pobl tu fewn y gymuned cwiar i fwynhau heb bryderu eu bod nhw yn mynd i benni lan fel butt of the joke.
Mae dy bartner di, Leila Navabi, hefyd yn gomed茂wr prysur sy'n teithio ledled y wlad yn perfformio. Ydych chi'n cael llawer o gyfleoedd i berfformio gyda'ch gilydd? Ydy hynny'n rhywbeth 'dach chi'n ei fwynhau?
Rydyn ni'n caru 'neud gigs efo'n gilydd a lle mae'n bosib rydyn ni'n cynllunio ein dyddiaduron fel bod ni'n o leiaf yn gigo yn yr un ddinas ar yr un pryd. Heb neud hynny bydden ni byth yn gweld ein gilydd! Pan mae'r dyddiaduron yn mynd yn rogue ac mae un yn Portsmouth a'r llall ym Manceinion,mae Facetime yn achub y dydd.
Beth yw dy ddiddordebau pan ti ddim yn ysgrifennu?
Pan dwi ddim yn sgwennu dwi'n mwynhau edrych ar 么l fy nghathod, mynd i Ikea i edrych ar y storage solutions, a gwylio documentaries am fundamentalist Christians yn America gyda fy ffrindiau tra bod nhw'n gofyn, tro ar 么l tro, i wylio literally unrhyw beth arall.
Beth nesaf ar 么l Rhinoseros?
Ar 么l Rhinoseros, dwi'n mynd n么l i stand yp - dwi'n cymryd fy sioe o Gaeredin 'Grandmother's Daughter', i'r Soho Theatre o 29-31 Ionawr 2024 felly dwi angen 'neud yn si诺r bod fi'n cofio'r sioe.