Codi arian i brynu trysorau Oes Efydd Llangeitho

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y trysorau o'r Oes Efydd eu canfod ar dir amaethyddol
  • Awdur, Sara Down-Roberts
  • Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw

"Roedd canfod trysorau o'r Oes Efydd ar dir yn Llangeitho yn gwbl anhygoel. I ddweud y gwir mae'n ddarganfyddiad mewn oes," medd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion.

Cafodd y trysorau eu canfod yn 2020 gan ddau oedd yn defnyddio datgelyddion metel ar dir amaethyddol yn y pentref sydd ryw bedair milltir o Dregaron.

Bellach mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion yn ceisio codi 拢4,200 er mwyn sicrhau bod y darnau prin o'r Oes Efydd yn aros yn y sir.

Mae'r canfyddiad yn cynnwys dros 50 eitem - yn eu plith arfau efydd ac addurniadau corff.

"Mae dod o hyd i gelc fel hyn yn eithriadol o brin yng Nghymru heb s么n am Geredigion," ychwanega Ms Canham wrth siarad 芒 Cymru Fyw.

"Cafwyd hyd i ddwy lot yn eitha agos i'w gilydd - ryw 10 metr oedd rhyngddyn nhw. Roedd yna bennau bwyeill, blaenau gwaywffyn, breichledi a phob math o addurniadau corff.

"Wrth gwrs dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r hanes ond mae'r gwrthrychau yn rhoi cyfle pwysig i ni ddysgu mwy am ddulliau a thraddodiadau gwaith metel yng Ngheredigion tua 3,000 o flynyddoedd yn 么l."

'Pwysig eu dychwelyd i Gymru'

Yn 么l arbenigwyr mae'r ffaith i'r trysorau gael eu canfod gyda'i gilydd yn awgrymu bod cynulliad sylweddol o bobl wedi dewis cyflwyno eu gwrthrychau efydd gwerthfawr i'r ddaear - gweithred a oedd yn 么l pob tebyg yn gysylltiedig 芒'u credoau crefyddol.

"Neu efallai bod un llwyth yn bygwth llwyth arall - a'u bod wedi claddu eu trysorau yn y ddaear ond yr hyn sy'n bwysig nawr yw bod ni'n eu cadw nhw yma yng Ngheredigion," medd Ms Canham.

Ffynhonnell y llun, Sarah Evans

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n newyddion arbennig o dda bod y fath drysor wedi'i ganfod yn ein pentref ni," medd Daniel Thomas

Wedi i weddillion fel hyn gael eu canfod mae angen i'r sawl sy'n canfod y trysorau roi gwybod i'r crwner a'r Cynllun Henebion Cludadwy (PAS).

Mae miloedd o wrthrychau'n cael eu darganfod gan bobl 芒'u datgelyddion metel yng Nghymru bob blwyddyn ond dim ond 30-40 eitem sy'n cael eu hystyried yn drysor.

Yn yr achos yma fe ddywedodd y Crwner bod y gwrthrychau yn "drysor" yn unol 芒'r Ddeddf Trysor ac mae cyfle bellach i'w prynu.

Ar hyn o bryd mae nhw yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ond mae'n bwysig eu bod yn dychwelyd i Gymru ac i Geredigion yn benodol, medd Ms Canham.

'Llangeitho ar y map eto'

Dyw union leoliad lle cafwyd hyd i'r trysor ddim wedi'i ddatgelu ond mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, gyda chymorth ariannol gan Cadw, wedi ymchwilio ymhellach yn yr ardal lle cafwyd hyd i'r trysorau.

Ffynhonnell y llun, Daniel Thomas

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y trysorau eu canfod ar dir amaethyddol yn Llangeitho

"Mae'n newyddion arbennig o dda bod y fath drysor wedi'i ganfod yn ein pentref ni," medd Daniel Thomas, sydd wedi byw'n Llangeitho gydol oes.

"Ni'n ymwybodol o hanes y Rhufeiniaid yn yr ardal ond mae'n braf gwybod bod yna gysylltiad real iawn nawr rhwng yr ardal a'r Oes Efydd.

"Mae'r diwygiwr Methodistaidd, Daniel Rowland, wedi anfarwoli'r pentref a ni'n falch iawn bod Llangeitho ar y map unwaith eto.

"Mae'r darganfyddiad yn dod 芒 hanes yn fyw a phwy fuasai'n meddwl bod y rhain o dan ein traed?"

Ffynhonnell y llun, Daniel Thomas

Disgrifiad o'r llun, Y diwygiwr Methodistaidd sydd wedi rhoi Llangeitho ar y map yn gorffennol

Dywedodd Bronwen Morgan, Llywydd Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion: "Mae'r darganfyddiad unigryw a phrin hwn yn un cyffrous ac yn drysor yng ngwir ystyr y gair.

"Mae rhywun yn meddwl am y pentrefi yma yng ngefn gwlad Cymru yn fannau anghysbell ond yn amlwg roedden nhw'n llawn bwrlwm ar un adeg.

"I ni mae'r Oes Efydd wrth gwrs mor bell yn 么l ond mae canfyddiad fel hyn yn ffordd dda i gyflwyno hanes i blant yr ardal.

"Fel Cyfeillion yr Amgueddfa mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth posib i sicrhau ein bod ni a'r cenedlaethau sydd i ddod yn medru gweld a gwerthfawrogi ein treftadaeth ni yma yng Ngheredigion.

"Gofynnwn yn garedig felly am unrhyw gymorth ariannol posib i'n cynorthwyo i sicrhau bod gwrthrychau sydd wedi bod yng Ngheredigion ers 3,000 o flynyddoedd yn aros yma."