Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwtogi nifer y cynghorau a chynghorwyr i arbed arian?
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd ´óÏó´«Ã½ Cymru
Bydd biliau treth y cyngor yn glanio mewn cartrefi ar draws Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, ar ôl i bob cyngor yng Nghymru drefnu eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Fe fydd rhai trethdalwyr yn wynebu cynnydd sylweddol iawn yn eu biliau eleni.
Yn ôl rhai, mae hi'n bryd cwtogi ar nifer y cynghorau a chynghorwyr er mwyn arbed arian.
Mae cyn-arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, John Davies, wedi honni "bod yna ormod o wleidyddion yn bendant yng Nghymru".
Mae'r corff sy'n cynrychioli cynghorau Cymru wedi rhoi'r bai am y cynnydd mewn biliau ar chwyddiant, a'r ffaith fod mwy o alw am wasanaethau.
Yn Sir Benfro mae'r cynnydd mwyaf yn nhreth y cyngor eleni - 12.5% - tra bod Ceredigion hefyd yn y ffigyrau dwbl - 11.1%.
Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jamie Adams, wedi galw am newidiadau pellgyrhaeddol i lywodraeth leol, ac mae'n dweud y gellid lleihau nifer y cynghorwyr yn Sir Benfro 50%.
Yn 2015 fe alwodd Leighton Andrews, y cyn-weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, am gwtogi nifer cynghorau Cymru o 22 i wyth neu naw, ond doedd yna ddim ad-drefnu yn y pen draw.
Cyn hynny, dywedodd Comisiwn Williams bod nifer o gynghorau Cymru yn rhy fach i weithredu yn effeithiol.
Does yna ddim ailstrwythuro wedi bod ym maes llywodraeth leol ers 1995, pan grëwyd y 22 o awdurdodau lleol sy'n parhau i fodoli hyd heddiw.
Gyda thrigolion Sir Benfro yn wynebu cynnydd o £167 mewn biliau blynyddol ar gyfer cartref yn Band D, mae'r Cynghorydd Jamie Adams yn dweud ei bod hi'n amser gwneud newidiadau mawr i lywodraeth leol.
"Mae'n rhaid cyflwyno newidiadau. Mae'r drefn bresennol yn anfforddiadwy ac yn anghynaladwy," meddai.
"Mae'n seiliedig ar hanes, a dyw hi ddim wedi cael ei hadnewyddu.
"Mae'r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu yn rhai hanesyddol, ac yn cael eu darparu mewn ffordd draddodiadol.
"Mae technoleg ac ymddygiad pobl wedi newid, ac mae hi'n bryd cael y drafodaeth 'na.
"Mae angen trafod y nifer o aelodau etholedig.
"Mae hi'n anodd, oherwydd dwi ddim yn siŵr bod ni'n mynd i lwyddo trosglwyddo'r neges i Lywodraeth Cymru sydd wedi pleidleisio dros gynyddu aelodaeth y Senedd.
"Rwy'n meddwl bod modd lleihau maint ein cyngor ni rhyw 50%."
Mae cyn-arweinydd arall ar Gyngor Sir Penfro, a chyn-arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, John Davies, wedi cefnogi ei sylwadau.
Mae'n dweud nad yw'r model presennol yn gynaliadwy ac mae hi'n amser edrych eto ar y strwythur sydd wedi bodoli ers 1995.
"Fe grëwyd y map o lywodraeth leol mor bell nôl â 1995, cyn dyfodiad Senedd Cymru," meddai.
"Ar hyn o bryd, o feddwl bod ni'n genedl o dair miliwn o bobl, mae yna ormod o wleidyddion yn bendant yng Nghymru.
"Dyw twrcwns ddim yn pleidleisio am y Nadolig yn aml, ond yn bendant faswn i yn dweud bod angen llai.
"'Da ni wedi cyrraedd y groesffordd boenus hynny lle 'da ni ddim yn medru tynnu dau ben llinyn ynghyd, ac mae yna gost i 1,200 o gynghorwyr sir a dinesig."
'Rhaid i newid ddigwydd'
Yn ôl y Cynghorydd Davies, mae angen ystyried creu strwythur rhanbarthol o bump neu chwe chyngor, ond mae "gwleidyddiaeth bleidiol" wedi rhwystro newidiadau angenrheidiol yn y gorffennol.
Mae'n dweud bod y wasgfa ar gynghorau nawr yn gorfodi newid.
"Mae'n amlwg, ni'n mynd o flwyddyn i flwyddyn mewn poendod ariannol a dyw hi ddim yn gwella ac mae'r disgwyliad a'r angen yn cynyddu," meddai.
"Mae'r gallu i gyflawni yn mynd yn llai, felly mae'n rhaid i newid ddigwydd."
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cydnabod bod cyllidebau yn cael eu gwasgu "fel erioed o'r blaen", ond mae'r corff yn dweud fod y problemau ariannol yn deillio o bwysau ychwanegol ar wasanaethau.
"Cynnydd aruthrol mewn galw a chwyddiant yw'r prif ffactorau sydd yn taro cyllidebau cynghorau," meddai llefarydd.
"Mae rheidrwydd i gwrdd ag anghenion trigolion, beth bynnag yw ôl traed yr awdurdod lleol."
'Deddfwriaeth mewn lle ar gydweithio'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn eu hwynebu a'r penderfyniadau anodd iawn y mae'n rhaid iddynt eu gwneud yn y cyfnod anodd hwn.
"Mae'r pwysau hyn yn cael ei deimlo yr un modd gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru ac maent yn dod o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU ar fuddsoddiadau.
"Mae awdurdodau lleol yn ystyried yn ofalus sut i gydbwyso gwasanaethau lleol hanfodol a'r gost i'w trigolion lleol, gan gynnwys trwy ddarparu gwasanaethau'n wahanol a chydweithio yn rhanbarthol.
"Mae gennym eisoes ddeddfwriaeth mewn lle i'w gwneud hi'n haws i gynghorau lleol weithio gyda'i gilydd neu wneud cais i ddod at ei gilydd."