大象传媒

Gwallau Horizon: Cyn-isbostfeistr wedi colli 'mwy na 拢75,000'

  • Cyhoeddwyd
Robin Ennion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r tro cyntaf i Robin Ennion drafod y trafferthion a gododd yn ystod ei gyfnod fel is-bostfeistr

Mae cyn is-bostfeistr wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am yr effaith a gafodd rhaglen gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon ar ei iechyd.

Robin Ennion oedd is-bostfeistr Llanymddyfri am bron i 18 mlynedd ar ddechrau'r ganrif.

Mae'n dweud iddo sybsideiddio gwallau Horizon drwy'r cyfnod, ac yn amcangyfrif iddo golli "mwy na 拢75,000" - ffigwr sydd yn cynnwys ei fuddsoddiad gwreiddiol.

Dywed Swyddfa'r Post na allan nhw roi sylw ar achosion unigol, a'u bod nhw'n annog dioddefwyr i wneud cais am iawndal.

Mewn cyfweliad 芒 rhaglen Newyddion S4C, mae gwraig Mr Ennion yn disgrifio effaith y straen ar ei g诺r.

"Roedd ei iechyd e'n methu yn eithaf difrifol... cafodd drawiad enfawr ar ei galon," meddai Anne Ennion.

"Roedd yn rhaid i ni dynnu mas o'r swyddfa bost neu bydde fe wedi bod yn ei arch.

"Allwch chi ddim rhoi pris ar fywyd rhywun."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe welodd Anne Ennion iechyd ei g诺r yn gwaethygu yn sgil straen y sefyllfa

Yn 么l Robin Ennion, cafodd wared ar ei holl gofnodion y llynedd.

Mae'n dweud iddo sybsideiddio gwallau cyfrifo'r system gyfrifiadurol yn gyson o'i boced ei hun.

Weithiau, ychydig o bunnoedd yn unig fyddai'r diffyg, ond ar adegau eraill, gallai'r colledion fod dipyn yn fwy.

'Gwedd茂o na fyddai'r archwilwyr yn cyrraedd'

"Yr unig adeg roedd pethau'n ddifrifol iawn oedd yn 2018. Ges i golled o 拢1,100," meddai Mr Ennion.

"Dreuliais i'r noson gyfan yn chwilio amdano fe a'n methu dod o hyd i'r gwall.

"Ddes i 芒'r cwbl at sero ac arwyddo'r cyfrifon, a gwedd茂o na fyddai'r archwilwyr yn cyrraedd y diwrnod canlynol."

Fe dalodd yr arian yn 么l dros y diwrnodau nesaf.

Dywedodd ei wraig iddo orfod ymddeol oherwydd y straen arno a'r effaith ar ei iechyd.

Yn 么l y cwpl, fe wnaeth Swyddfa'r Post y sefyllfa'n amhosib iddyn nhw werthu'r busnes.

Mae Robin Ennion yn dyfalu iddo golli ei fuddsoddiad gwreiddiol o ryw 拢60,000, ac o leiaf 拢15,000 arall yn "cywiro" gwallau Horizon.

Disgrifiad,

Mae 'Mr Bates vs The Post Office' ar ITV yn dilyn hanes yr is-bostfeistri

Gall is-bostfeistri yn sefyllfa Mr Ennion wneud cais am iawndal drwy gynllun yr Horizon Shortfall Scheme.

Ond dyw Mr Ennion ddim yn bwriadu gwneud cais am iawndal, gan ddweud ei fod yn ofni rhoi ei hun dan bwysau ac yn amheus ar 么l ei brofiadau blaenorol gyda Swyddfa'r Post.

Yn 么l yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, sy'n cynrychioli Mr Ennion yn San Steffan, mae angen symleiddio'r cynllun hwnnw, gan ddweud ei fod yn "gymhleth a thrafferthus".

Mewn datganiad, roedd Swyddfa'r Post yn annog y rhai sydd heb wneud cais am iawndal i wneud hynny.

"Mae cynigion o fwy na 拢120m wedi eu gwneud eisoes drwy'r cynllun, gyda chytundeb ar y rhan fwyaf o'r rheiny a thaliadau wedi eu gwneud," meddai llefarydd.

"Ry'n ni'n parhau gyda thaliadau interim mewn achosion eraill lle nad oes cytundeb eto."