´óÏó´«Ã½

Crynodeb

  • 1,451 o achosion yng Nghymru bellach a 62 wedi marw

  • Gohirio'r Eisteddfod Genedlaethol am flwyddyn

  • Cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £1.1bn i fusnesau

  1. Rhodd llywydd clwb pêl-droed i ysbytywedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Mae llywydd clwb pêl-droed Bangor wedi cyfranu £5000 i uned gofal dwys Ysbyty Gwynedd.

    Mae Domenico Serafino, ynghyd â nifer fawr o chwaraewyr y clwb, gan gynnwys ei fab, yn dod o'r Eidal.

    Wedi iddo weld effaith haint coronafeirws ar ei wlad enedigol, penderfynodd Mr Serafino roi'r arian yn rhodd i'r ysbyty leol.

  2. Mwy o wybodaeth gan CBACwedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Twitter

    Er canslo arholiadau'r haf mae CBAC wedi bod yn diweddaru gwybodaeth a dyma'r wybodaeth ddiweddaraf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Marwolaethau Lloegrwedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Dywed y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr bod nifer y bobl sydd wedi marw o'r haint bellach yn 1,284 - 159 yn uwch na ddoe.

    Roedd y rhai fu farw rhwng 32 a 98 oed - roedd y rhan fwyaf â chyflyrau iechyd eraill.

    Dim ond pedwar o'r rhai fu farw oedd heb gyflwr iechyd arall - roedden nhw rhwng 56 ac 87 oed.

  4. Rhywbeth i godi calon?wedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Gweithiwr iechyd yn achosi ffigwr uchel?wedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Yn ei gynhadledd newyddion yn gynharach, fe holwyd y prif weinidog Mark Drakeford am y nifer uchel o achosion o coronafeirws yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ac ardal Gwent yn benodol.

    Dywedodd mai un rheswm posib oedd mai yma y daeth y feirws i'r amlwg mewn gweithiwr iechyd yn gynt nag unman arall, ac felly bod llawer mwy o brofion wedi eu gwneud yn yr ardal.

    Ychwanegodd bod tystoliaeth bod y feirws yn teithio o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws y DU, ac felly mai Gwent fyddai'r ardal gyntaf i gael ei tharo'n galed.

  6. Trafod yr Eisteddfodau collwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae na drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol am yr eisteddfodau gafodd eu gohirio yn y gorffenol, yn sgil y penderfyniad i ohirio'r Brifwyl eleni.

    Dywed Cadi Dafydd a Iestyn Tyne mai Eisteddfod 1914 oedd y ddiwethaf i gael ei gohirio, ac mai eisteddfod radio oedd yn 1940 a 1941.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Canolfannau arbenigol ychwanegolwedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Cyngor Powys

    Cyhoeddodd Cyngor Sir Powys y bydd dwy ysgol arbennig yn y sir yn dod yn Ganolfannau Arbenigol Gofal Plant Brys.

    Bydd Ysgol Cedewain yn Y Drenewydd ac Ysgol Penmaes yn Aberhonddu’n gweithio fel canolfannau arbenigol o ddydd Llun 30 Mawrth i helpu gweithwyr hanfodol / allweddol sydd â phlant fyddai fel arfer yn mynd i ysgolion arbennig neu unedau atgyfeirio disgyblion.

  8. Map o achosion yr haint fesul bwrdd iechydwedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Map o achosion dydd Llun, 30 Mawrth, fesul bwrdd iechyd
    Disgrifiad o’r llun,

    Map o achosion dydd Llun, 30 Mawrth, fesul bwrdd iechyd

  9. Sesiynau tÅ· yn dod i'r tonfeddiwedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Addasu Cardi-gan tan 2021?wedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Cau tafarn wledig oedd yn torri'r rheolauwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Cyngor Ceredigion

    Ar nos Wener, 27 Mawrth, daeth swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion ar draws tafarn wledig yn gweini alcohol i gwsmeriaid ac yn gweithredu fel yr arfer yn groes i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

    Galwyd am gymorth yr Heddlu, a bydd hysbysiad gwahardd yn cael ei gyflwyno i’r Landlord yn awr.

    Nodwyd nifer o droseddau eraill, a bydd Pwyllgor Trwyddedu’r Cyngor yn llunio adroddiad.

  12. Mwy o fanylion am gynllun cefnogi prifysgolionwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Cyngor yn newid trefn cinio am ddim i ddisgyblionwedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Cyngor Rhondda Cynon Taf

    Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi y bydd eu darpariaeth cinio am ddim i ddisgyblion yn newid ymhen wythnos.

    O 6 Ebrill ymlaen, bydd arian yn cael ei drosglwyddo i gyfrifon banc rhieni a gwarchodwyr disgyblion.

    Ar hyn o bryd mae darpariaeth cinio a brecwast am ddim ar gael i rieni a gwarchodwyr, gyda'r prydau ar gael i'w cludo o ysgolion cynradd y sir.

    Ond yn y dyfodol bydd y cyngor y trosglwyddo £19.50 bob dydd Llun i rieni a gwarchodwyr ar gyfer prydau bwyd i blant ar gyfer yr wythnos i ddod.

  14. 210 achos newydd ac 14 wedi marwwedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru newydd gyhoeddi fod 210 o achosion newydd wedi eu cadarnhau o Covid-19 yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm i 1,451.

    Mae'r nifer cywir o achosion yn debygol o fod yn uwch.

    Hefyd, mae 14 yn fwy o farwolaethau wedi bod ymysg pobl sydd â'r feirws, sy'n golygu bod 62 o bobl yng Nghymru bellach wedi marw gyda'r clefyd.

  15. 'Anghofio' am bobl sydd angen gofalwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Mae Stephen Jameson, 54 oed o Gasnewydd, yn feirniadol nad yw Cyngor Casnewydd yn darparu offer diogelwch i'r person sy'n darparu gofal iddo yn ei gartref.

    Torrodd Stephen ei wddf mewn damwain car yn 2004. Ni all godi o'r gwely nac ymolchi a newid heb gymorth gan ofalwr, ac mae hefyd yn byw gyda diabetes math 1.

    Mae gofalwr yn dod i'w gartref ddwywaith y dydd, ond does gan y gofalwr na Stephen unrhyw offer diogelwch personol, ac mae'r cyngor wedi dweud nad ydyn nhw'n gallu gwneud dim drosto.

    Dywedodd: "Rwy'n deall fod rhaid i gartrefi gofal a'r Gwasanaeth Iechyd gael PPE (offer diogelwch). Ond does dim dewis gennym ni chwaith. Mae fel tasen nni wedi cael ein hanghofio'n llwyr."

  16. Arian gan Aaronwedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Mae Golwg360 yn adrodd fod Aaron Ramsey wedi rhoi rhodd o £10,000 i elusen yng Nghaerdydd.

    Dywed Golwg360 fod yr arian wedi ei roi i elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, wedi iddi lansio apêl i godi arian ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Cofiwch am hyn heddiwwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru

    I'ch diddanu chi adre yn y cyfnod yma, mae Radio Cymru wedi dechrau prosiect newydd - dyma'r manylion....

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Gwaeth i ddodwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Cadarnhaodd prif weinidog Cymru eiriau prif weinidog y DU dros y penwythnos:

    "Fe fydd mwy o achosion o coronafeirws yma yng Nghymru, ac fe fydd rhai yn diodde effeithiau gwaeth o'r clefyd.

    "Mae hynny'n mynd i ddigwydd tan y bydd y mesurau a gyhoeddwyd wythnos yn ôl yn dechrau cael effaith.

    "Rhaid i ni barhau gyda hynny fel bod effaith y clefyd yn llai yn y pen draw."

  19. Rhaglen lawn Dros Giniowedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Twitter

    Dyma fydd yr arlwy ar raglen Dros Ginio gyda Dewi Llwyd heddiw:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Manylion y gronfa argyfwngwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dyma fwy o fanylion am gronfa argyfwng £500m Llywodraeth Cymru: Mae’r gronfa yn cynnwys dwy brif elfen:

    1. Bydd cronfa newydd Banc Datblygu Cymru gwerth £100m ar gael i gwmnïau sy’n profi problemau llif arian o ganlyniad i’r pandemig a bydd yn darparu benthyciadau sydd rhwng £5,000 a £250,000 gyda chyfraddau llog ffafriol.

    2. Hefyd bydd busnesau’n gallu elwa o bot argyfwng gwerth £400m yn darparu’r canlynol:

    • Grantiau o £10,000 ar gyfer micro-fusnesau sy’n cyflogi hyd at naw o bobl. Mae hyn yn cynnwys unig fasnachwyr sy’n cyflogi staff. Bydd y busnesau cymwys yn gallu gwneud cais erbyn canol mis Ebrill.
    • Grantiau o hyd at £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig gyda rhwng 10 a 249 o gyflogeion. Bydd y busnesau cymwys yn gallu gwneud cais o’r wythnos nesaf ymlaen.
    • Cefnogaeth i gwmnïau mwy yng Nghymru, sydd o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd allweddol i Gymru. Bydd yr elfen hon yn agored i fusnesau cymwys yn ystod y pythefnos nesaf.