´óÏó´«Ã½

Crynodeb

  • Chwe pherson arall wedi marw, gan ddod â'r cyfanswm i 28 bellach

  • 113 o achosion newydd wedi'u cadarnhau yng Nghymru - cyfanswm o 741

  • Sefyllfa coronafeirws mewn rhannau o Went yn debyg i rannau o'r Eidal

  • Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pwerau newydd i leihau coronafeirws

  • Canghellor yn cyhoeddi mesurau i gynorthwyo gweithwyr hunangyflogedig

  1. Y darlun ar draws Cymruwedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Dyma'r darlun ar draws Cymru ddydd Iau fesul bwrdd iechyd.

    Yn gynharach fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod chwech arall wedi marw ac mae'r cyfanswm bellach yn 28.

    Mae nifer yr achosion yng Nghymru bellach yn 741 - ac mae hanner o'r rheiny yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

    map o achosion
    Disgrifiad o’r llun,

    Y darlun o nifer yr achosion ar draws Cymru ddydd Iau

  2. AC beichiog yn lleisio barnwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Twitter

    Yr Aelod Cynulliad Bethan Sayed yn ymateb i'n stori ni heddiw am effaith y pandemig ar fenywod beichiog.

    Dywed Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru "y bydd angen i wasanaethau newid" gan fod "y gwasanaeth dan straen".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Tro pedol gan Rehauwedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Yn dilyn beirniadaeth ddoe fod ffatri Rehau ym Mlaenau Ffestiniog yn dal i orchymyn eu staff i weithio, mae'r cwmni wedi ailfeddwl a chyhoeddi eu bod yn cau.

    Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Mae diogelwch a lles gweithwyr Rehau yn flaenoriaeth. Mae'r tîm rheoli felly wedi penderfynu atal gwaith dros dro yn y ffatri ym Mlaenau Ffestiniog, a hynny ar unwaith, a chau pencadlys y cwmni yn Ross-on-Wye.

  4. Erlyn pesychwyrwedi ei gyhoeddi 14:46 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Twitter

    Anodd credu, ond mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi clywed adroddiadau am bobl yn honni fod coronafeirws arnyn nhw ac yna'n peswch yn fwriadol ar aelodau o'r gwasanaethau brys.

    Mae'r CPS yn dweud na fyddan nhw'n oedi cyn erlyn pobl am yr arfer ffiaidd yma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Neges yr heddlu...wedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Twitter

    Wrth i bobl aros adre oherwydd yr argyfwng coronafeirws, mae sawl elusen wedi mynegi pryder y gallai hyn arwain at gynnydd mewn trais yn y cartref.

    Mae Heddlu'r Gogledd am atgoffa pobl fod y gwasanaethau ar eu cyfer yna o hyd, ac yn gweithredu fel arfer.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Cais am waedwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae'r Gwasanaeth Gwaed yng Nghymru wedi apelio ar roddwyr gwaed "ffit ac iach" i fynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn Llandaf.

    Mae rhoi gwaed yn cael ei gyfrif yn weithgaredd teithio hanfodol.

    Mae modd trefnu apwyntiad .

    gwaedFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Pasio mesurau brys i ddelio â COVID-19wedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae'r Cynulliad bore 'ma wedi cyflwyno cyfres o fesurau brys fel bod modd parhau â busnes seneddol hanfodol cysylltiedig â COVID-19.

    Bellach, dim ond pedwar Aelodau Cynulliad sydd eu hangen i bleidleisiau yn y Cyfarfod Llawn fod yn ddilys.

    Gellir defnyddio fideogynadledda i gynnal y cyfarfodydd llai ar-lein.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. 113 o achosion newydd a chwech wedi marwwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020
    Newydd dorri

    Mae Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod 113 o achosion newydd wedi'u cadarnhau o coronafeirws yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm yma i 741.

    Mae chwech o bobl wedi marw o ganlyniad i'r haint yma, sy'n codi'r cyfanswm yng Nghymru i 28.

    Mae'n debygol fod nifer yr achosion go iawn yn uwch gan nad yw pawb yn cael prawf am y clefyd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Anfon teulu o draethwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Cafodd teulu eu hanfon adref gan yr heddlu ar ôl iddyn nhw gael eu dal yn cael diwrnod allan ar y traeth.

    Dywedodd swyddogion o Heddlu'r Gogledd eu bod wedi stopio'r teulu o ochrau Lerpwl wrth iddyn nhw gyrraedd Llanfairfechan ddydd Mercher a dywedwyd wrthyn nhw am droi rownd a mynd adref.

    O dan ganllawiau newydd y Llywodraeth i geisio atal lledaeniad Covid-19, mae'n rhaid i'r cyhoedd aros gartref gan fynd allan am bedwar rheswm yn unig.

  10. Y gyfradd log yn is nag erioed o'r blaenwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae Banc Lloegr wedi penderfynu cadw cyfraddau llog ar 0.1%.

    Yr wythnos ddiwethaf fe ostyngodd y gyfradd o 0.75% i 0.1% yn sgil bygythiadau haint coronafeirws i'r economi.

    banc lloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Bwgan coronafeirwswedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae pentref Maenclochog yn cynnal cystadleuaeth Bwgan Brain yn ystod yr argyfwng Coronafeirws i gynnal diddordeb pobl ac fel bach o hwyl.

    Un o'r ymdrechion yw Jac y Jwc a Sali Mali - go dda!

    bwganFfynhonnell y llun, Tudalen Facebook Cymuned Maenclochog
  12. Dyn, 47, wedi marw tra'n hunan ynysuwedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae dyn 47 o Wrecsam a oedd wedi bod yn hunan ynysu yn ei gartref ar ôl cael symptomau o coronafeirws wedi marw.

    Roedd Tim Galley wedi mynnu nad oedd am fynd i'r ysbyty am nad oedd ganddo broblemau iechyd eraill ac am nad oedd am roi straen ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd.

    Fe ddywedodd wrth ei bartner am gadw draw am 11 diwrnod wedi iddo deimlo'n sâl ar ôl bod ar barti stag.

    Cafodd ei ganfod yn farw yn ei fflat ddydd Mawrth.

    Dywedodd ei bartner, Donna: "Dwi jest eisiau pobl i ddilyn y cyngor ac aros yn ddiogel gartref a pheidio cymryd unrhyw risg.

    "Roedd Tim ddim am wastraffu amser y GIG ac fe ddewisodd beidio ffonio i gael cymorth ac yn lle hynny aros adref gan feddwl y byddai'n gwella. Mae'n dorcalonnus."

  13. Rhybudd i fusnesau sy'n dal ar agorwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Cyngor Powys

    Mae Cyngor Sir Powys a Heddlu Dyfed Powys yn atgoffa busnesau ym Mhowys, o ganlyniad i’r feirws Covid-19 i gydymffurfio â chyngor.

    Daw’r rhybudd yn dilyn cyhoeddiadau diweddar Llywodraethau y DU a Chymru bod rhaid i fusnesau a safleoedd gau oherwydd y bygythiad i iechyd y cyhoedd o’r Covid-19.

    Rhaid i fusnesau sy’n cael aros ar agor fodloni gofynion llym er mwyn sicrhau nad yw cwsmeriaid a gweithwyr yn cael eu rhoi mewn perygl sy’n hanfodol.

  14. RNLI'n cael eu galw allan etowedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Cafodd gwirfoddolwyr gyda chymdeithas badau achu yr RNLI yn Y Barri eu galw allan ger Ynys Sili brynhawn ddoe.

    Dyma oedd yr ail alwad iddyn nhw ei dderbyn mewn pedwar diwrnod i ddod i gynorthwyo pobl oedd wedi cael eu dal gan y llanw.

    Mae'r elusen yn gofyn eto i'r cyhoeddi dalu sylw i gyngor llywodaethau Cymru a'r DU ac i beidio mynd i'r traeth neu'r arfordir rhag ofn iddyn nhw fynd i drafferthion.

  15. Pryder llawfeddyg am gleifion canserwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Fe sonion ni'n gynharach am Dr Gethin Williams, sy'n llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, ei fod yn poeni'n arbennig am gleifion fydd angen llawdriniaethau brys.

    Dyma'r cyfweliad gydag e gafodd ei wneud ar gyfer rhaglen Newyddion S4C neithiwr.

    Disgrifiad,

    Perygl i gleifion canser farw oherwydd diffyg gofal dwys

  16. Pryder teulu ar wahânwedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru

    Ddechrau'r mis fe ddath Emma Durotye adre o Nigeria i Langefni, Ynys Môn er mwyn rhoi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf. Mae Emma wedi bod yn athrawes yn Nigeria ers sawl blwyddyn ac yn briod â Beazy - sydd yn dal yn Nigeria ar hyn o bryd.

    Roedd gŵr Emma i fod i hedfan ati ddiwedd y mis er mwyn bod hefo'i wraig ar gyfer y genedigaeth ond mae o bellach yn sownd yn Nigeria sydd bellach ar 'lockdown'.

    Dywedodd Emma ar y Post Cyntaf fore Iau fod hynny wedi digwydd er bod na ddim llawer o achosion yn Nigeria. Mae hi’n poeni sut effaith gaiff hyn ac a fydd 'na ddigon o fwyd ar gael i bawb yn y wlad.

    Emma a BeazyFfynhonnell y llun, Llun teulu/Facebook
  17. Cwis emoji S4Cwedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Rhywbeth i gymryd eich meddyliau oddi ar bethau am ychydig funudau. Pa raglenni mae'r emojis yn eu cynrychioli?

    Fe rown ni'r cyntaf i chi: Rownd a Rownd...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Yr ansicrwydd a'r emosiwn o adael ysgol ar fyr-rybuddwedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Dim ond bythefnos yn ôl, roedd un o ddisgyblion Ysgol Brynrefail yn dadlau mewn erthygl Cymru Fyw o blaid cadw adrannau chweched dosbarth ysgolion - gan egluro pa mor bwysig ydi'r chweched iddi hi.

    Erbyn heddiw, yn lle bod yno yn Llanrug yn paratoi at ei arholiadau ac yn mwynhau cwmnïaeth ei chyd-ddisgyblion, mae'r Lefel A wedi eu canslo oherwydd y coronafeirws a Gwenllian wedi gadael yr ysgol am byth ar fyr-rybydd. Dyma'i hymateb hi i'r dyddiau diwethaf.

    brynrefsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  19. Gwahardd ymweliadau ysbytai'r gogleddwedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Mae ymweld â holl ysbytai Gogledd Cymru wedi’i wahardd er mwyn helpu i atal rhag ymledu COVID-19.

    O heddiw (dydd Iau 26 Mawrth), dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y caniateir ymweld â chleifion nad ydynt wedi’u heintio â COVID-19:

    • Un rhiant neu warcheidwad ar gyfer cleifion mewnol paediatrig (Ward y Plant) a wardiau’r newydd-anedig;
    • Un ymwelydd ar y tro am gyfnod penodol ar gyfer cleifion sy’n derbyn gofal diwedd oes. Mae’n rhaid cael caniatâd prif nyrs y ward neu’r nyrs â chyfrifoldeb ymlaen llaw
    • Caniateir un partner geni o’r un cartref i gefnogi merched sy’n rhoi geni

    Efallai y bydd eithriadau eraill mewn amgylchiadau arbennig ar ddisgresiwn prif nyrs y ward/nyrsys â chyfrifoldeb neu reolwyr, yn unol â chyngor ein Tîm Rheoli Atal Heintiau.

  20. Mwy gan y Prif Swyddog Meddygol...wedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Yn ei gynhadledd newyddion yn gynharach, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

    "Ni allwn dwyllo'n hunain y bydd hwn yn gyfnod heriol iawn i'r GIG. Ry'n ni'n gofyn i staff weithio mewn cyfnod digynsail.

    "Strategaeth y DU yw oedi'r epidemig fel bod gennym amser i baratoi...ein gofal dwys, ein hadnoddau gofal critigol.

    "Rydym yn paratoi... mae pethau'n dawel yn y rhan fwyaf o'n hysbytai ar hyn o bryd, ond ry'n ni'n gwybod bod amseroedd anodd o'n blaenau."