大象传媒

Gwasanaeth Bws Bach y Wlad yn y gorllewin yn 'newyddion da'

  • Cyhoeddwyd
Eaart Jones, Ffion Thomas a Huw Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai o drigolion Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen at y gwasanaeth newydd

Bydd gwasanaeth bws newydd, Bws Bach y Wlad, yn cael ei lansio fis nesaf yng ngogledd Sir G芒r gan deithio hefyd i rannau o Geredigion.

Gobaith y cynllun yw gwella trafnidiaeth i bobl cefn gwlad gan sicrhau cyfle i deithio yn fforddiadwy.

Bydd y gwasanaeth yn llenwi bwlch a adawyd gan hen wasanaeth Bwcabws a ddaeth i ben fis Hydref yn sgil diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhai trigolion lleol yng Nghastellnewydd Emlyn wedi disgrifio'r cynllun fel "newyddion da" gan ddweud y bydd yn galluogi mwy o bobl i ddod mewn i'r dref.

Bydd y cynllun yn canolbwyntio i ddechrau ar ardaloedd Pencader, Llandysul, Llanybydder a Chastellnewydd Emlyn.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddaeth gwasanaeth Bwcabws i ben fis Hydref wedi 14 mlynedd

Fe ddaeth gwasanaeth bws cymunedol Bwcabws, a oedd yn gwasanaethu ardaloedd gwledig y de-orllewin, i ben fis Hydref.

Er i'r gwasanaeth gael ei ddisgrifio fel un "mor bwysig", doedd dim digon o gyllid gan y llywodraeth i barhau 芒'r cynllun.

Wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin gydnabod bod llai o drafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad, gobaith y cynllun yw llenwi'r bwlch gan sicrhau fod modd i bobl cefn gwlad deithio am bris fforddiadwy.

Mae'r cynllun hefyd yn gobeithio gallu gwella'r cysylltiad rhwng pobl cefn gwlad a gwasanaethau hanfodol fel iechyd, addysg, swyddi a siopau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Huw Davies, Dewi James a'i gwmni, yn dweud bod y fenter newydd yn "newyddion da"

Dywedodd un dyn busnes o'r ardal Aberteifi ei fod wedi gweld "llai o bobl" yn dod i'r ardal ers i wasanaeth y Bwcabws ddod i ben.

"Ma' nhw'n byw yn y wlad a s'dim ffordd iddyn nhw ddod mewn.

"Ma' pobl ffili ca'l ffordd i ddod mewn. Tua chwech neu saith cwsmer ydyn nhw, ond ro'n nhw'n dod mewn bob wythnos mae e'n rhy ddrud i gael tacsi."

Dywedodd fod y gwasanaeth yma yn "newyddion da" gan ddweud y gall "cwsmeriaid ddod n么l mewn wedyn yn lle talu am dacsi".

Dywedodd Ffion Thomas sy'n gweithio mewn siop ddillad gerllaw bod y fenter newydd yn "syniad da i helpu'r bobl sydd ffili dreifio i ddod mewn i'r dre" gan ychwanegu y bydd yn "rhoi hwb i'r dre".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ffion Thomas sy'n gweithio yn siop ddillad Edena J fod y cynllun newydd yn "syniad da"

Roedd Ewart Jones yn "grac" gyda'r penderfyniad i ddod 芒 gwasanaeth y Bwcabws i ben ac yntau yn dibynnu ar y gwasanaeth yn aml.

Dywedodd: "Fi'n dependo ar y main service bus nawr... Fi still yn gweld eisiau Bwcabws".

Aeth ymlaen i ddweud y byddai'n sicr o ddefnyddio'r gwasanaeth newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ewart Jones y byddai'n sicr o ddefnyddio'r gwasanaeth bws newydd

Mae'r cynllun wedi ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a bydd y cynllun peilot yn para naw mis.

Bydd y prosiect yn cydweithio 芒'r darparwyr trafnidiaeth cymunedol, Dolen Teifi a Green Dragon.

Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, fod y gwasanaeth yn "gam hanfodol tuag at fynd i'r afael ag anghenion trafnidiaeth ein cymunedau gwledig".

Fe ychwanegodd fod y gwasanaeth yn "cyd-fynd 芒'n hymrwymiad i ddarparu opsiynau trafnidiaeth dibynadwy a chyfleus".

Mae'r prosiect yn gobeithio ehangu ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan ymgynghorwyr ' - un arall o brosiectau Cyngor Sir Caerfyrddin.