'Cam yn nes' at gynllun ynni gwynt yn y m么r ger Port Talbot

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd David TC Davies ei fod yn "hyderus iawn" y bydd y cynllun ym Mhort Talbot yn derbyn yr arian

Mae cynllun i greu ynni gwynt yn y m么r ger Port Talbot gam yn nes at gael ei wireddu, yn 么l Llywodraeth y DU, sydd wedi cyhoeddi buddsoddiad posib o 拢80m yn y safle yn y de ddwyrain.

Y gred yw y bydd cyfanswm o 拢160m yn cael ei rannu rhwng y prosiect ger Port Talbot a chynllun tebyg yn Yr Alban.

Byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i helpu greu'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i godi a chynnal tyrbinau gwynt, yn ogystal 芒 sicrhau bod gwely'r m么r yn ddigon dwfn ar gyfer y strwythurau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, y byddai'n "syndod mawr iddo" os nad yw'r cynllun yn derbyn yr arian, ond bod rhywfaint o waith craffu i'w wneud cyn bod modd cadarnhau hynny.

Daw'r buddsoddiad wrth i Bort Talbot wynebu colli miloedd o swyddi yn y diwydiant dur.

Mae bron i 2,000 o swyddi yn cael eu torri ngweithfeydd dur Tata Steel UK yn y dref wrth i'r cwmni ail-strwythuro.

'Hyd at 16,000 o swyddi'

Ond yn 么l Mr TC Davies, pe bai'r cynllun yn cael ei wireddu, fe allai fod yn hwb mawr i'r ardal.

"'Da ni eisiau creu'r amodau i ganiat谩u i gwmn茂au ddod i mewn ac adeiladu'r tyrbinau yna, oherwydd y ffaith bod Port Talbot wedi cael y newyddion drwg o ran sefyllfa Tata, a ry' ni eisiau gwneud popeth posib i gefnogi'r ardal a'r gymuned," meddai ar Dros Frecwast.

"Os y'n ni'n gallu gwneud o'n iawn - mae'n bosib gallu gwneud hyd at 16,000 o swyddi. Ond dyw e ddim yn mynd i ddigwydd yn syth bydd yn cymryd blynyddoedd."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru ei fod yn gobeithio y byddai Aberdaugleddau yn Sir Benfro hefyd yn elwa yn uniongyrchol o'r cynllun.

Ffynhonnell y llun, BOWL

Disgrifiad o'r llun, Y nod fyddai gosod y tyrbinau yn y M么r Celtaidd, yn 么l David TC Davies, gyda'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r seilwaith ym Mhorthladd Port Talbot

Wrth gyfeirio at drafferthion economaidd diweddar ardal Port Talbot, dywedodd Mr TC Davies y byddai'r datblygiad yn "newyddion gwych" o ran swyddi a thwf yn y sector ynni.

"Mae Llywodraeth y DU eisoes yn buddsoddi i gefnogi ymdrech Tata Steel i symud at brosesau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur.

"Yn ogystal 芒 sicrhau bod miloedd o swyddi dur yn parhau yng Nghymru, ry'n ni hefyd eisiau creu mwy o gyfleodd i'r gweithwyr sydd yn mynd i gael eu heffeithio.

"Mae'r cynllun yma yn dangos ein bod ni am i dde Cymru fod yn rhan ganolog o'r diwydiannau hyn yn y dyfodol."

Bydd proses graffu yn digwydd nawr i sicrhau bod ceisiadau grant yn cyd-fynd 芒 rheolau Llywodraeth y DU - gyda disgwyl cadarnhad yn hwyrach yn y flwyddyn o ran pa brosiectau fydd yn derbyn yr arian.

Yn ogystal, dywedodd Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Andrew Bowie, bod Yst芒d y Goron yn bwrw ymlaen 芒 chynlluniau i gynnig prydlesau ar gyfer ardaloedd yn y M么r Celtaidd.

Byddai'r prydlesau hyn yn gallu arwain at gynhyrchu 4.5GW ychwanegol o ynni, tra bod cynlluniau i ehangu'r gallu cynhyrchu yna i 12GW yn ystod y 2030au.

Dywedodd Mr Bowie mewn datganiad: "Mae datblygu'r ardaloedd hyn yn y M么r Celtaidd ac yn nyfroedd Yr Alban yn rhoi'r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa gadarn i i gefnogi datblygiad cynhyrchu ynni gwynt yn y m么r ymhellach, yn ogystal 芒 helpu ni wireddu ein hamcan o gynhyrchu 5GW erbyn 2030."