´óÏó´«Ã½

Crynodeb

  • Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd yn cael ei hadeiladu

  • Bu'r ffordd liniaru ger twnneli Bryn-glas yn destun trafod ers 1992

  • Byddai'r cynllun wedi costio oddeutu £1.4bn

  • Mae amgylcheddwyr wedi gwrthwynebu'r cynllun o'r cychwyn

  1. Cadarnhad y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Croeso gan y Dem.Rhydd.wedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Rwy'n falch na fydd ffordd liniaru'r M4 yn digwydd.

    "Mae angen taclo traffig yn ne ddwyrain Cymru, ond nid dyma'r ateb. Mae'r gost ariannol ac amgylcheddol yn rhy uchel.

    "Ry'n ni'n annog Llywodraeth Cymru i wario'r arian sydd wedi ei arbed ar yr M4 ar drafnidiaeth gyhoeddus, technoleg gwyrdd a thai fforddiadwy.

    "Byddai hynny'n osgoi'r angen am ffordd liniaru, yn gymorth i daclo newid yn yr hinsawdd ac yn gwarchod ein hamgylchedd naturiol."

    Jane Dodds
  3. Plaid Cymru'n beirniadu 'amhendantrwydd' Llafurwedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Plaid Cymru

    Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: “Rhybuddiodd Plaid Cymru am flynyddoedd y byddai’r llwybr du yn gamgymeriad costus ac amgylcheddol niweidiol, ond cael ein gwawdio gawsom ni gan Lafur Cymru.

    "Wedi wyth mlynedd o fynd yn ôl ac ymlaen, ymddengys bod y prif weinidog wedi sylweddoli mai Plaid Cymru oedd yn iawn wedi’r cyfan ac o’r diwedd wedi penderfynu dileu’r llwybr du.

    “Mae’r ymchwiliad a’r ymgynghori wedi costio dros £44m.

    "Mae amhendantrwydd Mark Drakeford wedi costio i ni flynyddoedd pryd y gellid bod wedi bod wrthi’n cynllunio gwelliannau eraill a mwy cynaliadwy i’r ffyrdd yng Nghasnewydd a’r de-ddwyrain, buddsoddi’n sylweddol i gryfhau cludiant cyhoeddus i gael pobl oddi ar y ffyrdd ac allan o’u ceir, a datblygu prosiectau seilwaith gwyrdd newydd i Gymru.

    “Mae hon yn ffordd warthus i lywodraeth ddod i benderfyniadau allweddol."

    Adam Price
  4. Gwrthod ar sail amgylcheddol hefydwedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Drakeford i annerch y Cynulliadwedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Llywodraeth Cymru

    Bydd Mark Drakeford yn gwneud datganiad llafar i'r Cynulliad nes ymlaen, ac mae'n dweud y bydd yn rhoi rhagor o fanylion am beth fydd yn digwydd nesaf bryd hynny.

    "Mae’r adroddiad a’r llythyr penderfyniad yn cael eu cyhoeddi cyn fy natganiad llafar i’r Cynulliad yn nes ymlaen heddiw," meddai.

    "Byddaf yn amlinellu’r camau nesaf mewn perthynas â’r mater yn y datganiad llafar hwn."

    Fydd rhyw gynllun arall yn cael sêl bendith am fod y ffordd liniaru wedi'i chanslo felly?

    datganiadFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  6. Ni fydd arian ar gael am sbelwedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. 'Effeithiau andwyol yn drech na'r manteision'wedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

    Yn ei benderfyniad mae Mark Drakeford yn dweud: "Rwy'n cydnabod casgliadau'r Arolygydd ynghylch manteision ac anfanteision y Prosiect.

    "Fodd bynnag, rwy'n rhoi mwy o bwys na'r Arolygydd ar yr effeithiau andwyol y câi'r Prosiect ar yr amgylchedd.

    "Yn arbennig, rwy'n rhoi pwys mawr iawn ar y ffaith y câi'r Prosiect effaith andwyol sylweddol ar SoDdGAoedd Gwastadeddau Gwent a'u rhwydwaith o ffosydd a'i fywyd gwyllt, ac ar rywogaethau eraill, ac y câi effaith andwyol barhaol ar dirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent

    "O ganlyniad, yn fy marn i mae effeithiau andwyol y Prosiect ar yr amgylchedd (o'u cymryd gyda'i anfanteision eraill) yn drech na'i fanteision."

    Mark Drakeford
  8. Mwy o drafod ar Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Taro'r Post
    ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Dim arian?wedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Y penderfyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen gynhwysfawr ar eu gwefan i gyhoeddi'r penderfyniad.

    .

  11. Dim ffordd liniaruwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019
    Newydd dorri

    ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

    Mae gohebydd gwleidyddol ´óÏó´«Ã½ Cymru wedi trydar fod Llywodraeth Cymru ddim ar fwrw 'mlaen gyda chynllun y ffordd liniaru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Cairns yn 'poeni am benderfyniad negyddol'wedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

    Ar ´óÏó´«Ã½ Radio Wales y bore 'ma dywedodd ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns y byddai ffordd liniaru yn "ateb gofynion dau draean o economi Cymru, a dyna pam ei fod mor bwysig".

    "Mae'n allweddol ar gyfer unrhyw fusnes ar draws de Cymru, ac rydw i wir yn poeni os fydd Mark Drakeford yn gwneud penderfyniad negyddol heddiw," meddai.

    "Mae'r arian ar gael, ac rydw i ar ddeall bod adroddiad positif gan archwilwyr hefyd."

    Alun Cairns
  13. Beth yw profiad defnyddwyr y ffordd?wedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

    Un sy'n gwneud y siwrnai ar hyd y briffordd yn gyson yw'r Dr Eleri Rosier, sy'n darlithio yn ysgol fusnes Prifysgol Caerdydd.

    Dyw trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ymarferol iddi, ac mae'n gweithio o'i chartref yn Rhaglan, Mynwy, yn achlysurol er mwyn osgoi'r daith drwy Dwneli Bryn-glas ger Casnewydd.

    Dywedodd bod y daith yn aml yn "rhwystredig" ac yn "cael effaith ar fy niwrnod cyfan".

    Disgrifiad,

    A fydd ffordd liniaru'r M4 yn cael ei hadeiladu?

  14. Hanes y drafforddwedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

    Tan y 1960au, doedd dim traffordd yn cysylltu dwyrain a gorllewin de Cymru.

    Dim ond ers 1994 y mae'r draffordd yn dilyn ei llwybr presennol cyfan o Bont Hafren i Bont Abraham, gyda'r ffordd newydd i ail Bont Hafren yn cael ei chwblhau ddwy flynedd wedi hynny.

    M4
  15. 'Ymosodiad ar natur'wedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

    Yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun, fe wnaeth grwpiau amgylcheddol wrthwynebu'r cynllun yn chwyrn.

    Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent y byddai'r cynllun yn "rhwygo cydlyniad hanfodol ardal Lefelau Gwent".

    Mae'r ardal yn cynnwys wyth safle o ddiddordeb gwyddonol eithriadol, ac mae wedi'i dynodi'n warchodfa natur cenedlaethol.

    Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn gwrthwynebu'r cynllun.

    M4Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  16. Lleddfu problemau traffigwedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

    Nod y ffordd liniaru oedd lleddfu problemau traffig yn ardal Casnewydd, ac yn benodol o amgylch twneli Bryn-glas.

    Mae oedi ar y ffordd yn ystod cyfnodau prysura'r dydd.

    Mae CBI Cymru, sy'n cynrychioli arweinwyr busnes, eisiau i'r cynllun fynd yn ei flaen, yn ogystal â grŵp newydd Plaid Brexit yn y Cynulliad.

    M4
  17. Bore dawedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

    Fe fydd cyhoeddiad am ddyfodol cynllun ffordd liniaru'r M4 yn ardal Casnewydd o fewn y munudau nesaf.

    Ar ein llif byw arbennig fe gewch chi'r cyhoeddiad, a'r ymateb iddo.

    Croeso aton ni.