Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Efailwen: Agor a gohirio cwest i farwolaeth Ll欧r Davies
Cafodd cwest ei agor i farwolaeth bachgen 16 oed a fu farw mewn digwyddiad mewn chwarel yn Sir Benfro.
Mewn gwrandawiad yn Neuadd y Dref Llanelli, dywedodd Swyddog y Crwner dros Sir Benfro, Carrie Sheridan, fod yr heddlu wedi cael eu galw i chwarel Gilfach ger Efailwen am 13:23 ar ddydd Mawrth, 12 Mawrth yn dilyn adroddiadau o "ddigwyddiad yn ymwneud 芒 thryc".
Ar y diwrnod, dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod tryc wedi ei ganfod mewn afon fas, tra bod unigolyn wedi ei ddarganfod mewn lleoliad arall.
Y bachgen a gafodd ei ladd yn y digwyddiad oedd Tomos Ll欧r Davies.
Er gwaethaf "ymdrechion gorau" y gwasanaethau brys, fe gadarnhaodd Dr Christopher Marsh o wasanaeth yr Ambiwlans Awyr am 14:39 ei fod wedi marw.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ond nid yw'r canlyniadau wedi dod i law hyd yma.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwiliad llawn i'r digwyddiad.
Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad sydd heb ei gadarnhau.