大象传媒

Senedd fwy yn 'lleihau'r dewis sydd gan bleidleiswyr'

  • Cyhoeddwyd
Y Senedd a'r adeiladau o'i gwmpas fin nosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd cynyddu'r aelodaeth o 60 i 96 yn dod 芒'r Senedd yn debyg i Gynulliad Gogledd Iwerddon o ran nifer yr aelodau

Gallai cynlluniau ar gyfer mwy o wleidyddion yn Senedd Cymru leihau'r dewis sydd gan bleidleiswyr, yn 么l un o'i phwyllgorau trawsbleidiol.

Pan fydd y Senedd Cymru yn cael ei hehangu i 96 aelod yn yr etholiad nesaf yn 2026 fe fydd pleidleiswyr yn cael un bleidlais i gefnogi plaid, yn hytrach nag unigolion.

Dywedodd y pwyllgor y dylai papurau pleidleisio o leiaf gynnwys rhestr o enwau'r bobl y gellir eu hethol.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru trwy ddweud y byddai'n "ystyried yr adroddiad yn fanwl".

Byddai 16 o etholaethau yng Nghymru, gyda chwe aelod yr un.

Dywedodd David Rees AS, cadeirydd y pwyllgor biliau diwygio: "Rydym yn unedig yn ein pryderon am yr effaith y byddai'r system bleidleisio y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig yn ei chael ar allu pleidleiswyr i ddewis pwy sy'n eu cynrychioli.

"Mae cael y system etholiadol yn gywir yn sylfaenol i iechyd democratiaeth yng Nghymru, ac mae gennym amheuon sylweddol ynghylch a yw etholiadau rhestr gaeedig yn cynrychioli cam cadarnhaol ymlaen."

Enw uniaith Gymraeg?

Mae'r pwyllgor hefyd o'r farn "y dylid rhoi enw uniaith ar bob un o etholaethau'r Senedd (oni bai bod Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o'r farn bod rhesymau penodol pam y mae enwau dwyieithog yn briodol)", ac "mai yn Gymraeg yn unig y caiff enw etholaeth fod os rhoddir enw uniaith iddi".

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sy'n gyfrifol am bennu enwau etholaethau, gan gynnwys penderfynu a yw enw uniaith yn dderbyniol.

Mae Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones hefyd o'r farn y "byddai polisi cadarn o blaid enw uniaith - a'r rheini'n enwau Cymraeg - yn fodd o osgoi trafodaethau hirfaith am enwau ac yn fodd o hyrwyddo a phoblogeiddio'r defnydd o enwau Cymraeg yn unig fel sydd wedi dod yn arfer poblogaidd yn ddiweddar ymhlith ein parciau cenedlaethol".

"Buasai mabwysiadu enw Cymraeg yn unig yn arwydd grymus o statws y Gymraeg yng Nghymru."

Amlinellodd Cymdeithas yr Iaith safbwynt tebyg: "Yn unol 芒'n cred yn y Gymraeg fel priod iaith Cymru, rydym yn cefnogi'r angen i roi enwau uniaith Gymraeg ar etholaethau ac eisiau bod hynny'n cael ei weld fel y ffordd arferol o enwi etholaethau a bod y Gymraeg bob tro yn cael ei weld fel norm".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y bwriad i gael Senedd gydradd yn rhan o'r cynllun i gynyddu nifer yr aelodau o 60 i 96

Mae'r cynigion presennol ar gyfer rhestr gaeedig - a gynigiwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a chyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price - yn golygu mai dim ond rhwng ymgeiswyr penodol sy'n sefyll dros blaid wleidyddol, neu rhwng pleidiau ac ymgeiswyr annibynnol, y byddai pleidleiswyr yn gallu dewis.

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan nifer o arbenigwyr y byddai hyn yn lleihau'r dewis sydd ar gael i bleidleiswyr ac y byddai risg o anfodlonrwydd ymhlith pleidleiswyr.

Ni wnaeth y pwyllgor argymell system bleidleisio amgen - roedd yn gweld y manteision o gael rhestrau agored neu hyblyg, neu'r system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mae rhestrau agored neu hyblyg yn caniat谩u i bleidiau gwleidyddol flaenoriaethu eu hymgeiswyr, ond mae pleidleiswyr yn dal i allu dewis pa ymgeisydd penodol ar restr plaid y maent am ei gefnogi; tra bod y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn caniat谩u i bleidleiswyr restru ymgeiswyr yn y drefn o'u dewis.

Galw am refferendwm

Yn ymateb i farn y pwyllgor dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar: "Mae angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru, nid mwy o wleidyddion.

"Nid oes mandad cyhoeddus ar gyfer Senedd fwy nac ar gyfer y newidiadau arfaethedig i'n system bleidleisio felly ni ddylai unrhyw un o'r cynigion hyn gael eu gweithredu heb i'r cyhoedd ddweud eu dweud drwy refferendwm."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, sy'n cefnogi'r cynlluniau, ei bod yn "anochel y byddai angen cyfaddawd er mwyn gallu symud ymlaen gyda rhaglen feiddgar o newidiadau ar gyfer 2026".

Bydd y bil yn cael ei drafod yn y Senedd ar 30 Ionawr, lle bydd aelodau'n pleidleisio ynghylch a fydd yn symud ymlaen i'r cam craffu nesaf.

Ychwanegodd David Rees: "Os bydd y Senedd yn pleidleisio o blaid y bil yn y cyfnod cyntaf ar ddiwedd y mis, rydym yn annog pob plaid wleidyddol i gydweithio i sicrhau bod y system etholiadol yn y bil yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr ac yn gwneud aelodau'r dyfodol yn fwy atebol i'w hetholwyr."