Strategaeth CBDC i 'drawsnewid' p锚l-droed llawr gwlad

Ffynhonnell y llun, Phil Hen

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r tro cyntaf i'r Gymdeithas B锚l-droed gyhoeddi strategaeth o'r fath

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi cyhoeddi strategaeth p锚l-droed llawr gwlad er mwyn tyfu'r g锚m a chreu cymuned b锚l-droed amrywiol a chynhwysol.

Mae 'Enhancing Lives Through Football' yn strategaeth chwe blynedd, sy'n cynnwys chwe nod fydd yn canolbwyntio ar bobl, chwaraewyr, clybiau, cynghreiriau, ymddygiad a chyfleusterau.

Mewn datganiad, dywedodd CBDC eu bod wedi ymgynghori 芒'r cyhoedd er mwyn deall yr heriau sy'n wynebu p锚l-droed llawr gwlad yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Ben Field, pennaeth p锚l-droed llawr gwlad CBDC, bod "gan b锚l-droed y gallu i wella bywydau ym mhob cymuned, a gallai'r strategaeth yma greu cymunedau cryfach, mwy iach yn ogystal 芒 gwella cysylltiadau".

Dyma'r tro cyntaf i'r Gymdeithas B锚l-droed gyhoeddi strategaeth sy'n canolbwyntio yn benodol ar ddatblygu p锚l-droed llawr gwlad.

Daw wythnosau yn unig ar 么l i CBDC gyhoeddi'r buddsoddiad unigol mwyaf erioed yng nghynghrair y Cymru Premier.

Yn 么l y Gymdeithas, maen nhw'n gobeithio cefnogi clybiau i sicrhau eu bod yn fwy cynaliadwy, yn fwy hyblyg ac yn canolbwyntio fwy ar y gymuned.

Maen nhw hefyd yn gobeithio gwella'r cyfleusterau ar lawr gwlad a sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad at y cyfleusterau hyn.

Amcanion y strategaeth:

  • Dyblu nifer y gwirfoddolwyr
  • Dyblu nifer yr hyfforddwyr sy'n ferched neu/ac yn dod o gefndir ethnig amrywiol
  • Cynnydd o 20% yn nifer y gemau llawr sydd 芒 dyfarnwr cymwysedig
  • Sicrhau fod gan bob clwb gynllun datblygu
  • Cynnydd o 50% yn nifer y merched rhwng 5-11 sy'n chwarae'r g锚m
  • Gostyngiad o 50% yn nifer y chwaraewyr rhwng 12-17% sy'n gadael y g锚m
  • Dyblu nifer yr oedolion sy'n chwarae am hwyl

Mae CBDC yn dweud yn y datganiad bod ganddyn nhw "gyfle a chyfrifoldeb" dros y chwe blynedd nesaf i ddatblygu, trawsnewid ac ysbrydoli p锚l-droed llawr gwlad.

Maen nhw'n gobeithio cyflawni'r nodau hynny drwy roi pwyslais ar farchnata, technoleg, partneriaethau cryf, defnydd o ddata a buddsoddiad newydd.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Mae p锚l-droed llawr gwlad yn rhoi sylfaen hollbwysig i chwaraewyr ifanc, yn 么l Aaron Ramsey

Dywedodd capten t卯m dynion Cymru, Aaron Ramsey, fod p锚l-droed llawr gwlad yn hollbwysig, a bod ei blant ei hun wrth eu boddau yn cymryd rhan.

"Maen nhw wir wrth eu boddau yn gwneud ffrindiau newydd, yn cael hwyl ac yn ffynnu," meddai.

"Dwi'n hoffi gwylio nhw'n chwarae a gwneud yr un peth ag yr oedd fy rhieni i yn ei wneud gyda fi. Mae dad fel ei fod o'n mynd drwy hynny eto gyda'i wyrion r诺an hefyd, ac mae hynny'n gr锚t.

"Dwi'n meddwl bod nifer o chwaraewyr proffesiynol, mewn unrhyw fath o chwaraeon, yn dechrau yn ifanc iawn ac maen nhw gyd mwy neu lai yn dechrau ar lefel llawr-gwlad.

"Mae'r fath yma o b锚l-droed yn rhoi sylfaen dda i chi, ac mae'n gyfle i chi ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn datblygu."

Clybiau 'cynaliadwy a chynhwysol'

Ychwanegodd Mr Field: "Ry'n ni'n gobeithio cyrraedd y nodau hyn drwy ddatblygu pobl, cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan a chreu clybiau p锚l-droed cynaliadwy a chynhwysol.

"Ry'n ni hefyd am weld cynghreiriau modern a hyblyg gydag ymddygiad gwell ar ac oddi ar y cae.

"Mae gan CBDC dim o saith o ddatblygwyr clybiau fydd yn gweithio o fewn ardaloedd y chwe chymdeithas ranbarthol. Prif gyfrifoldeb yr unigolion hyn fyd cefnogi clybiau gyda'u hanghenion oddi ar y cae - er enghraifft datblygu cyfleusterau, recriwtio gwirfoddolwyr neu gyflwyno gwelliannau o ran llywodraethiant."

Ychwanegodd bod modd i glybiau ddefnyddio adnoddau ar-lein hefyd fel rhan o gynllun 'Clwb Cymru' y gymdeithas.