大象传媒

Cwynion i Ofcom am bleidlais C芒n i Gymru 2024

  • Cyhoeddwyd
Trystan Ellis-Morris, Sara Davies ac Elin FflurFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur oedd yn cyflwyno ar y noson

Mae'r corff sy'n rheoleiddio darlledu, Ofcom, wedi cadarnhau eu bod wedi cael cwynion am raglen C芒n i Gymru nos Wener.

Mae gwylwyr wedi dweud eu bod yn "siomedig" ac yn "rhwystredig" ar 么l derbyn biliau ff么n uwch na'r arfer.

Dywedodd nifer o bobl nad oedden nhw'n credu bod eu galwadau i bleidleisio yn y gystadleuaeth wedi cysylltu'n iawn.

Bellach mae Cymru Fyw wedi gweld tystiolaeth o 拢120 o gostau i un person a geisiodd bleidleisio sawl tro, ond a oedd yn credu nad oedd y galwadau'n cysylltu.

Mae aelod o deulu un o'r cystadleuwyr hefyd wedi galw am roi ad-daliadau i bleidleiswyr.

Dywedodd S4C "eu bod yn gweithio gyda'r cwmni telebleidleisio i sicrhau ad-daliad i'r rhai gafodd eu heffeithio".

'Angen ad-daliad'

Nid oedd yr unigolyn sy'n wynebu bil o 拢120 eisiau cael ei enwi, ond wrth siarad ar ei ran dywedodd ffrind bod y mater wedi creu straen enfawr.

Mae aelod o deulu un o'r cystadleuwyr ar y noson hefyd wedi dweud ei bod wedi galw sawl tro i bleidleisio ond heb gysylltu, ond ei bod wedi gorfod talu am y galwadau.

Ychwanegodd ei bod yn ymwybodol o "nifer o rai eraill" yn yr un cwch.

Dywedodd bod "100%" angen ad-daliad i'r rhai a bleidleisiodd, ac os oedd "anhegwch" yn rhan o'r gystadleuaeth yna bod angen cyfaddef hynny.

Ffynhonnell y llun, S4C

Mewn datganiad dywedodd Ofcom: "Rydym wedi derbyn cwynion ac yn eu hasesu yn erbyn ein rheolau darlledu.

"Nid ydym eto wedi penderfynu a ddylid ymchwilio ai peidio."

Mae S4C wedi beio "problem dechnegol" gyda'r system bleidleisio ar y noson ac wedi ychwanegu eto ddydd Mawrth bod trafodaethau'n digwydd ynghylch ad-daliadau posib.

Sara Davies oedd yr enillydd eleni gyda'r g芒n Ti, gyda Steve Balsamo a Kirstie Roberts yn gorffen yn ail a Gwion Phillips ac Efa Rowlands yn drydydd.

Er mwyn pleidleisio roedd angen i bobl ffonio rhif oedd yn dechrau gyda 0900, ond mae'n ymddangos nad oedd rhai cyflenwyr yn caniat谩u defnyddio llinellau o'r fath.

Ffynhonnell y llun, Kylie Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Kylie Evans "nad oedd e'n deg i godi ffi ar bobl oedd wedi methu mynd trwyddo"

Ddydd Llun dywedodd sawl person eu bod wedi cael biliau uwch na'r disgwyl ar 么l ceisio pleidleisio ar y rhaglen.

Dywedodd Kylie Evans o Aberystwyth nad oedd ei galwadau'n cysylltu, ond ei bod wedi cael braw o weld "bod nhw wedi codi 85c o ffi am bob tro roeddwn wedi ceisio eto!"

"Cymaint ag o'n i'n hoffi'r g芒n bydden i ddim wedi pleidleisio 37 o weithiau a thalu 拢31.45!"

Dywedodd eraill bod "y llinell yn mynd yn farw bob tro... dim neges na s诺n 'prysur'", ac felly eu bod wedi ffonio sawl tro o ffonau symudol a ffonau t欧.

Roedd y sefyllfa'n "chwerthinllyd", yn 么l Awen Hamilton o Lanystumdwy.

'Problem dechnegol' ar y noson

Mae S4C wedi pwysleisio eto eu bod yn gweithio gyda'r cwmni telebleidleisio i sicrhau ad-daliad i'r rhai a gafodd eu heffeithio.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y sianel eu bod yn "ymddiheuro am y camgymeriad technegol yn ystod C芒n i Gymru".

Dywedodd llefarydd bod y system bleidleisio yn gweithio cyn i'r rhaglen ddechrau, a bod S4C "mewn trafodaethau gyda'r darparwr telebleidleisio i ymchwilio i'r posibilrwydd o ad-dalu y rhai sydd wedi eu heffeithio".

Ychwanegodd bod canlyniadau'r bleidlais "wedi eu gwirio", ond y byddai adolygiad o'r broses ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig