Llai yn talu'r premiwm ail gartrefi yng Ngwynedd

Disgrifiad o'r llun, Yn Abersoch y mae'r nifer uchaf o ail gartrefi drwy Wynedd

Mae Gwynedd wedi gweld gostyngiad yn nifer yr ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor sy'n talu'r premiwm treth cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf.

Datgelodd ymchwil y cyngor fod dros 500 yn llai o ail gartrefi yn y sir yn gymwys i dalu'r dreth ym mis Tachwedd 2023, o gymharu 芒 Thachwedd 2022.

Ers Ebrill 2023 mae'r awdurdod wedi bod yn codi premiwm o 150% ar dreth cyngor ail gartrefi.

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod yr arian sy'n cael ei godi o'r cynnydd yn mynd tuag at fynd i'r afael 芒 digartrefedd yn y sir, wedi i adroddiad amlygu fod gan yr awdurdod fwlch o 拢3m yn y maes hynny.

Ond er ei fod yn ymddangos bod nifer yr eiddo sy'n gymwys i dalu wedi gostwng, nid oedd "digon o dystiolaeth fod hyn oherwydd effaith y premiwm ei hun", meddai'r Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, wrth gyfarfod llawn o'r cyngor.

Yn Nhachwedd 2022 roedd 4,564 annedd yn talu'r premiwm, ond erbyn Tachwedd 2023 roedd y ffigwr wedi gostwng i 4,027.

Dywedodd pennaeth cyllid y cyngor, Dewi Owen, eu bod wedi gweld mwy o eiddo yn "pontio" o fod yn destun treth cyngor i fod yn unedau gwyliau hunan arlwyo.

Ychwanegodd eu bod "yn amlach na pheidio yn osgoi'r treth gan eu bod yn derbyn rhyddhad treth busnesau bach" pan gaiff ei newid.

'Oes rhywbeth arall yn digwydd?'

Penderfynwyd yn y cyfarfod i beidio 芒 gwneud unrhyw newidiadau i'r trefniadau'r presennol ac i gadw'r premiwm ar 150% ar gyfer ail gartrefi, a 100% ar gyfer tai gwag hirdymor.

Roedd hyn er i'r cyngor ystyried codi'r premiwm i 300% ar un cyfnod.

Disgrifiad o'r llun, Y Cynghorydd Ioan Thomas sy'n dal portffolio cyllid Cyngor Gwynedd

Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y cyngor yn ceisio canfod y rhesymau dros y gostyngiad yn niferoedd yr ail gartrefi.

Disgrifiodd Mr Owen hefyd sut yr oedd mwy o eiddo wedi symud yn 么l i'r system dreth cyngor yn 2023, o'i gymharu 芒 2022.

Roedd cynyddu'r trothwyon ar gyfer trosglwyddo i ardrethi busnes, a ddaeth i rym ar Ebrill 1, "yn sicr yn debygol o fod wedi cael effaith ar hyn," meddai.

Ond ychwanegodd: "Os yw eiddo gwyliau yn dod yn 么l i'r system treth cyngor, pam fod nifer yr ail gartrefi yn gostwng hefyd?

"A yw'r eiddo hyn yn cael eu gwerthu neu eu gosod fel prif gartrefi, yn unol 芒 bwriad Cyngor Gwynedd a pholisi Llywodraeth Cymru, neu a oes rhywbeth arall yn digwydd?

"Dyna mae'r ymchwil, sydd wedi adnabod patrymau gwahanol mewn gwahanol gyfnodau, yn ceisio ei sefydlu."

Disgrifiad o'r llun, Ers Ebrill 2023 mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn codi premiwm o 150% ar dreth cyngor ail gartrefi.

Cyn y pandemig roedd nifer yr ail gartrefi at ddibenion trethiant yn "gostwng yn raddol" mewn ardaloedd gyda chyfran uchel iawn a sylweddol iawn o ail gartrefi, ond yn cynyddu mewn ardaloedd gyda niferoedd is, ychwanegodd.

"Roedd mwyafrif y gostyngiadau yn yr ardaloedd poblogaidd yn ganlyniad uniongyrchol i drosglwyddo'r system treth busnes, megis newidiadau i lety gwyliau ac unedau hunanarlwyo, cyn pandemig," meddai.

'Dim tystiolaeth i gyfiawnhau newid y premiwm'

Erbyn y cyfnod o Fehefin i Dachwedd 2020 roedd y darlun eto wedi "newid yn sylweddol" gyda nifer yr ail gartrefi yn cynyddu.

Ond yn y cyfnod wedyn hyd at Tachwedd 2022 mi welodd swyddogion y patrwm blaenorol o nifer yr ail gartrefi yn gostwng.

Roedd gwaith parhaus, ychwanegodd, yn cael ei wneud i sicrhau bod newidiadau i statws eiddo yn cael eu hadrodd yn gywir i'r cyngor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Yr hyn sydd angen i ni ei wybod yw os yw newid defnydd yn gysylltiedig 芒 gwerthu tai ar yr un pryd, neu newid defnydd gan yr un perchnogion yn symud i mewn," ychwanegodd Mr Owen.

Nid yw'r data llawn ar gyfer 2023 ar gael eto, a daeth i'r casgliad: "Er bod patrwm yn dechrau ymddangos, ni allwn ddweud yn bendant os yw newidiadau yn uniongyrchol oherwydd y premiwm, mae'r gwaith yn parhau.

"O ran y penderfyniad, does dim tystiolaeth wrth law sy'n cyfiawnhau newid cyfradd premiwm y treth cyngor ar hyn o bryd."